Cymorth i wranadawyr ynghylch y newidiadau i DAB De Cymru sy’n digwydd ar ddydd Mawrth 30 Gorffennaf.
Crynodeb o’r newidiadau
Yn gynnar ar ddydd Mawrth y 30ain o Orffennaf, caiff newidiadau eu gwneud i i’r plethiadau DAB lleol presennol sy’n cario gwasanaethau BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales. Gwneir y gwaith yma er mwyn darparu radio digidol i dros 100,000 o gartrefi ychwanegol, gan gynnwys ardaloedd ym Merthyr, Aberdar, Y Fenni a Glyn Ebwy am y tro cyntaf. Yn dilyn y gwaith yma dros nos, efallai y bydd gofyn i wrandawyr ail-diwnio eu setiau radio, oherwydd y gall y setiau ymddangos eu bod wedi “colli” gorsafoedd.
Manylion technegol ynghylch y newidiadau
Bydd y rhan fwyaf o’r newidiadau yn digwydd wedi hanner nos.
- Bydd y plethiad rhanbarthol sy’n gwasanaethu De Cymru ac aber yr afon Hafren yn cau. Fydd hyn ddim yn effeithio ar unrhyw un o wasanaethau’r BBC.
- Bydd y plethiad sy’n gwasanaethu De Ddwyrain Cymru, gan gynnwys Caerdydd a Chasnewydd, yn newid amledd ym mhob un o’r safleoedd trosglwyddo. Caiff pedwar trosglwyddydd newydd eu tanio (yn Aberdâr, y Fenni, Glyn Ebwy a Mendip). Caiff y trosglwyddydd yn y Wenallt ei ddisodli gan drosglwyddydd yn Wenfô. Bydd Nod Gwasanaeth BBC Radio Cymru yn newid. (Mae’r nodau yma yn gudd i wrandawyr ond yn cael eu defnyddio mewn setiau radio i gadw gorsafoedd radio ar fotymau penodol.
- Bydd y plethiad sy’n gwasanaethu Abertawe a’r ardal gyfagos yn cario Nod Gwasanaeth newydd ar gyfer BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales. Dyma’r unig newid sydd wedi ei gynllunio ar gyfer y plethiad hwn ond golyga y bydd gofyn efallai i wrandawyr ar wasanaethau’r BBC i ail arbed eu hoff orsafoedd ar y botymau priodol er mwyn parhau i glywed y gwasanaethau hyn. Mae’n bosib y bydd yr hen ddewisiadau yn parhau i weithio ar y botymau yma am rai dyddiau ond yn dangos y neges “Please Retune” neu “Retune”, yn dilyn hynny bydd ail-diwnio’r setiau radio yn angenrheidiol.
Cymorth i wrandawyr
Os yw’n ymddangos eich bod wedi colli BBC Radio Cymru a/neu BBC Radio Wales:
• Os gwelwch yn dda, ail-diwniwch eich set radio (“auto-tune” neu “auto-scan”)
Ceir mwy o wybodaeth ar: getdigitalradio.com/retune
Os gwelwch y geiriau “Retune” neu “Please retune” ar eich set radio:
• Os gwelwch yn dda ail-diwniwch eich radio (“auto-tune” neu “auto-scan”)
Ceir mwy o wybodaeth ar: getdigitalradio.com/retune
Os gallwch dderbyn yr orsaf yr ydech ei heisiau, ond bod botymau “preset” eich radio wedi ei “anghofio”:
• Ail-diwniwch i’r orsaf rydych yn dymuno ei chlywed a’i arbed unwaith eto drwy ddal y botwm perthnasol i lawr am 5 eiliad
Os ydych wedi ail-diwnio, ond yn parhau i fethu a derbyn BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales:
• Gwnewch yn siwr fod antena eich set radio wedi ei ymestyn i’r eithaf, yna ceisiwch ail-diwnio unwaith yn rhagor
Os nad oeddech chi yn gallu derbyn BBC Radio Cymru neu BBC Radio Wales ar DAB o’r blaen, ond am weld os allech chi fanteisio ar yr ardal drosglwyddo ehangach:
• Gwnewch yn siwr fod antena eich set radio wedi ei ymestyn i’r eithaf, yna ail-diwniwch (“auto-tune” neu “auto-scan”)
Ceir mwy o wybodaeth ar: getdigitalradio.com/retune
Cwestiynau Ofynir yn Aml
Pwy sy’n gwneud y newidiadau yma a pham?
• Mae gweithredwr y plethiad lleol ar gyfer De Ddwyrain Cymru (NOW Digital) yn gwneud y newidiadau er mwyn gwella’r ddarpariaeth
• Mae’r BBC yn newid y Nodau Gwasanaeth er mwyn gallu cynllunio darlledu i’r dyfodol
Pam fod amledd De Ddwyrain Cymru yn newid?
• Mae De Ddwyrain Cymru yn manteisio ar ryddhau Sianel 12C er mwyn lleihau effaith yr ymyrraeth gan blethiadau eraill sy’n bodoli eisoes ar Sianel 11C.
Ydi hyn yn effeithio ar wasnaethau radio eraill y BBC?
• Dyw’r newidiadau hyn ddim yn effeithio ar FM, AM neu wasnaethau radio ar-lein y BBC. Dydyn nhw ddim yn effeithio ar Radio Cymru a Radio Wales yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, na gwasanaethau DAB eraill y BBC trwy wledydd Prydain fel BBC Radio 6 Music.
Beth am y plethiad newydd a fwriedir ar gyfer Gorllewin Cymru?
• Dyw plethiad Gorllewin a Chanolbarth Cymru ddim eto’n darlledu ond disgwylir iddo ddechrau yn hwyrach yn 2013 gan gario BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ynghyd â nifer o orsafoedd masnachol.
