Mae'n bythefnos ers i ni gyfeirio am y drefn a fabwysiadwyd gan Wrecsam o sut i fynd ati i benodi rheolwr newydd, gan gyfeirio at y ffaith y gellir cael arweinyddion o fewn pob haen o sefydliadau a bod yna wahaniaeth rhwng arweinydd a rheolwr.
Y farn a ddaeth drosodd oedd bod rheolwr yn llwyddo drwy ymdrechion pobl eraill, ac mae un o swyddi'r rheolwr oedd sicrhau fod eu dîm o weithwyr (neu hyfforddwyr yng nghyd-destun pêl droed) yn cydweithio gyda’i gilydd yn llwyddiannus ac effeithiol tuag at gyrraedd yr un nod.
Yn ogystal, fe nodwyd ei bod hi’n bwysig fod rheolwyr yn barod i wrando ar eu syniadau ac ystyried eu cyfraniadau.
Yr wythnos yma, fe benodwyd Graham Barrow, a oedd eisoes yn is reolwr yn Wrecsam, fel rheolwr ac mae wedi cadw'r staff hyfforddi, gan ychwanegu ond un, sef Mike Newell, fel is reolwr.
Trefn glir o sicrhau a chynllunio ar gyfer dilyniant o fewn trefn a strwythur sydd eisoes wedi profi'n llwyddiannus hyd yn hyn y tymor yma.
Yna, ddydd Mawrth diwethaf, newyddion o Fanceinion fod teyrnasiad Jose Mourinho fel rheolwr ar Manchester United, wedi dod i ben yn dilyn penderfyniad y perchnogion a chyfarwyddwyr y clwb. Ond tipyn o sioc i lawer oedd deall mai Ole Gunnar Solskaer, fydd y rheolwr, dros dro, tan ddiwedd y tymor, gyda chyn rheolwr y clwb o dan reolaeth Syr Alex Ferguson, yn ei gynorthwyo. Cyfeiriwyd bythefnos yn ôl, yn y golofn yma, nad oedd United wedi talu sylw yn ddigonol i'r hyfforddwyr, neu'r arweinwyr hynny a fu’n gymaint o gefn i Syr Alex, a bod y tîm hyfforddi a lwyddodd i gyfrannu cymaint, wedi cael eu hanwybyddu gan olynydd Ferguson, David Moyes, wrth i dîm hyfforddi newydd gyrraedd.
Erbyn heddiw, rydyn hyn ymwybodol mai dim ond un hunllef ar ôl y llall, a dirywiad a welwyd yn theatr y breuddwydion yn Old Trafford, o dan reolaeth Moyes, ac yna Louis Van Gaal, a doedd pethau fawr gwell o dan Jose Mourinho chwaith. Yn y dair sefyllfa yma, doedd dim cynllun o ddilyniant amlwg wedi bodoli o fewn trefn rheolaeth gyffredinol y clwb.
Ond, wrth sylwi ar yr hyn sydd wedi digwydd yn Wrecsam, mae'r clwb wedi nodi cyfraniad y tîm hyfforddi, gan eu cynnwys yng nghynlluniau dilyniant dyfodol y clwb.
Felly, mewn cyd-destun tebyg, a yw United wedi troi'r cloc yn ôl i'r hyn a ddylai fod wedi digwydd pan benderfynodd Syr Alex ymddeol?
Mae yna dipyn o syndod yn apwyntiad Solskaer, ond gyda Mike Phelan wrth ei ochr, does gen i ddim amheuaeth fod yna arwyddion cadarn am y dyfodol yn eu lle. Yna, os yw tîm hyfforddi Mourinho i gyd wedi mynd hefyd, gan gynnwys y llond trol o sgowtiaid a benodwyd ar hyd a lled y cyfandir, ydi hyn yn codi statws presennol eu prif sgowt, Jim Lawlor, i’r swydd wreiddiol fel ag yr oedd yn bodoli o dan Ferguson, sef llais a llygaid y clwb wrth adnabod chwaraewr a fyddai o fydd i gryfhau'r tîm ac sydd yn ffitio i draddodiad a phatrwm chwarae'r clwb? Does ond angen cyfeirio at allu Lawlor i adnabod doniau felly blaenwr Javier Fernandez, neu'r amddiffynwr Nemanjia Vidic a gafodd ei arwyddo ganddo i gryfhau'r amddiffyn i ddeall cymaint oedd llais, dylanwad a barn Lawlor ar gynghori pwy i'w arwyddo'r adeg hynny!
A phwy a fyddai yn fodlon i roi unrhyw beth am adnabyddiaeth Lawlor i arwyddo amddiffynwr neu ddau i'r clwb ar hyn o bryd?
Felly, gyda thri o'r hen enwau yn ôl wrth y llyw, a gyda Michael Carrick yn parhau fel hyfforddwr gan sicrhau dilyniant cyfoes, fe fydd gweddill y tymor yn ddiddorol, ac yn cychwyn o fewn y pythefnos nesaf pan fydd y ffenestr drosglwyddo yn ail agor. Amser i'r chwaraewyr edrych dros eu hysgwyddau a dangos fod eu calonnau yn y clwb efallai? Amser i adnabod cymeriad y chwaraewyr, heb os nac oni bai !
Yn y cyfamser, tipyn o ffeithiau i'ch ymddiddori, ac i dynnu sylw'r rhai ohonoch sydd yn meddwl mai Jurgen Klopp a Lerpwl ydi'r ateb i bopeth:-
Cyfnod Mourinho yn Old Trafford - 3 blynedd, cyfnod Klopp yn Lerpwl - 4 blynedd;
Arian a wariwyd gan Mourinho - £369 miliwn; arian a wariwyd gan Klopp - £400 miliwn
Nifer o dlysau a enillwyd gan Mourinho - 3; nifer o dlysau a enillwyd gan Klopp - 0
Safle uchaf o dan Mourinho ar ddiwedd tymor yn yr uwch gynghrair - 2il; safle uchaf Lerpwl o dan Klopp - 4 ydd
Canmoliaeth i Mourinho - fawr ddim ; canmoliaeth i Klopp - mwy na ellir ei gyfrif
Statws Mourinho – methiant; statws Klopp – arwr.
Tydi pêl droed yn gêm ryfedd!!
Mwynhewch y Nadolig!
