Mae Radio Cymru yn nodi cyngerdd byw olaf Edward H Davis yn Eisteddfod Dinbych eleni gyda diwrnod Edward H Dafis.
Bydd caneuon y band yn cael eu chwarae yn ystod y dydd a bydd rhaglen Beti a'i Phobol gyda Beti George yn holi prif leisydd y band Cleif Harpwood, tra bod sgwrs Beti gyda Dewi Pwsar gael i wrando eto.
Wrth iddyn nhw baratoi i chwarae'n fyw am y tro olaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol fe fydd Mari Lovgreen yn edrych yn ôl ar hanes Edward H Dafis gydag aelodau'r grŵp yn hel atgofion yn y rhaglen Breuddwyd Roc a Rôl.
Dyma i chi hanes y band gan Gary Melville.
(Erthygl o wefan BBC Cerddoriaeth)
Edward H Dafis
Ffurfiwyd Edward H Dafis gan Dewi Morris o Abertawe, gynt o'r Tebot Piws, a Hefin Elis o Bort Talbot, cyn-aelod o'r Datguddiad, Y Nhw a'r Chwyldro. Ymunodd John Griffiths o Bont-rhyd-y-fen ar y gitâr bas, ac wedyn Charli Britton o Gaerdydd, drymiwr sesiwn gyda Hergest a nifer o grwpiau eraill.
Rhyddhawyd un EP i Sain ym 1973 ac ymddangosodd un trac, Can Y Stiwdants ar yr albwm fyw Tafodau Tân.
Erbyn Hen Ffordd Gymreig O Fyw (Sain, 1974) roedd Cleif Harpwood (gynt o Ac Eraill) wedi ymuno fel prif leisydd. Dyma albwm cyntaf Edward H, ac roedd yn garreg filltir yn hanes canu roc a phop Cymraeg.
Roedd Ffordd Newydd Eingl Americanaidd Grêt O Fyw (Sain, 1975) braidd yn siomedig, ac roedd e'n amlwg bod y grwp wedi colli ffordd rhywsut, ond roedd 'na uchafbwyntiau, fel cân Dewi Morris Lisa Pant Ddu.
Mae mwy o hanes y ferch ifanc o gefn gwlad yn cael ei adrodd ar 'Sneb Yn Becso Dam (Sain, 1976). Hon yw record hir gorau'r band heb os nac oni bai. Chwalodd y grwp ar ôl cyngerdd ffarwel yng Nghorwen ar yr 11eg o Fedi 1976.
Atgyfodwyd y band ym 1978 mewn cyngerdd yn Nhalybont, a rhyddhawyd Yn Erbyn Y Ffactore (Sain, 1979) sy'n cynnwys y bytholwyrdd Ysbryd Y Nos.
Erbyn Plant Y Fflam (Sain, 1980) roedd swn y band wedi troi braidd yn slic ac yn saff. Penderfynwyd chwalu ar ôl perfformio yn Llanbadarn Roc ar yr 11ef o Orffennaf 1981.
Cyhoeddwyd casgliad o waith y grwp yn 2005, Edward H Mewn Bocs.
Aelodau
- Dewi Morris: Llais, gitâr
- Hefin Elis: Gitâr, allweddellau
- John Griffiths: Bas
- Charli Britton: Drymiau
- Cleif Harpwood (prif leisydd)
Discograffi
- Hen Ffordd Gymreig O Fyw (Sain) 1974
- Ffordd Newydd Eingl Americanaidd Grêt O Fyw (Sain) 1975
- 'Sneb Yn Becso Dam (Sain) 1976
- Yn Erbyn Y Ffactore (Sain) 1979
- Plant Y Fflam (Sain) 1980
Casgliadau Pwysig
- Edward H. Mewn Bocs (Sain) 2005
