Main content

Blog Ar y Marc - Abertawe a Chwpan Ewropa

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Nos Iau bydd Abertawe yn cychwyn ar eu gemau Ewropeaidd, gyda chymal cyntaf eu gem yng Nghwpan Ewropa yn erbyn Malmo o Sweden ar y Liberty.

Mae anturiaethau timau Uwchgynghrair Cymru yn Ewrop wedi dod ac wedi bod. Roedd y canlyniadau ar y cyfan yn awgrymu fod safonau yn gwella, a hefyd roedd nifer y gwylwyr yn y gemau yn dangos gwelliant dros rai o gemau’r gorffennol. Roedd hyn ynddo'i hun yn awgrymu fod y diddordeb yn nhimau Uwchgynghrair Cymru yn parhau er waethaf pryder y cwymp mewn gwylwyr dros y gaeaf.

Serch hynny, nid cynrychioli Cymru fydd Abertawe.

Oherwydd eu llwyddiant yn cipio Cwpan Capital One y llynedd o fewn trefn peldroed Lloegr, tîm yn cynrychioli'r Saeson fydd y Swans.

Gyda chanlyniadau gwael i dimau rhyngwladol Lloegr mewn cystadlaethau Ewropeaidd yr ystod yr haf yma, yn enwedig i'r timau o dan ugain, un ar hugain a pherfformiad cywilyddus a thrychinebus tîm merched Lloegr yn Ewro 2013, hwyrach mai dibynnu ar lwyddiant tîm o Gymru i achub eu croen a fyddai orau iddynt!

Tydi chwarae yn Ewrop yn ddim byd newydd i Abertawe. Ond fe fydd gobeithio am well na’r tro diwethaf i'r Swans fentro tramor. Colli o wyth gol i ddim yn erbyn A.S. Monaco yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop yn 1991 (a hynny fel cynrychiolwyr Cymru wrth iddynt fod wedi ennill Cwpan Cymru) .

W'n i ddim am unrhyw dim arall sydd wedi cynrychioli dwy wlad wahanol mewn cystadlaethau peldroed o fewn Ewrop – tybed a ydi'r ffaith yma yn rhywbeth unigryw i Abertawe? Her arall i ddilynwyr Ar y Marc efallai !

Dechreuodd Abertawe ar eu teithiau yn ôl yn 1961, ond, fel timau ein Uwchgynghrair, aflwyddiannus fu'r fenter gyda Motor Jena o Ddwyrain yr Almaen yn rhoi terfyn ar bethau yn y rownd agoriadol. Cafwyd cynnig arall yn 1966, ond ymadawiad buan eto, y tro yma i Slavia Sofia o Fwlgaria.

Ymlaen i 1981/2, a llwyddiant yn y rowndiau agoriadol dros Lokomotiv Leipzig, Sporting Braga a Sliema Wanderers cyn colli i Paris St. Germain. Cafwyd menter arall y tymor dilynol, ond collie to yn fuan i FC Magdeburg o Ddwyrain yr Almaen ac felly hefyd yn 1989 wrth gwympo yn erbyn Panathinaikos o Wlad Roeg. Cyn y gwymp fawr ar yr ymddangosiad olaf yn erbyn Monaco.

Nid gemau hawdd fydd y ddwy yn erbyn Malmo - tîm sydd yn ystyried eu hunain fel y gorau yn Sweden. Mae eisoes wedi chwipio Hibernian o'r Alban o naw gol i ddim dros ddau gymal yn y rownd ddiwethaf, a hynny wrth ennill o saith gol i ddim yn yr ail gymal yng Nghaeredin.

Mae Malmo wedi bod ar rediad da, ac yn yr ail safle ym mhrif gynghrair Sweden.

Ond y Sul diwethaf, gwelwyd eu hamddiffynnwr canol allweddol Erik Johanssen yn derbyn anaf yn eu gem yng nghynghrair Sweden yn erbyn Gelfe, a Malmo yn colli yn annisgwyl o ddwy gol i ddim - y gêm gyntaf iddynt golli yn eu saith diwethaf.

Gydag Abertawe yn gwella'n flynyddol, ac yn gyfarwydd drwy eu dull o chwarae a phrofiad Michael Laudrup eu rheolwr, o dactegau Ewropeaidd, allai i ddim gweld unrhyw rwystr a fyddai yn gosod Abertawe ymysg y ffefrynnau i fynd ymhell yn y gystadleuaeth yma.

Hwyrach mai dechrau tymor (neu hyd yn oed cyn dechrau'r tymor) ydi hi i Abertawe, a bod Malmo ynghanol eu tymor (sydd yn parhau o Ebrill hyd at Dachwedd), d'oes dim rheswm dros beidio â bod yn optimistaidd am obeithion y Swans i wneud eu marc.

Hwyrach y gall timau Lloegr hefyd ddysgu rhywbeth ar sut i ennill yn Ewrop ganddynt!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 14

Nesaf

Newidiadau DAB De Cymru