Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 10 Gorffennaf 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Y Talwrn - cân ysgafn

gwawrio - to dawn

y fagddu - utter darkness

ffasiwn lanast - such a mess

cythraul - devil

ymbalfalu - to grope

yn llechu - lurking

rhagdybio - to presuppose

wedi ei thrawsnewid - has been transformed

disylwedd - insubstantial

offrymu - to offer sacrifice

...efo clip o'r Talwrn, a'r ddau dîm oedd yn cystadlu yr wythnos diwetha oedd Y Tir Mawr a Chriw Y Ship. Dan ni'n mynd i wrando ar un o'r tasgau, sef ysgrifennu cân ysgafn heb fod yn fwy nag ugain llinell. Roedd rhaid iddyn nhw sgwennu cân am 'Yr Ystafell sbâr'. Jôs aeth gyntaf ar ran y Tir Mawr, ac yna cawn ni glywed Arwel 'Pod' o Griw’r Ship.

Wyn ar Wynoddiaeth - etifeddu

etifeddu - to inherit

ffrwythloni - to fertilize

esblygiad - evolution

cenedlaethau gwahonynol - different generations

genynnau - genes

cyndeidiau - forefathers

nodwedd - feature

isymwybodol - subconcious

gwynto - to smell

atgynhedlu - to reproduce 

Wel, be ddigwyddodd i Yncl Huw tybed? Ond nid stori Yncl Huw aeth â hi'r tro 'ma. Criw y Ship enillodd y rownd yna efo naw a hanner o farciau a naw marc gafodd cerdd Y Tir Mawr. Mae'r clip nesa ma mor wahanol ag sy'n bosib i glip y Talwrn. Rhaglen llawn gwybodaeth ydy Wyn ar Wyddoniaeth sydd i'w chlywed ddydd Sul ar Radio Cymru. Yr wythnos diwetha buodd Wyn Davis yn siarad efo'r gwyddonydd Gethin Thomas. Pam ein bod ni mor debyg i'n rhieni? Dyna'r cwestiwn roedd Gethin yn ceisio'i ateb

Geraint Lloyd - Alwyn Samuel

hel y gwartheg - to gather/drive the cattle

gweddill - the rest

profiad anhygoel - incredible expereience

braw - fright

tymheredd - temperature

gwerthfawori - to appreciate

medru dioddef - able to deal with

coelio - credu

fflio - hedfan

"Dw i ddim yn siwr am y busnes gwynto, neu ogleuo, ma chwaith. Ddim dyna'r ffordd oedden ni'n chwilio am gariad yn Llanberis ers talwm! Nos Fercher mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo ffermwr ifanc am wartheg ac am ffensys. Be sy mor arbennig am hynny meddech chi? Wel, mae Alwyn Samuel, sy'n dod o Ynys Môn yn wreiddiol, yn gweithio yn Awstralia rwan, ac mae rhaid iddo fo ddefnyddio awyren i weld a ydy ffensys y fferm angen eu trwsio ai peidio. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."

Rhaglen Iola Wyn - problemau garddio

dail - leaves

gorchuddio - to cover

cynhebrwng - funeral

calch - lime

cynrhonyn - maggot

gwywo - to wither

dyfrio - to water

pridd - soil

gwythïen - vein

lleithder - moister

Oedd eisiau mwy na ffensys i gadw'r Llewod mewn trefn yn Awstralia wythnos diwetha yndoedd? Sgwn i ydyn nhw'n tyfu bresych neu gabaits yn Awstralia? Mae'n nhw'n eu tyfu nhw yn Llanrwst yn sicr, ac mae Grace Roerts yn falch iawn o'i chabaits hi. Tan eleni hynny yw. Mae nhw rhywbeth mawr o'i le yn ei gardd hi eleni a dydy'r cabaits ddim yn tyfu fel y dylen nhw. Sgen Grace ddim syniad be sy'n bod ar ei llysiau hi. Lwcus felly bod neb llai na'r garddwr enwog Medwyn Williams yn westai ar raglen Iola Wyn ddydd Gwener. Shân Cothi oedd yn cyflwyno'r rhaglen, ac mi ffoniodd Grace i sôn am ei phroblem fawr. Mi fasai Medwyn yn siwr o wybod yr ateb, on' fasai?

Daf a Caryl - Cân y Babis

mwyn yw'r awel - the breeze is mild

twym - cynnes

gorwedd ar ei boch - lying on her cheek

rhuo - roaring

syllu - staring

cadw stwr - being noisy

enfys - rainbow

gwrthod - refusing

yn ddel - yn bert

crwtyn - bachgen

"Dyna ni ynde, dydy'r meistr ddim yn gwybod yr ateb pob tro, nac ydy? Wedi dweud hynny tasai gen i broblem efo fy nghabaits i yn y dyfodol, mi faswn i'n gwybod am o leia tri neu bedwar o bethau y gallai fod o'i le efo nhw, diolch i Medwyn, ac i Grace wrth gwrs. Ac rwan at gân y Babis ar gyfer mis Mehefin. Gareth Bonello sy'n canu, ac fel arfer mae hi'n gân hyfryd iawn. Mwynhewch..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 11

Nesaf

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 12