Perfformiad grymus, amddiffyn disgybledig ac addasu tactegau ar gyfer y ail hanner.
Ie, aeth Cymru i wlad y tîm a oedd wedi eu dethol fel y bedwaredd gorau yn y byd, gan rwystro Gwlad Belg rhag sgorio.
Mae’r patrwm y mae Cymru wedi ei osod, sicrhau amddiffyn cadarn, cyd chwarae deallus drwy ganol y cae, a thorri yn gyflym gan chwilio am Gareth Bale ynghyd a chyflymder Hal Robson Kanu ar y blaen wedi gosod stamp bygythiol a chredadwy i’w gem.
Credaf mai cryfder y tîm , yn ogystal â doniau Bale a Ramsey, ydi'r ffaith eu bod yn ymateb yn dda i dactegau craff y tîm hyfforddi, fel ddigwyddodd yn yr ail hanner y Sul diwethaf, gan fod yn barod i addasu'r chwarae fel y bo'r modd.
Hwyrach bod gwendidau yn parhau, ansicrwydd ynglŷn â’r blaenwyr os nad yw Bale yn holliach, ond mae’r gallu heddiw ganddynt i gyd chwarae, a chael y gorau allan o’i gilydd, beth bynnag fo’r sefyllfa fel y gwelwyd wrth addasu trefn a thacteg yn erbyn Gwlad Belg.
Ond gyda Chymru ar rediad o fod ond wedi colli unwaith yn eu naw gem ddiwethaf (gem gyfeillgar yn yr Iseldiroedd), tactegau cyfrwys y tîm rheoli, chwaraewyr dawnus a threfn , disgyblaeth ac ysbryd o gyd chwarae, a chyd weithio ar gyfer ei gilydd, does dim amheuaeth fod Cymru yn prysur osod eu stamp cystadleuol ar y byd rhyngwladol.
Toriad yn y cystadlu rhyngwladol i Gymru (a’r gwledydd eraill) hyd nes diwedd fis Mawrth gyda thaith i wynebu Israel.
Ond bydd rhaid bod llawer mor wyliadwrus yn y gêm honno hefyd gan fod buddugoliaeth Israel dros Bosnia / Herzegovina nos Sul wedi sicrhau tair buddugoliaeth o’r bron iddynt yng nghystadleuaeth Ewro 2016, a’u gosod ar frig Grŵp B.
Gorau chwarae, cyd chwarae !
