Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Rhagfyr 8fed - 14eg 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Dewi Llwyd - Tara Bethan

magwraeth anarferol - unusual upbringing

cymeriadau - characters

oherwydd - because of

trafod - discussing

hyfforddi - to train

chwinc - a quirk

anghenion arbennig - special needs

lliwgar - colourful

ofn - fear

calon - heart

Mi gafodd y berfformwraig Tara Bethan fagwraeth anarferol. Roedd ei thad, Orig Williams, yn reslar proffesiynol oedd yn reslo o dan yr enw ' El Bandito'. Tara oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd bore dydd Sul a dyma glip bach o'r sgwrs lle mae hi'n sôn am rai o'r cymeriadau daeth hi i'w nabod oherwydd gwaith ei thad.



Beti a'i Phobol. - Steffan Lewis

Aelod Cynulliad - Assembly member

cafodd ei ethol - was elected

cynrychioli - to represent

llys-dad - stepfather

amgylchedd - environment

di-Gymraeg - non Welsh speaking

hunaniaeth - identity

cyfrwng Saesneg - English medium

mor flin - so angry

tor-calonnus - heartbreaking

Tara Bethan yn fan'na yn dweud sut oedd ei magwraeth fel merch i reslar proffesiynol wedi ei pharatoi hi am y byd go iawn. Steffan Lewis oedd gwestai Beti George yr wythnos diwetha. Steffan oedd yr Aelod Cynulliad ifanca yng Nghymru pan gafodd ei ethol i gynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru yn 2016.



Melin Bupur - Stori Chris

sylweddoli - to realise

amser maith - a long time

bywyd iawn - real life

doedd gen i fawr o bres - I didn't have much money

gwitsiad - waiting

dwyn - stealing

sbio lawr fy nhrwyn - looking down my nose

Yr Aelod Cynulliad Steffan Lewis oedd hwnna yn dweud pa mor bwysig ydy hi i bawb gael y cyfle i fedru siarad Cymraeg a Saeneg yng Nghymru. Un o'r tair stori glywon ni ar Melin Bupur wythnos diwetha oedd stori Chris Rees o Lanor ger Pwllheli. Roedd Chris yn arfer bod yn alcoholig ond fel clywon ni ar y clip nesa yma, doedd o ddim yn sylweddoli bod ganddo fo broblem am amser maith.



Rhaglen Dei Tomos - Affganistan

ymosodiad - attack

cyfweld - interview

taflegrau - missiles

drws uffern - hell's door

crynu - shaking

paratoad - preparation

darparu - to provide

herwgipio - to kidnap

dwys - intensive

cymorth cynta - first aid

"A'r newyddion da ydy bod Chris heb yfed alcohol ers blynyddoedd erbyn hyn. Mi fydd yna raglen arbennig ar S4C nos Fawrth 18ed o Ragfyr yn dilyn taith y newyddiadurwr Eifion Glyn yn ôl i Affganistan bron i ddeg mlynedd ar ôl iddo fod yno gynta. Mae Eifion wedi ymddeol erbyn hyn ond mi gafodd o wahoddiad gan ITV i weld beth ydy'r sefyllfa yn Affganistan heddiw. Dyma Eifion yn cofio pa fath o le oedd Affganistan yn 2009.



Rhaglen Geraint Lloyd - Cymdeithas Gymraeg Casgwent

Casgwent - Chepstow

llwyddiannus - successful

nifer cynyddol - an increasing number

ffin - border

cymuned - community

rhannu - to share

troi lan - to turn up

galluogi - enabling

digwydd cwrdd a'i gilydd - happen to meet each other

clwb gwerin - folk club

Eifion Glyn oedd hwnna yn cofio'r adeg pan aeth o i Affganistan yn 2009. Mae Casgwent yn agos iawn at Loegr a does yna ddim llawer o bobl yn siarad Cymraeg yn y dre. Ond mae yna Gymdeithas Gymraeg lwyddianus iawn yno ac mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs am y Gymdeithas gyda Lynne Davies dydd Llun diwetha.

Rhaglen Geraint Lloyd - Banc Bwyd Arfon

mae'r drueni - it's a shame

y galw - the demand

haelioni - generosity

casgliad - collection

cenedlaethol - national

perthynas - relationship

cynnyrch - produce

blaenoriaethu - prioritising

cyd-ddyn - fellow man

eithriadol o hael - exceptionally generous

Hanes Cymdeithas Gymraeg Casgwent yn fanna gan Lynne Davies. Llwyddodd Banc Bwyd Arfon i dorri record yn ddiweddar a chasglu mwy o fwyd yn Tesco Bangor a Chaernarfon nac ar unrhyw adeg arall. Ond ydy hyn yn rhywbeth i'w ddathlu? Dyma Arwel Jones un o reolwyr Banc Bwyd Arfon yn siarad ar raglen Geraint Lloyd.

Rhaglen Aled Hughes - Sion Corn

yn enwedig - especially

cynhenid Cymreig - intrinsically Welsh

argraffiad cynta - first edition

mor gyfarwydd â hi - so familiar with it

casgliad - collection

y cynnwys - the content

y simne - the chimney

traddodiad - traditional

"Da iawn pobl Caenarfon am fod mor hael, ond mae hi'n drueni mawr bod angen y banciau bwyd yn tydy, yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn ynde? Dach chi'n nabod y gân Nadolig ' Pwy sy' dwad dros y Bryn'? Wel, Sion Corn ydy'r ateb wrh gwrs, ond be ydy hanes yr enw Sion Corn? Myrddin ap Dafydd fuodd yn trafod yr enw efo Aled Hughes.



Hanner Call - Nicky Roberts

Archdderwydd - Archdruid

agwedd - attitude

eitha rhyfedd - quite strange

ddim yn bodoli - doesn't exist

camdreiglo - mis-mutate

yr un sefyllfa - the same situation

wyneb i wyneb - face to face

gwarchod - to protect

cywiro - correcting

ddim yn ei werth o - not worth it

Hanes enw Sion Corn, neu Santa Clôs, gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn fan'na. Mae Nicky Roberts yn dod o Gwm Rhondda yn wreiddiol ond yn byw yn Aberystwyth erbyn hyn. Mae o wedi dysgu Cymraeg ac ar y rhaglen Hanner Call ddydd Iau gofynnwyd iddo fo oedd o wedi cael unrhyw broblemau efo agwedd siaradwyr Cymraeg tuag at y dysgwyr.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gemau nos Wener yn Uwch Gynghrair Cymru

Nesaf

Gwawr newydd yn Old Trafford