Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 24ain o Fai 2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dilyn Y Freuddwyd - Pêl-droed

Dilyn y Freuddwyd - Following the Dream

hyfforddiant - training

yn enwedig - especially

dyrchafiad i Uwch Gynghrair - promotion to the Premiership

Yr Elyrch - The Swans

meithrinfa - nursery

nesáu - becoming closer

yn debygol - likely

byd hynod gystadleuol - an extremely competitive world

canran - percentage

"...mae Ewro 2016 yn dod yn agosach - ychydig o wythnosau'n unig rwan tan y gystadleuaeth fawr. Dydd Gwener diwetha mi fuodd Ioan Wyn Evans yn edrych ar rai o beldroedwyr ifanc Cymru yn ail raglen y gyfres Dilyn y Freuddwyd. Yn academi bêl-droed Abertawe mae yna gant a hanner o beldroedwyr ifanc rhwng wyth ac ugain oed yn cael hyfforddiant gan Nigel Rees a'i dîm a dyma Nigel yn egluro ychydig mwy am yr hyfforddiant hwnnw... "



Aled Hughes - Rapio

cyfansoddi - to compose

anaddas - unsuitable

pennill - verse

pastwn - baton

curiad - beat

torri'r iâ - breaking the ice

arddull - style

graen - grain

egni - energy

amwys - ambiguous

"...ac mi fydd rhaglen nesa cyfres Dilyn y Freuddwyd i'w chlywed am hanner awr wedi hanner dydd, ddydd Gwener nesaf.

Wythnos diwetha aeth Aled Hughes i Sir y Fflint i weld y ‘beat bocsiwr' Ed Holden yn ysgrifennu rap newydd efo plant yr ardal i ddathlu penblwydd Mr Urdd yn bedwardeg oed. Cyn iddo fynd at Ed fore Mercher, roedd Aled eisiau dysgu sut i rapio. Daeth Aneirin Karadog i'w helpu... "



Caryl Parry Jones - Y Gymraeg

ymwybodol - aware

crwt ifanc - bachgen ifanc

cenhedlaeth - generation

ges i fy llabuddio - I was lambasted

cymhwyster - qualification

sylweddoli - to realise

datgloi - unlock

haenau - layers

meddylfryd - mentality

trosglwyddo - to transmit

"A dwi'n siwr gawn ni fwy o hanes rap Mr Urdd yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd, a dw i'n siwr cawn ni glywed y rap ar Radio Cymru. Pam bod pobol yn anfon eu plant i ysgolion Cymraeg? Dyna un o'r cwestiynau oedd Caryl yn ei ofyn amser cinio dydd Iau i'w gwesteion y Dr. Andrew Edwards, Karen Owen a Rod Richards. Ai rhywbeth dosbarth canol ydy hyn, ac ydy hynny'n broblem? Dyma farn Rod Richards i ddechrau, ac wedyn barn Karen Owen..."



Shan Cothi - Paul Elliot

sawl cenhadlaeth - several generations

yr aelwyd - the hearth

ymdrech - effort

hadau - seeds

y sbardun - the catalyst

ffin - border

dychmygu - to imagine

arolglu - to smell

alltud - exile

hwb - a boost

"Rhaglen Caryl yn fan'na yn trafod dyfodol y Gymraeg. Falle mai gyda'r dysgwyr mae dyfodol yr iaith ac ar raglen Shan Cothi fore Gwener mi gafodd Shan sgwrs efo Paul Elliot enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod y Bala yn ôl ym Mil Naw Saith Saith. Mi fuodd Paul yn cymryd rhan yn y Felathon yng Nghaerdydd dros y penwythnos ac mi fuodd Shan yn ei holi am ei hanes o ran dysgu Cymraeg...:"

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Mai 17, 2016

Nesaf

Rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr