Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Rhagfyr 15fed - 22ain 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Rhaglen Aled Hughes - Bio-hacio

datblygiad - developmnet

manteision - advantages

pryderus - worried

nwyddau - products

undebau llafur - trade unions

dychmygu - imagine

stryffaglo - struggling

ymenydd - brain

hollol ddiymadferth - totally helpless

aruthrol - huge

Dach chi'n gwybod beth ydy bio-hacio? Os nad ydach, chi peidiwch â phoeni gan fod yr Athro Deri Thomas o Brifysgol Bangor am esbonio'r datblygiad newydd yma. Dyma fo'n sôn am rai o fanteision ac anfanteision y datblygiad hwn.



Melin Bupur - Dementia

diodde(f) - to suffer

profiadau - experiences

cyflwr - condition

wedi amau - had suspected

digalon - sad

syrthio - to fall

difrod - damage

colli meddyliau - losing faculties

salwch - illness

Yr Athro Deri Thomas oedd hwnna yn sôn am fio-hacio ar raglen Aled Hughes. Iechyd oedd thema'r rhaglen Melin Bupur ddydd Llun. Buodd tad Ruth Pritchard o'r Felinheli, ger Caernarfon, yn diodde o Dementia. Dyma i chi flas ar sgwrs lle roedd Ruth yn sôn am ei phrofiadau hi a phrofiadau ei thad o fyw gyda'r cyflwr.



Cofio - Mynwentydd

mynwentydd - cemetaries

gwth o oedran - very old

cerrig beddau - gravestones

hanesyn - a story

distawrydd - quiteness

dim gwerth i chdi - no point in you

Ruth Pritchard yn fan'na yn son ar Melin Bupur am sut oedd Dementia wedi effeithio ar ei thad. Mynwentydd oedd thema Cofio wythnos diwetha. Roedd Arwel Jones yn arfer canu gyda'r grwp Hogia'r Wyddfa, hogia o Lanberis oedden nhw i gyd. Dyma un o'i straeon am bentre bach Llanber - hanes dau ddyn yn cael sgwrs mewn mynwent.



Rhaglen Geraint Lloyd - Tatws

wastad - always

brifo - hurt

o mam bach - OMG

union run peth - exactly the same

gwaith celf - artwork

haearn smwddio - iron (as in ironing)

er cof am Nain - in memory of Granny

dw i wedi cadw fy ngair - I've kept my word

A dan ni'n aros yn Llanberis efo'r clip nesa. Mae Elin Mai yn dod o Lanberis a hi oedd gyda'r het ar raglen Geraint Lloyd wythnos diwetha. Mae Elin yn nyrsio yn Ysbyty Gwynedd ac yn canu. Mae hi hefyd yn ffan o gael ambell i datw. Os dach chi wedi bod yn gwylio'r rhaglen deledu Taith Tatws Dewi Pws, fallai eich bod chi wedi gweld Elin ar honno. Dyma hi'n sôn mwy am ei thatws wrth Geraint.



Tra Bo Dau - Mark Lewis Jones

yn gyffredin - in common

seiri - carpenters

darganfod - to discover

newid cyfeiriad - changing direction

Hanes tatws Elin Mai o Lanberis yn fann'na. Yr actorion Ffion Dafis a Mark Lewis Jones oedd gwestai Nia Roberts wythnos diwetha, ac mi fuon nhw'n sgwrsio am beth sydd ganddyn nhw yn gyffredin. Yn y clip yma mae Mark yn esbonio sut aeth o i fewn i'r byd actio yn y lle cynta'.



Stiwdio - Kyffin Williams

yn benna - chiefly

gwahardd - to ban

ar yr aelwyd - in the home

cenhedlaeth - generation

cartrefol - comfortable

erbyn hyn - by now

pa mor dost - how ill

Wel da iawn yr athrawes yn ysgol Morgan Llwyd ynde? Ysgol Gymraeg yn ardal Wrecsam ydy hi, ond chafodd yr artist Kyffin Williams ddim addysg Gymraeg yn yr ysgol a doedd o ddim yn cael ei siarad hi adre chwaith. Ond fel clywon ni ar Stiwdio roed dKyffin dal yn defnyddio'r Gymraeg pan oedd o'n cael y cyfle.



Bore Cothi - Iolo Hughes

elusennau - charities

yn fengach - younger

plannu'r hedyn - planting the seed

Rian Evans yn cofio am Kyffin Williams ar Stiwdio. Wel mae hi'n Ddolig a dyma'r adeg mae pobl yn rhoi ac yn cael anrhegion. Ond mae rhai eraill yn penderfynu gwneud pethau gwahanol iawn er mwyn helpu elusennau. Un o'r rheini ydy Iolo Hughes sydd wedi penderfynu gwneud rhywbeth dramatig iawn. Dyma fo'n egluro mwy ar raglen Bore Cothi, bore Mercher diwetha.



Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gwawr newydd yn Old Trafford

Nesaf

Mae Ramsey ar y ffordd i Juventus!