Main content

Dau dim o Gymru yn Wembley

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Wel! Dyna bnawn Sul oedd hi, a dyna bnawn Sul y bydd hi!

Wrecsam a Chasnewydd yn llwyddo i gyrraedd Wembley i wynebu ei gilydd yn ffeinal y gemau ail gyfle, er mwyn sicrhau dyrchafiad i Adran Dau'r tymor nesaf, a dau dîm o Gymru yn wynebu ei gilydd yn Wembley.

Cymaint oedd y cyffro nes y byddai rhywun yn amau fod Cymdeithas Beldroed Lloegr yn brysur gynnal Cwrs Wlpan i holl swyddogion a stiwardiaid Wembley ar gyfer yr achlysur! Cyflawniad unigryw a d’oes ond obeithio y bydd yr achlysur yn un i'w gofio.

Ond faint o chwaraewyr Cymreig sydd yn y timau yma, neu fel mae cymaint o ddilynwyr lleol Cymreig yn hoffi ei ofyn cyn mynd i siopa mewn archfarchnad gadwyn ryngwladol, - "Faint o locals sy gennych chi yn y tîm?"

Ychydig iawn!

Ond, fe all academïau a chanolfannau hyfforddi'r ifanc elwa o’r llwyddiant yma, gyda gwelliant yn yr hyn y byddant yn ei dderbyn ar gyfer eu hyfforddi. Mae esiampl Ben Davies o Abertawe eisoes yn enghraifft i’r hyn a ellir ei ddatblygu.

Ond tydi byd peldroed Cymru ddim i gyd yn fêl, a tydi Uwchgynghrair Cymru ddim yn rhannu'r un llwyddiant a’r timau sydd yn chwarae dros y ffin.

Yn eironig iawn, tîm sydd wedi ei sefydlu yn Lloegr, y Seintiau Newydd ydi enillwyr ein Uwchgynghrair cenedlaethol, gyda thîm arall, Airbus wedi ei leoli nepell o ffin Sir y Fflint a ffin Lloegr gerllaw!

Gyda Ffeinal Cwpan Cymru ar y Cae Ras brynhawn Llun, tybed faint o dorf fydd yna?

Bydd cefnogwyr Bangor yn siŵr o fod yno yn llawn llais a chan, ond tybed faint aiff i gefnogi Prestatyn yn eu hymddangosiad cyntaf yn y rownd derfynol?

Ond gyda thorfeydd pitw'r Uwchgynghrair yn creu pryder, a ydi'n amser i rywun gynnal ymchwiliad i ddarganfod ac amlinellu'r dyfodol ar yr elfen yma o beldroed Cymru. Rwyf eisoes o’r farn fod angen trefnu cynhaliaeth gwell i Uwchgynghrair Cymru yn y tymor byr ac yn yr hir dymor .

Tybed a oes yna achos i sicrhau neu sefydlu trefn o arolygu safon yr hyn a geir ei hyfforddi, trefn arweinyddiaeth a rheolaeth y clybiau, gan sicrhau safon y chwaraewyr sydd yn cael eu datblygu o fewn academïau Uwchgynghrair Cymru?

Faint o’r chwaraewyr sydd wedi cyrraedd safon sydd yn cynnig gwell na'r hyn a fu’m yn brofi yn y gorffennol?

Hwyrach mai etifeddiaeth y llwyddiant proffesiynol Seisnig fyddai cyfrannu a chodi ymwybyddiaeth o’r angen i farchnata’r Uwchgynghrair yn well, a hefyd i wella safonau er mwyn sicrhau gwell i’n prif gynghrair cenedlaethol yma yng Nghymru.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Sioe gerdd yw'r byd pel-droed!

Nesaf

Pigion i ddysgwyr: Geirfa 02 Mai 2013