Rownd 1, rhaglen 6, 2 Mehefin 2013: Neuadd Bancffosfelen a Chrwbin
Talwrn difyr dros ben heno o Neuadd Bancffosfelen a Chrwbin. (Gweler blog wythnos diwetha am berorasiwn y Meuryn ar hyfrydwch cynhenid [a tharddiad] y gair ‘Crwbin’.)
Difyr hefyd oedd cwrdd ag aelod o’r gynulleidfa a oedd – a hithau dros ei 90 oed – yn gallu dyfynnu stribed o englynion ar ei chof, a’r rheini wedi eu dysgu pan oedd hi’n ddisgybl yn yr ysgol gynradd leol, diolch i’w hathro, Mr John Emanuel.
O na byddai athrawon ar hyd a lled y wlad wedi gallu gwneud hyn ar hyd y blynyddoedd! O ddewis yr englynion ‘iawn’, oni byddai dysgu un yr wythnos (a) yn werthchweil (b) yn waith hawdd? Ni byddai raid sôn am na chynghanedd na thechneg na dim oll arall. A dweud y gwir, dylsid osgoi hynny o fwriad. Dim ond mwynhau’r sain a’r ystyr sydd ei angen, a pheidio gwneud big deal ohono!
Ac roedd mwynhau sain ac ystyr yn orfodol yr wythnos hon wrth i dimau Beirdd Myrddin, Y Cŵps a Thir Iarll herio’i gilydd.
Ymysg y pethau a wnaeth fy nghoglish i oedd penderfyniad Geraint Williams o dîm y Cŵps i ailfrandio Dewi Llwyd fel y Jeremy Kyle Cymreig a Chymraeg.
Annisgwyl hefyd oedd gweld rapiwr gorau Pontyberem, Aneirin Karadog o dîm Tir Iarll, yn troi’n lladmerydd ar ran yr henoed hynny na allant hawlio’u taliadau pensiwn oherwydd nad oes ganddynt y gallu cyfrifiadurol i’w hawlio.
Llai hyfryd, serch hynny, oedd parodi comig Ynyr Williams ar emyn Eifion Wyn ‘Un fendith dyro im’!
Ond, i mi o leia, cywydd deg-marc Huw Meirion Edwards a cherdd ddeg-marc Dafydd John Pritchard, ill dau o dîm y Cŵps, oedd uchafbwyntiau’r ricordio o Fancffosfelen.
O blith yr ymdrechion nas dewiswyd ar gyfer yr ornest, roedd y cyfaddefiad hwn gan Iwan Bryn James mewn cwpled yn cynnwys yr ymadrodd ‘ar goll’:
Caled yw gwneud cwpledi –
Nefi wen, ar goll wyf i.
Y Cŵps
Druan ag e!
Ac nid annhebyg oedd cyfaddefiad Aled Evans, er bod ei ieithwedd ef ychydig yn llai ymatalgar:
Yr wyf ar goll yn hollol:
Ar awr wan daeth bygyr ôl.
Beirdd Myrddin
Roedd yn braf cael croesawu talyrnwr newydd i’r gyfres heno, sef Meirion Wynn Jones o dîm Beirdd Myrddin. Ef oeddd enillydd Tlws y Cerddor yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2011. Ei hawl-i-fawl diweddara yw ei fod ef yn gyfeilydd Côr y Wiber, a enillodd gystadleuaeth Côr Cymru eleni, a hynny gyda rhaglen gwbwl ddigyfeiliant!
Mae gan y tîm hwn Meirion Jones arall yn eu rhengoedd, ac ro’n i’n edmygu’r cywydd Pasg y Meirion hwnnw ar y testun ‘Cynnig’, yn enwedig felly y pennill olaf gonest a thrawiadol:
Daw’r groesbren eto ‘leni
rywfodd fewn i’m hanfodd i,
a gwn fod yna fedd gwag
un annwyl, ond beth bynnag
ni welais unrhyw hoelion
nag affliw o friw ar fron.
Ac erbyn hyn sut all neb
ildio i’w dragwyddoldeb?
Eto’i boen sy’n fy mhoeni,
mae o hyd yma i mi
yn Dduw er fy nghalon ddu,
yn Geidwad er y gwadu.
Beirdd Myrddin
Pan nad yw’n goruchwylio cynhyrchu Pobol y Cwm, mae Ynyr Williams yn fardd dansierus, fel mae’r englyn ‘Ffurflen’ yn dangos yn glir.
(I Alun Davies A.C.)
Nid drwy ffurflen a'i llenwi y gwêl hwn
gefn gwlad; sut mae cyfri
sawl oen ei phris eleni?
Mae'r inc dros fy Nghymru i.
Tir Iarll
O.N.
Pleser arall yr wythnos hon oedd cael cwmni Catrin Huws, cynhyrchydd Y Talwrn, drwy gydol y ricordiad. Wythnos diwetha, bu rhaid iddi, ar ôl llond dwrn o dasgau yn unig, adael y llwyfan yn sydyn ac yn derfynol am iddi ddechrau peswch a pheswch a pheswch, druan.
I glywed rhaglen ddiweddaraf y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'r cerddi ddaeth i'r brig ewch i wefan Radio Cymru.
