Main content

Pigion i ddysgwyr: Geirfa 02 Mai 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Daf a Caryl - Iwan Rheon



comedi sefyllfa - situation comedy

hysbysebu - to advertise

be' yn y byd - what on earth

ymarfer - to rehearse

mor deyrngar - so faithful

anrhydedd - an honour

yn llythrennol - literally

cymeriad - character

dirgelwch - mystery





"...efo Iwan Rheon, sef ein gwestai arbennig ar raglen Daf a Caryl ddydd Llun. Mae'n bosib eich bod wedi gweld Iwan yn actio yn y rhaglen boblogaidd iawn, ‘Game of Thrones’. Mae o hefyd wedi bod yn ffilmio rhaglen gomedi ar ITV efo Sir Ian McKellen a Sir Derek Jacoby sef ‘Vicious’. Gofynnais i i Iwan pa fath o raglen gomedi oedd hi?"



Talwrn - Rhaglen gyntaf



cerdd - poem

testun - subject

hwiangerdd - nursery rhyme

nain - mam-gu

wyrion - grandchildren

canu'n swynol - singing sweetly

uwch ei chrud - above her cradle

gwynfyd clyd - cosy bliss

hud - magic





"ac mi fyddwn ni'n gweld Iwan ar y teledu yn 'Vicious' yn fuan iawn. Pob lwc iddo fo ynde? Roedd hi'n braf gweld bod Talwrn yn ôl ar Radio Cymru ar nosweithiau Sul. Dyma i chi flas o'r rhaglen gynta, gyda Erin Prysor o dîm Ysgol y Berwyn yn darllen ei cherdd ar y testun Hwiangerdd. Un o hwiangerddi mwya enwog y Gymraeg ydy 'Dacw Mam yn dwad' a dyma Erin yn ei cherdd yn disgrifio taith bywyd merch o fod yn blentyn yn gwrando ar ei Mam yn canu 'Dacw Mam yn dwad' , i'r adeg pan mae hi'n Nain ei hunan yn canu'r un gân i'w hwyrion"



Taro'r Post - Jason



cyn-filwr - ex-soldier

y fyddin - the army

disgwyl chi mas yna - waiting for you out there

afiach - disgusting

iau - younger

dianc - to escape

crio - llefain

fatha dw ni'm be - like nothing on earth

cwffio - ymladd

ail-afael - to re-establish



Erin Prysor yn fan'na efo cerdd arbennig iawn i bob mam a nain yn y wlad. Buodd Jason, cyn-filwr o ogledd Cymru, yn sôn ar Taro'r Post ddydd Mawrth fel y basai milwyr weithiau'n crio eisiau mam, yngnghanol yr ymladd fuodd yn digwydd yn rhyfel Iraq. Clywon ni hefyd ar yr effaith gaeth y rhyfel honno ar fywyd Jason a sut aeth o o'i chwmpas hi i newid ei fywyd...



Dan yr Wyneb - Operau Sebon



cynhyrchydd - producer

her - a challenge

darlledwyr - broadcaster

gofynion - demands

datblygu - to develop

nawdd - financial backing

hanfodol - essential

esgor ar - to lead to

trafod - to discuss

nacau - to negate



"Mi fasai stori Jason yn gwneud ffilm dda yn base hi? Stori dda a thrist ond efo diwedd hapus. A thrafod drama oedd Dylan Iorwerth ar Dan yr Wyneb ddydd Llun. Mi roedd ganddo fo ddau gynhyrchydd dramau yn gwmni iddo fo - Ynyr Williams, sydd un o gynhyrchwyr Pobol y Cwm a Branwen Cennard sydd wedi cynhyrchu nifer o ddramau Cymraeg. Operau Sebon oedden nhw'n eu trafod ddydd Llun. Faint o her ydy hi i ddarlledwyr gynhyrchu operau sebon y dyddiau hyn tybed?"



Daf a Caryl - Mam



profi - to test

llithren - slide

dramor - overseas

cyflog - wages

tintws - backside

gwyddonol - scientific

ffrithiant - friction

suddo - to sink

lluchio carreg - to throw a stone

delfrydol - ideal



"Braf clywed Branwen Cennard yn fan'na yn dweud ei bod hi'n hoff iawn o Coronation Street, a hithau wedi cynhyrchu cymaint o ddramau da iawn i S4C. Mi ges i gyfle i ddweud stori ddramatig iawn ar Daf a Caryl ddydd Iau. A seren y ddrama bach yma oedd...Mam. Peidiwch â chwerthin gormod plîs - mae gan bawb eu teimladau..."



Daf a Caryl - Matthew Gravelle



Dros Glawdd Offa - yn Lloegr

cyfres - series

llofrudd - murderer

y seithfed pennod - the seventh episode

saethu - to shoot

awdur - author





"Mae'n ddrwg gen i Mam...ond mi roedd hi'n stori werth ei dweud yn doedd? Mi ddechreuon ni'r podlediad yma efo actor Cymraeg sydd wedi dod yn enwog yn y byd Saesneg, ac mi wnawn ni orffen y pod efo actor arall sy wedi gwneud enw iddo'i hun dros Glawdd Offa - Matthew Gravelle. Fo oedd ein gwestai arbennig fore Mawrth ar rhaglen Daf a Caryl. Os dach chi wedi bod yn gwylio'r gyfres 'Broadchurch' ar ITV mi fyddwch chi'n gwybod mai Joe Miller, y cymeriad oedd Matthew yn ei chwarae oedd y llofrudd. Dyma glip byr iawn lle mae Matthew yn dweud sut gaeth o wybod mai ei gymeriad o oedd y dyn drwg. Tasech chi'n licio clywed y sgwrs i gyd ewch I wefan BBC Radio Cymru a clicio ar rhaglen Dafydd a Caryl...

"

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dau dim o Gymru yn Wembley

Nesaf

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 3