Main content

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 11

Ceri Wyn Jones

Meuryn y Talwrn

Trydydd rhaglen rownd yr 8 olaf, 7 Gorffennaf 2013: Capel Pen-y-graig, Croesyceiliog

Pa fodd y cwympodd y cedyrn, chwedl Rafael Nadal, Roger Federer et al?

Bu’r gyfres hon o’rTalwrn, fel Wimbledon, yn nodedig am y nifer o ynnau mawrion a gollwyd yn gynnar yn y gystadleuaeth, gan gynnwys, wrth gwrs, Y Glêr, pencampwyr y llynedd. Ac fe gwympodd un arall heno, sef Crannog, ond nid heb frwydr hyd at yr asgwrn chwaith.

Nid bod cywilydd mewn colli yn rownd yr wyth olaf, ac yn enwedig felly colli i Aberhafren, sydd wedi bod gyda’r mwyaf cyson dros y blynyddoedd diweddar, ac yn bencampwyr yn 2011.

Roeddwn yn darlledu o festri Capel Pen-y-graig, Croesyceiliog, sydd, fel y gellwch ddychmygu, ar ben craig, a honno’n edrych lawr i’r gogledd dros dre Caerfyrddin, er bod tîm Crannog wedi cael ar ddeall yn wreiddiol taw yn Nantgaredig y byddai’r ricordiad. A dyna pam, mae’n debyg, y cafwyd y limrig hwn ymysg y llond dwrn o gynigion a roddwyd gerbron i’w hystyried:

 Nid yw hi’n gyfreithlon, mae’n debyg

Yn Ewrop nac yn yr Amerig

I ddamnio y Saeson

O noson i noson.

Ond mae hi ar sgwậr Nantgaredig.

Yn wir, fe ysbrydolodd y dasg hon nifer o gynigion hefyd gan dîm Aberhafren. Ac roeddwn wrth fy modd â’r ddau hyn yn benodol:

Nid yw hi’n gyfreithlon, mae’n debyg,

i ddechrau perthynas â morgrug.

Ond dyna wnaeth Jo

a nawr y mae o

yn neidio o gwmpas yn lloerig.

Nid yw hi’n gyfreithlon, mae’n debyg,

i neb gadw bomiau atomig

i’w hedfan mewn drôn

a’u gollwng dros Fôn

ond byddai yn ddoniol gythreulig.

Cafwyd llai o ysbrydoliaeth, serch hynny, ar gystadleuaeth y drydargerdd y tro hwn (a hynny ar ôl i mi frolio’r dasg wythnos dwetha, wrth gwrs!).

Roedd angen i’r beirdd weithio neges i hysbysebu’r Talwrn, ond gormod o farddoniaeth a dim digon o hysbysebu a gafwyd yn ymdrechion y ddau dîm, fel mae englyn Rhys Iorwerth yn tystio:

Hesb yw dyn na chaiff ysbaid wâr nos Sul

cyn noswylio’n llengar.

Gwell troi (ac osgoi’r sgrin sgwâr)

at dy radio, o’r trydar.

Aberhafren

Os na chlywsoch chi’r rhaglen yr wythnos hon, byddai’n werth mynd i wefan Y Talwrn er mwyn cael cip ar englyn Owain Rhys (Aberhafren) a hwnnw yn dwyn i gof funud o dawelwch i Gary Speed.

Y dasg oedd llunio englyn i unrhyw bêl-droediwr enwog, ac fe ddewisodd Crannog ganu clodydd David Beckham. Ond, roedd ganddynt hefyd englyn arall wrth gefn, sef hwn i Lionel Messi:

Edmygwn sgiliau Rooney – neu arwyr

Fel Gerrard a Giggsy,

Ond am ymdrech, trech na’r tri

A’i ymosod yw Messi. 

Go brin taw ar sail ymdrech yn unig y mae Messi wedi profi ei hun yn drech chwaraewr na’r tri arall. Ond, o wybod bod diléit mawr mewn pêl-droed gan sawl un o’r talyrnwyr, mae’n lwcus na fu raid i mi godi’r mater o gwbwl!

Y pen tost mwya a ges i cyn yr ornest, serch hynny, oedd dewis p’un o ymdrechion Crannog fyddai’n cynrychioli’r tîm ar y dasg olaf, sef cerdd ar y testun ‘Cyfri’.

Soned Idris Reynolds i T. H. Parry-Williams aeth â hi, ond ro’n i’n edmygu’r delyneg hon hefyd:

Mor anodd ydoedd dysgu

Yn nydd plentyndod gwyn,

Pob rhifol ar y deial

A threfn y nodau tynn,

Gan gofio beunydd, wrth ymroi,

Pa ffordd mae’r bysedd yn cylchdroi.

Ond annos ydoedd deall

Cyfrinach ‘mwy’ a ‘llai’,

A nod y plws a’r meinws

Yn troi y llanw’n drai,

A’r rhifau eto, fesul un,

Yn dal i dreiglo’r hện yn hỷn.

Oes modd ôl-gyfri oedran,

A’i rifo ar ei hyd,

Gan ddechrau yn y diwedd

A gweithio ‘nôl i’r crud?

Ac a oes gloc mewn man nas gwn,

Yn tician at y sero crwn? 

I glywed rhaglen ddiweddaraf Y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio Cymru.

Mwy o negeseuon

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 10 Gorffennaf 2013