Main content

BBC Cymru Yn Dod Â’r Daith Etholiad i Gaerfyrddin

Newyddion

Mae BBC Cymru ar daith! Yn ystod y cyfnod sy'n arwain at yr Etholiad Cyffredinol, bydd y timau newyddion a rhaglenni'n mynd â'r stiwdio i Gymru benbaladr. Gan deithio o Gaerfyrddin i Landudno, byddant yn ymweld ag etholaethau allweddol ar hyd y ffordd ac yn darlledu oddi yno. Bydd trafod ar y pynciau sy'n tanio trafodaeth yn lleol yn ogystal â dadansoddi o'r ymgyrchu sydd ar garreg y drws a thu hwnt.

Ddydd Mercher Ebrill 22, bydd pabell BBC Cymru yn ymweld â chanol tref Caerfyrddin. Anogir aelodau'r cyhoedd i alw i mewn i gymryd rhan yn y rhaglenni ac i weld BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, Newyddion9 a Wales Today yn darlledu’n fyw o babell BBC Cymru ar Sgwâr y Clos Mawr.

Bydd y darlledu o Sgwâr y Clos Mawr yn dechrau gyda'r Post Cyntaf ar Radio Cymru o 6am ymlaen ac wedyn Taro'r Post rhwng 1 a 2pm. Radio Wales fydd yn hawlio'r sylw o 4pm ymlaen gyda Good Evening Wales.

Bydd Coffee #1 hefyd yn croesawu rhaglenni'r BBC, gyda Good Morning Wales Radio Wales am 6am a Post Prynhawn Radio Cymru yn darlledu o 5pm ymlaen.

Bydd rhaglenni amser cinio a gyda'r nos Wales Today, Newyddion9 ac Y Sgwrs yn ymweld â Chaerfyrddin hefyd ac yn darlledu'n fyw o’r sgwâr. Bydd Wales Today ar BBC One Wales am 1.30pm a 6.30pm a Newyddion9 ar S4C am 9pm gyda Y Sgwrs yn dilyn am 9.30pm.

Hoffai Radio Cymru glywed pa faterion sy'n bwysig i wrandawyr wrth benderfynu sut i fwrw pleidlais. Gofynir i unrhywun sydd â diddordeb mewn cyfrannu at Post Cyntaf neu Taro'r Post ffonio 029 2032 2066 neu ebostio tarorpost@bbc.co.uk a post.cyntaf@bbc.co.uk

Mae'r daith yn rhan o gynlluniau uchelgeisiol BBC Cymru i roi sylw i Etholiad Cyffredinol 2015 ar deledu, radio, ar-lein ac yn symudol - ac mewn cymunedau lleol. Ar ôl ymweld â Chaerfyrddin, bydd rhaglenni a gwasanaethau newyddion BBC Cymru Wales yn galw yn Nhregaron, Cei Connah, Llandudno a Chaerdydd.

Dywedodd Mark O’Callaghan, Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru Wales: "Sylw BBC Cymru Wales i'r etholiad yma fydd ei arlwy mwyaf arloesol a chofiadwy eto, gyda'n cynulleidfa'n gallu dilyn y siwrnai hyd at Fai 7 ar deledu, radio, ar-lein ac yn symudol.



"Bydd posib i wylwyr ymuno â ni ar lwybr yr etholiad wrth i ni fynd â’n rhaglenni newyddion ar daith, gan roi cyfle i bleidleiswyr, ar hyd a lled Cymru, sôn am y materion sy’n bwysig iddyn nhw."



Manylion llawn y daith

Dydd Llun Ebrill 20: Sgwâr y Brenin, Y Barri

Dydd Mercher Ebrill 22: Sgwâr y Clos Mawr Guildhall, Caerfyrddin

Dydd Gwener Ebrill 24: Y Sgwâr, Tregaron

Dydd Llun Ebrill 27: Coleg Cambria – Campws Glannau Dyfrdwy, Cei Connah

Dydd Mercher Ebrill 29: Promenâd Llandudno, ger Parêd y Gogledd

Dydd Gwener Mai 1: Stryd y Frenhines ger Churchill Way, Caerdydd

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cyfnod y cyfryngau cryno