Os digwydd i chi ddarllen y golofn yma’r wythnos diwethaf, fe fyddwch wedi sylweddoli fod gweld Real Madrid yn cipio coron Cynghrair Pencampwyr Ewrop am yr unfed tro ar ddeg wedi rhoi cryn bleser i mi.
Diddorol ydi nodi sylwadau nifer o ddilynwyr pêl droed at y ffaith fod gen i ryw fwy na diddordeb goddefol a’r tîm yma, ac mae nifer o’r cefnogwyr, sydd yn llawer iau na mi yn rhyw feddwl fy mod hefyd yn rhyw fath o ddilynwr i’r diweddar ffasgydd, y Cadfridog Franco!
Y gwir, nad oeddwn yn ymwybodol ohono pan oeddwn i'n ifanc, mai Franco a gefnogodd Real yn ariannol ac yn wleidyddol yn y dyddiau cynnar, llwyddiannus yna, er mwyn creu delwedd o ragoriaeth a llwyddiant i Sbaen fel gwlad, a hyn wedi ei leoli yn ei brif ddinas foethus, Madrid. Fe ddylwn hefyd gyfeirio at y ffaith nad oedd gan Franco amser i wledydd eraill o fewn Sbaen, fel Catalwnia a Gwlad y Basg wrth redeg Sbaen o dan ei reolaeth unbeniaethol .
Ond, yn nyddiau cynnar fy ieuenctid ym Mhorthmadog, wyddwn i ddim am Franco, yn wir yr unig beth oeddwn wedi ei glywed a oedd yn swnio’n debyg i'r enw Franco oedd y dyffryn yna sy'n arwain allan o Fethesda i gyfeiriad Llyn Ogwen - Nant Ffrancon! . Ond dyna ni, fel yna mae pethau, a dwi ddim am newid profiadau a dylanwad pêl droedaidd blynyddoedd fy ieuenctid. Ond, ac mae yna ond go fawr.
Er waethaf y llwyddiant, roedd un agwedd hollol afiach yn perthyn i berfformiad Real nos Sadwrn diwethaf. Byddai un gair, neu un enw, yn egluro hyn yn glir - Pepe. Go brin fod rhywun wedi gweld cymaint o dwyllo gan chwaraewr ar lefel mor uchaf, a hyn yn hollol gywilyddus wrth iddo ddeifio i bob cyfeiriad, yn dilyn gwrthdrawiad a chwaraewyr eraill, neu yn ffugio ei fod wedi cael ei anafu pan na chafodd mwy na chic chwannen gan aelod o dîm Atletico.
Hwyrach fod y brawd Pepe yn meddwl ei fod yn rhyw ddyn caled , ond tydi'n ddim byd o'r fath o'i gymharu â Vinnie Jones ers talwm . Yn wir, un gwahaniaeth amlwg rhyngddo a Vinnie ydi'r ffaith na benderfynodd Vinnie Jones actio tan ar ôl gorffen ei yrfa pêl droed. Ymddengys fod Pepe yn ceisio cyfuno’r ddau!
Ta waeth, fel pob cefnogwr o Gymro, roeddwn hefyd yn cadw golwg ar sefyllfa a gweddïo na fyddai Gareth Bale yn cael ei anafu yn ystod y gêm !
Felly, yma yng Nghymru , mae gennym le i fod yn ddiolchgar iawn i Snr Pepe am ei antics nos Sadwrn gan yn fy marn i, roedd Atletico Madrid yn fwy awyddus i dalu'r pwyth yn ôl i Pepe na chwilio am esgus i gicio’r Cymro!
Tybed felly, yn sgil ymddygiad annerbyniol Pepe, y dylai awdurdodau pêl droed roi gorchymyn i'r dyfarnwyr i fod yn llawer mwy llym wrth ymateb i chwaraewyr sydd yn ceisio twyllo drwy geisio dylanwadu i gael y dyfarnwr i anfon gwrthwynebwyr o'r cae am drosedd na ddigwyddodd ?
Ar hyn o bryd , caiff y dyfarnwyr roi cerdyn melyn i chwaraewr, sydd yn eu barn hwy, yn ceisio dynwared fod rhywun wedi troseddu yn eu herbyn, ond heb fawr o lwyddiant.
Wrth dderbyn cerdyn melyn, fe allai Pepe gael ei wahardd o gêm gyntaf Real Madrid y tymor nesaf.
Oedd Pepe yn poeni am hyn wrth dwyllo ei ffordd drwy'r ffeinal yn erbyn Atletico? Mae’n debyg ddim.
Ond, onid llawer gwell fyddai rhoi'r hawl i'r dyfarnwr allu osod cosb yn ystod y gêm ei hun, sef os ydi Pepe, neu unrhyw un arall yn ceisio cael y dyfarnwr i anfon ei wrthwynebwr oddi ar y cae mewn dull twyllodrus, beth am roi'r hawl iddo ddangos y cerdyn coch i'r twyllwr (fel y byddai dymuniad y twyllwr i'w wrthwynebwr) a’i anfon yn y fan a'r lle o'r cae'r eiliad hwnnw?
Yn ogystal, beth am wneud bywyd y pedwerydd swyddog yn llawer mwy pwrpasol gan roi iddo fo hefyd yr hawl i dynnu sylw'r dyfarnwr am y twyllo, a defnyddio technoleg teledu ai wirio os angen? Bydd angen ychydig o newid ar y rheolau, neu o leiaf ar y drefn, i wireddu hyn, ond onid yw’n amser i gael gwared â'r troseddwr twyllodrus?
Hwyrach y dylai Pepe fod yn ddiolchgar nad yw’r Cadfridog Franco o gwmpas mwyach.
