Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Mai 17, 2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Sir Y Fflint - Eirlys Gruffydd

ffynnon ryfeddol - amazing well

cymryd mantais - to take advantage

tarddodd - derived

yn llythrennol - literally

cynnal y ffydd Babyddol - to maintain the catholic faithgeiriadur

pererindod - pilgrimage

cofnod o iachau - a record of healing

mainc bren - a wooden bench

yn gymharol ddiweddar - comparatively recently

tystysgrifau - certificates

"...mi fydd Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint yn digwydd mewn ychydig o wythnosau. Ac os nad dach chi'n nabod yr ardal yn arbennig o dda mae gan Radio Cymru raglen newydd sydd yn rhoi cyfle i chi ddod i adnabod Sir y Fflint yn well. Mae Treffynnon yn dref bwysig iawn yn y sir ac mae llawer o bobl yn ymweld â'r dref i weld Ffynnon Gwenffrewi. Ond beth ydy hanes y ffynnon hon? Dyma Eirlys Gruffydd yn esbonio be' sydd yn gwneud Ffynnon Gwenffrewi mor arbennig..."



Dan Yr Wyneb - Hillsborough

trychineb - disaster

anghyfreithlon - unlawful

ceffylau - horses

mynd o'i le - to go wrong

fatha - like/you know

mwy tynn - tighter

rhegi - swearing

sgrechian - screaming

gen i go' sti - I can remember you know

twll - a hole

"Wel dyna stori ryfeddol ynde? Ac mae'n bosib dysgu mwy am yr ardal yma yn yr ail raglen o Sir y Fflint ddydd Llun nesaf am hanner awr wedi hanner dydd.

Mae yna ddipyn o sôn wedi bod yn yr wythnosau diwetha am drychineb Hillsborough ers i deuluoedd Lerpwl ennill eu hachos a dangos mai wedi marw yn anghyfreithlon oedd y nawdeg chwech cefnogwr. Ar Dan y Wyneb nos Lun mi fuodd Dylan Iorwerth yn holi Alun Wyn Pritchard o Benygroes, ffan Lerpwl oedd yn y gêm yn Sheffield y diwrnod hwnnw. Be oedd o'n ei gofio am y diwrnod ofnadwy 'na? "



Bore Cothi - Florence Foster Jenkins

ymchwil i'w bywyd hi - to research her life

lleia'n byd (Idiom) - the less

yn wirioneddol - truly

yn ddigyfeiliant - unaccompanied

yr ugeinfed ganrif - the twentieth century

teulu cefnog - a rich family

yn sylfaenol - basically

cerddorol - musical

elfen - an element

traw - pitch

"Alun Wyn Pritchard o Benygroes yng Ngwynedd oedd hwnna yn sôn am ei brofiadau ofnadwy yn Hillsborough. Bore Mawrth mi gafodd Shan gwmni Rhisiart Arwel ac Alwyn Humphreys yn y stiwdio i drafod y ffilm Florence Foster Jenkins sydd yn y sinemâu ar hyn o bryd efo Meryl Streep yn actio'r brif ran. Mae’n debyg bod Rhisiart ac Alwyn yn gwybod am hanes Florence druan yn barod, ond pryd dechreuodd diddordeb y ddau yn ei gyrfa? "



Geraint Lloyd - Annwen Huws

sylfaenu - to establish

gwyl ryngwladol - an international festival

gorymdaith - parade

sylweddoli - to realise

cyfle - an opportunity

ymarferion - training sessions

hyfforddwr - coach

cymaint o amynedd - so much patience

profiad - experience

ystod eang - a wide range

"O diar, swnio fel fi yn y gawod! Ac i orffen apêl am ferched o ryw oedran arbennig yn ardal Caerdydd i fynd ati i chwarae rygbi. Mae gwyl y Golden Oldies yn dod i'r brifddinas cyn bo hir ac mae Annwen Huws eisiau tim o ferched hyn yr ardal i gymryd rhan. Dyma Anwen yn egluro mwy ar rhaglen Geraint Lloyd nos Fawrth diwetha..."

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cymharu Cymru â Gogledd Iwerddon