Main content

Sioe gerdd yw'r byd pel-droed!

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mi es i weld sioe gerdd fy wyres yr wythnos yma. Cyfle i ddianc o fyd peldroed medda' nhw! Anghywir. O fewn pum munud, cafwyd can agoriadol y sioe - ‘I am Cannibal ! - ie, rhywbeth i gnoi cil oedd hwn i fod, ond allwn i ddim meddwl am rywbeth mwy danteithiol i dynnu fy sylw!

Tydi Luis Suarez druan ddim wedi bod ymhell o sylw unrhyw un yr wythnos yma, gyda jôcs diri amdano yn lledaenu bron yn ddyddiol.

A sôn am sioe gerdd, mae yna si ar led fod sioe gerdd newydd ar fin agor yn ardal Anfield o Lerpwl, gyda Luis ynserennu mewn cynhyrchiad brathog o ‘Dante’s Inferno’ tra bydd Brendon Rodgers yn portreadu cymeriad Virgil !

Os nad ydych yn deall cyd-destun y stori, yna dyma amlinelliad.

Hanes taith y bardd Dante trwy uffern ydi’r Inferno, gyda Dante yn creu pob math o drafferthion iddo’i hun drwy ei anallu i ddeall diwylliant anghyfarwydd. Daw'r Inferno i ddisgrifio cydnabyddiaeth Dante o bechod a chamweddau personol a sut i’w goresgyn. Rôl Virgil ydi arwain Dante druan tuag at iachawdwriaeth, achubiaeth a maddeuant!

Ie, mae’n swnio yn debyg iawn i fywyd canibal y Kop y dyddiau yma!

Ond, tra mae sylw’r byd wedi bod ar Luis Suarez yn dilyn ei helynt yn erbyn Chelsea brynhawn Sul, chafwyd fawr ddim son am, na sylw i, berfformiad y Cymro Gareth Bale yn erbyn Manchester City rhyw awr ynghynt.

Gyda’i dim yn colli o un gôl i ddim a chwarter awr yn weddill, aeth Bale i droi cwrs y gêm wyneb i waered. Llwyddodd i sgorio a gosod gôl arall ar blât i sicrhau buddugoliaeth sydd yn cadw Tottenham ar eu taith tuag at gymhwyso ar gyfer Cynghrair Ewrop y tymor nesaf.

Os yw Suarez yn efelychutarw cynddeiriog o ŵr bonheddig yn mynd ati winedd a dannedd gan greu'r holl ffrio ffair, ffrost, ffrwst a ffrwgwd ni welir gan Bale ond sobrwydd mwynder a sirioldeb wrth ddangos perffeithrwydd mewndelfryd ymddygiad a ddylid pob chwaraewr ifanc ei efelychu ac anelu tuag ato.

Diolch i Elis Wynne am greu yr holl gymhariaethau. Dwi’n hollol argyhoeddedig mai'r Bardd Cwsg oedd y gohebydd peldroed cyntaf a fu erioed ac mai gweledigaeth cwrs yr Uwchgynghrair oedd gwir neges proffwydoliaethau Gweledigaethau y Bardd Cwsg!

Ond yn ol i’r presennol.

Mae Suarez a Bale wedi cael eu henwebu fel chwaraewyr y flwyddyn.

Suarez! Cimwch o gythraul yn rhuthro ac yn anrheithio ei wrthwynebwyr ?

Yntau Bale – “un mawr ei gymeriad”, “a chario stamp pencampwr ,ar ei gem o hyd wna’r gŵr” – (diolch i Myrddin ap Dafydd am honna!)

Ond yn ôl at y sioe yna yn Anfield –“ mae eisiau dyn cymwys doeth, i drin creadur annoeth” meddai Gwilym Deudraeth a hwyrach y dylwn hefyd roi sylw i eiriau Tegla Davies, gan addasu ei ddyfyniad drwy awgrymu, fel a wnaeth Virgil i Dante druan,mai “nid achub Suarez sydd eisiau... ond gwneud Suarez yn werth ei achub!”.

Diolch i’r drefn am lenyddiaeth broffwydol y Cymry hyddysg - mae’ nhw i gyd yn cyfrannu yn eu harddull unigryw, - cefnogwyr peldroed ydi nhw i gyd yn y bôn!

Mwy o negeseuon

Nesaf

Dau dim o Gymru yn Wembley