Main content

Blog cefn llwyfan Nia - dydd Gwener

Nia Lloyd Jones

Gohebydd Radio Cymru

Tagiwyd gyda:

"Eith Mam yn nyts efo fi!"

Dyna un o frawddegau cynta'r dydd heddiw - a hynny o enau Sophie Angharad Rudge - oherwydd nad oedd hi wedi brwsio ei gwallt cyn mynd ar y llwyfan i ganu!

Yn cystadlu hefyd roedd Sioned Llywelyn ac Alaw Lloyd Pugh - ateb Eisteddfod yr Urdd i Imelda Marcos gan fod ganddi hi a'i chwiorydd gasgliad enfawr o esgidiau!



Carys, Elen, Gwen a Sian enillodd y gystadleuaeth i ddeuawd/triawd neu bedwarawd cerdd dant yn canu 'Mae cynghanedd yn lysh' gan Caryl Parry Jones a'r bedair wedi gwneud eu gwallt yn flêr ac wedi peintio ar y tei ysgol!!



Ac wedyn fe gawson ni dipyn bach o Michael Jackson ar y llwyfan - wrth i Carwyn Jones ac Owain Huw gystadlu ar y ddeuawd offerynnol - a'r ddau yn chwarae'r cello.

Mae Owain yn aelod o'r band Bromas hefyd - ac yn edrych ymlaen at y gig yn Hermon nos Sadwrn. Os na welsoch chi'r perfformiad yma - mae'n werth mynd i chwilio amdano. Dyma un o fy hoff eitemau i yr wythnos yma yn sicr.



Mae llawer o'r cystadleuwyr heddiw yng nghanol eu harholiadau Lefel A - ac ambell un fel Kate Harwood wedi bod yn adolygu yn y gwesty neithiwr!

Roedd Kate yn cystadlu ar yr unawd merched ynghyd a Siwan Henderson a Sioned Mair Rees, a'r dair rwan yn edrych ymlaen at gael haf hir hapus di-lyfr!

Sian Elin,

Taswn i yn cael rhoi gwobr i'r siaradwraig orau heddiw - Sian Elin fyddai'n ennill. Doedd 'na ddim stop arni!

Roedd hi ar y llwyfan yn cystadlu fel aelod o Gôr Cerdd Dant Ysgol Bro Pedr heddiw a hynny ar ôl bod yn sgwrsio hefo Carwyn Jones, y Prif Weinidog, gan ei bod hi'n aelod o Fforwm yr Urdd.

P'nawn ma wedyn roedd hi'n cystadlu eto - y tro yma yn y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus!

Roedd wyneb Sion Eilir Roberts yn bictiwr pan ddaeth o oddi ar y llwyfan - ar ôl cystadlu ar yr unawd bechgyn gyda Robert Lewis a Steffan Lloyd Owen.

Sion Eilir Roberts (canol) gyda Robert Lewis a Steffan Lloyd Owen

Roedd o'n cyfaddef ei fod yn swp sâl cyn cystadlu ond yn sicr roedd hi'n werth yr ymdrech a llongyfarchiadau mawr iddo ar ddod yn drydydd, gyda Steffan yn ail a Robert yn gyntaf.

Roedd Carwyn Jones yn ôl ar y llwyfan eto p'nawn ma - na, nid y Prif Weinidog, ond yr offerynwr dawnus iawn o Ysgol Uwchradd Ystalyfera.

Canu'r 'cello mae Carwyn a phan welais i o ddechrau'r wythnos roedd o mewn dipyn o bicil gan fod ei gyfeilydd yn methu dod i'r Eisteddfod. Ond diolch byth, fe lanwyd y bwlch, ac fe enillodd Carwyn y wobr gyntaf - yr ail un heddiw!

Mi allen ni yn hawdd fod wedi newid enw'r orsaf heddiw i Radio Preseli - gan fod Ysgol y Preseli - yr ysgol leol -nôl a mlaen ar y llwyfan bob yn ail gystadleuaeth bron!

Mae'n debyg bod disgyblion yr ysgol yn cystadlu mewn 44 o gystadlaethau eleni, ac wedi cael llwyddiannau lu! Felly Mr Prifathro - siawns nad ydyn nhw a'u athrawon yn haeddu wythnos ychwanegol o wyliau yr wythnos nesa?!

Tagiwyd gyda:

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 6