Nos Sadwrn ym Milan bydd ffeinal Cynghrair Pencampwyr Ewrop yn cael ei gynnal am y chwedeg un tro.
Gem ddarbi mewn gwlad estron fydd y gêm, gan mai’r timau fydd Real Madrid ac Atletico Madrid.
Nid dyma'r tro cyntaf i'r ddau yma gyfarfod yn y ffeinal, gan fod hyn wedi digwydd dwy flynedd yn ôl, gyda Real yn fuddugol ar ôl amser ychwanegol. Fodd bynnag, dim ond unwaith mae ffeinal y gystadleuaeth yma wedi cael ei chynnal rhwng dau dîm o'r un ddinas, sef Madrid, ac mae’r ddau dîm yma yn ail adrodd hanes unigryw'r tymor yma.
Mae yna bump ffeinal wedi cael ei chwarae rhwng timau o’r un wlad, sef timau o Sbaen, yn 2000 a 2014, yr Eidal yn 2003, Lloegr yn 2008 a’r Almaen yn 2013.
Real Madrid ydi'r deiliad drwy guro Juventus o’r Eidal y llynedd, ac maent wedi cyflawni deg buddugoliaeth yn y rownd derfynol, mwy nac unrhyw dim arall, ac mae hyn hefyd yn cynnwys ennill y pum cystadleuaeth agoriadol am bum mlynedd yn olynol.
Rhaid i mi gyfaddef yma fy mod wedi syrthio mewn cariad a Real Madrid yn y cyfnod yma; cyfnod pan mae pethau yn gwneud argraff ar rywun ifanc, a phan oeddwn rhwng naw a thair ar ddeg oed, roedd y gwpan yma yn rhamant newydd go iawn, ac wedi denu fy niddordeb yn enfawr.
Tipyn o brofiad oedd dilyn a dathlu llwyddiant tîm amatur Porthmadog ar un llaw a newid i siarad am gampau Real Madrid y funud nesaf.
Ond dyna ni, roedd addysg bel droed yn Port y dyddiau hynny yn rhywbeth gwerthfawr na ellir ei gymharu ag unrhyw beth tebyg y dyddiau yma (neu a ydi rhamant yr oes a fu yn cael y gorau ar ddyn yn ei oes a’i amser?).
Ta waeth, fel rhywun gafodd ei fachu gan y newydd wedd yma yn y byd pêl droed, doedd siarad am Real Madrid ddim yn ddigon.
Felly, fel llawer o fechgyn ifanc a diddordeb cynyddol mewn pel droed, a metner newydd o fewn y gem, dyma fi’n yn anfon llythyr i'r clwb yn gofyn am raglen, neu lun, neu unrhyw femorabilia y gallwn ei gael.
Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach daeth amlen a stamp Real Madrid arno i'r tŷ, a llun o’r tîm wedi ei arwyddo (mewn print) gan bob un o'r chwaraewyr a chwpan Ewrop yn y canol.
Aeth Real ymlaen i ennill pob un o’r pedwar Cwpan dilynol ac fe ysgrifennais yn flynyddol yn fy ieuenctid am luniau neu unrhyw atgof arall o'r achlysur.
Heddiw mae gen i dri llun wedi ei arwyddo, a rhain yn ganolbwynt fy niddordeb cynnar yn y gêm ar y cyfandir.
Roedd yn dipyn o beth derbyn rhai, ac erbyn heddiw maent wedi cael eu gosod mewn ffrâm ac yn rhan ganolog o ystafell fyw fy nghartref.
Mae gen i hefyd, ymysg arddangosfa’r gegin , gopi o’r rhaglen at gyfer y ffeinal gyntaf yn 1956, Real Madrid yn erbyn Stade de Reims yn ogystal â rhaglen wreiddiol y ffeinal rhwng Real ac Eintracht Frankfurt yng Nglasgow yn 1960, (y gêm orau a fu erioed?), a hefyd rhaglen wreiddiol y ffeinal rhwng Real , eto yn erbyn Reims, y tro yma yn 1959. Uwch eu pennau mae llun panoramig o’r Estadio Bernabeu a dynnwyd pan ymwelais â'r eglwys gadeiriol pêl droedaidd i weld fy nuwiau yn chware dwy flynedd yn ôl.
Wrth dderbyn y trysorau yma, yn ol yn y pump a chwe degau, rhoddwyd genedigaeth i freuddwyd, sef ymweld â stadiwm Santiago Bernabeu ym Madrid i weld Real yn chwarae.
Ysbardun fwyaf y freuddwyd oedd y bumed fuddugoliaeth honno a gipiodd Cwpan Ewrop mewn gem fythgofiadwy ym Mharc Hampden yng Nglasgow.
Llwyddodd Real i roi perfformiad perffaith wrth guro Eintracht Frankfurt o'r Almaen o saith gol i dair gan ennill calon bachgen ifanc o Borthmadog yn y broses.
Wedi’r cwbl, faint o dimau oedd yn ennill o saith gol i dair mewn unrhyw gêm, heb son am Ffeinal Cwpan Ewrop?
Doedd Port, hyd yn oed, ar waethaf eu meistrolaeth o’r gêm yr adeg hynny yng ngogledd Cymru, ddim y sgorio saith gol yn erbyn unrhyw dim !
Yn sgil fy uchelgais yn dilyn y perffeithrwydd pêl droedaidd yma, ynghyd a'r cynnwrf a’r dirgelwch o fewn y bel droed Ewropeaidd tramor newydd , a’r freuddwyd o bererindod a fagwyd, cofiaf fyth fy Mam yn deud 'Hwyrach, os byddi di’n gweithio’n galed, y cei fynd yno rhyw ddydd!'
Yna un dydd, rhyw ddwy flynedd yn ol, daeth fy mreuddwyd yn fyw.
Aeth Ann fy ngwraig a finnau ar wyliau i Fadrid ac yn sgil hyn , roedd cael gweld Real yn chwarae yn hollol allweddol i bwrpas y daith.
Allai ddim disgrifio fy ymweliad a’r Bernabeu ddim mwy na chyffesu fod gwireddu'r bererindod freuddwydiol a fagwyd hanner can mlynedd yn ôl wedi cael ei chyflawni yng nghanol mor o emosiwn ac atgofion.
Wnâi ddim mynd i fanylder ynglŷn â'r emosiwn dagreuol a hiraethus a ddaeth drosof wrth gyrraedd y stadiwm. Ond roeddwn yno , ynghanol eglwys gadeiriol fy mreuddwydion, ac er ein bod wedi ymweld yno ar fore Sul , y diwrnod ar ôl cyrraedd Madrid, i fynd ar daith o amgylch y lle, roeddwn hefyd wedi prynu dau diced i weld Real Madrid yn chwarae yn erbyn Sevilla ar yn nos Fercher.
Yn ogystal, roedd hon hefyd yn gyfle i weld y Cymro ifanc Gareth Bale yn cychwyn ei gam gyntaf ar y Bernabeu yna hyn yng nghysgod beirniadaeth lem y wasg yn Sbaen o’i gyfraniadau cynnar i dîm y Madrilenos.
Cefais wledd!
Roedd Bale yn llenwi'r Bernabeu gyda pherfformiad grymus a dawnus, yn dawnsio'n ddisgybledig dros y dacl, ac yn wrth brofi pob amheuon gyda’i allu anhygoel.
Hwyrach for Real wedi prynu'r cyfaill gwerthfawroca’ erioed, ond roedd y noson yn dystiolaeth o gampwaith y Messeia o Gaerdydd, a ddaeth ac atgofion byw yn ôl imi am ddyddiau hir melyn tesog Alfredo di Stefano, Ferenc Puskas a Francisco Gento.
Chwalwyd Sevilla yn deilchion, dau gol i Bale, tair i Cristiano Ronaldo a dwy arall i Kasim Benzima a Gareth Bale yn cyfrannu yn uniongyrchol at ddau gol arall ar wahân i'r ddwy a sgoriodd ei hun.
Dyna ichi beth ydi cyflawni breuddwyd.
Ie, saith gol i dair i Real Madrid oedd y sgôr - yn union fel y gêm yna yn erbyn Eintracht Frankfurt a sbardunodd cymaint ar fachgen ifanc dros hanner can mlynedd yn ôl.
Ac yna , yng nghanol cynnwrf ac emosiwn y Bernabeu ar noson y bererindod honno, ac wrth i’r ddau dim ddod allan ar gyfer y gem, rwy’n argyhoeddedig fy mod wedi clywed llais adnabyddadwy yn galw'n dyner arnaf; llais annwyl, cariadus, nefolaidd a chyfarwydd yn galw - ‘Ddudis i do!, rhywbryd, rhyw ddydd!”.
Llais fy Mam. Ie, Mam, roeddech chi yno hefyd.
Felly, ymysg y dagrau hiraethus sydd yn llifo wrth imi ysgrifennu’r golofn yma, allai wneud dim mwy na dymuno pob hwyl i Real nos yfory, a phob hwyl i Gareth Bale (a phaid â brifo).
Byddaf wedi fy nghlymu i’r soffa am ddwy awr yn ail fyw fy ieuenctid yn Port unwaith eto, ac yn siwr o droi fy llygaid i gyfeiriad fy arwyr ar wal y gegin ar yr un adeg!
Hola Madrid!
