Main content

Telyneg neu Soned: Cyfri.

T.H.P.W

Ar draws y goror sydd rhwng ffydd a ffaith,
Nad ydyw’n rhan o’r gogledd nac o’r de,
Mi welodd Tomos Beiblaidd ar ei daith
Y darnau chwilfriw’n gorwedd hyd y lle.
Byseddodd hyd a lled y defnydd crai,
Y geiriau bach y bu’n eu troi a’u trin
A’u plethu ‘nghyd, yn union fel petai
Yn fwriad ganddo i symud peth o’r ffin.
O roi y llun cymesur ger ein bron
Am funud fer mi ail-orseddwyd trefn,
Ond dim ond llwynog oedd yr ennyd hon
Cans aeth yn ỏl i’w chwalu’n fận drachefn,
Yn ỏl i’r broydd rhwng y gwir a’r gau
Lle nad yw un ac un bob tro’n gwneud dau.

Idris Reynolds

9

Cyfanswm Marciau: 72

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

49 eiliad