Main content

Geirfa Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr: 16/04/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Dan Yr Wyneb - Merêd

telynores - harpist (female)

ymchwil - research

casglwyr caneuon gwerin - collectors of folk songs

amhrisiadwy - priceless

tarddiad - source

y fraint - the privilege

yn nodwedd amlwg - an obvious feature

gwaddol - inheritence

cawr mwyn - gentle giant

arwr - hero

...Dylan Iorwerth yn cyflwyno rhaglen arbennig i gofio am y Dr. Meredydd Evans, fuodd farw ym mis Chwefror eleni. Fel 'Merêd' oedd pawb yn ei nabod o ac mi fydd colled mawr ar ei ôl ,gan ei fod wedi cyfrannu cymaint at wahanol rannau o fywyd Cymru. Fo oedd yr arbenigwr ar ganu gwerin a dyma i chi’r delynores Gwenan Gibbard yn sôn am ei hatgofion hi o Merêd ac o'i wraig Phyllis Kinney...



Rhaglen Dei Tomos - Ofergoelion y glowyr

llên gwerin - folklore

ofergoelion y glowyr - miners' superstitions

cysuro - to reassure

cynhaliaeth - support

Dydd Gwener y Groglith - Good Friday

amheus - doubtful

agweddau - aspects

llygod mawr - rats

trigfan - habitation

trychineb - disaster

... Gwenan Gibbard oedd honna yn cofio am y Dr Meredydd Evans ar raglen Dylan Iorwerth. Caneuon gwerin wrth gwrs oedd byd Merêd ond ychydig o lên gwerin gawn ni rwan. Mae Lynn Davies yn gwybod llawer iawn am ofergolion y glowyr, ac fel y cawn ni glywed roedd yna lawer o ofergoelion oedd yn ymwneud â dydd Gwener. Pam tybed?

Cyfrwng Cerdd - Hanes recordio cerddoriaeth

cynhyrchu - to produce

sefydlu - to establish

gwasgu recordiau - pressing vinyl records

arloesol - innovative

yn berchen ar - owner of

dyblygu - to duplicate

cymanfa ganu - hymn singing festival

clawr - sleeve

wedi cael ei grafu - had been scratched

mynd o nerth i nerth - going from strength to strength

... a dyna i chi ychydig o hanes ofergoelion y glowyr gan Lynn Davies yn sgwrsio ar raglen Dei Tomos nos Sul diwetha. Yntydy hi'n rhyfedd fel mae rhai pethau yn dod yn ôl i ffasiwn? Dan ni ei weld drwy'r mser efo dillad, ond mae'n wir hefyd am recordiau finyl yntydy? Mae'n well gan lawer o bobl brynu finyl y dyddiau hyn, ond edrych ar hanes recordiau finyl yng Nghymru gwaneth Gruff Lynch nos Iau diwetha efo Gari Melville a Dafydd Iwan. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Bore Cothi - Cranogwen

enw barddol - bardic name

disglair - brilliant

ennill ei thamaid - earn her keep

nodwydd - needle

morwriaeth - seamanship

hanes arfodirol - coastal history

diwydiant - industry

y fodrwy briodasol - the wedding ring

menyw - dynes

ailgylchu - to recycle

Dyna ni wedi cael clywed y canwr David Lloyd a chymnanfa ganu Cwm Tawe, yn ogystal â chlywed lleisiau Gary Melville a Dafydd Iwan yn rhoi hanes cwmni Qualiton ar y rhaglen Cyfrwng Cerdd. Faint ohonoch chi sydd wedi clywed am "Cranogwen" tybed? Ddim llawer o bosib, ond mi roedd hi'n ddynes, neu fenyw, bwysig iawn rhyw gant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Dyma i chi y Dr. Elin Jones yn rhoi ychydig o'i hanes i Shan Cothi ddydd Iau diwetha...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ffeinal Tlws Cymdeithas Pel-droed Cymru

Nesaf

Cyfnod y cyfryngau cryno