Mae nifer o gemau pêl droed yn cael eu disgrifio fel yr un fwyaf pwysig i dimau, ond y Sul yma, ai dyma fydd gen i bwysicaf Cymru, os nad erioed, yna yn bendant o fewn y blynyddoedd diweddar?
Ydi hon mor fawr ag oedd y gêm yna ar Stadiwm y Mileniwm yn erbyn Rwsia yn 2004 yn y gêm ail gyfle ar gyfer Ewro 2004, neu'r gêm yna ‘nol yn 1993 yn erbyn Romania a’r gic o’r smotyn a fethwyd gyda’r sgôr yn un yr un gyda dim ond hanner awr ar ôl?
Ie, pa mor bwysig all gem fod? Ond i garfan bresennol Cymru, a’r dilynwyr presennol, bydd nos Sul , draw ym Mrwsel, llawn mor bwysig wrth i Gymru wynebu Gwlad Belg.
Y farn gyffredinol yn ôl y cyfryngau a’r wasg ydi mai Gwlad Belg ydi'r ffefrynnau i ennill y grŵp.
Tydw i ddim mor siŵr. Er iddynt gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ym Mrasil yr haf diwethaf, wnaeth y Belgiaid ddim byd i’n cynhyrfu a’u bod am ysgwyd y byd pêl droed. Yn wir, roedd yr Unol Daleithiau yn anlwcus iawn i golli o un gôl i ddwy yn eu herbyn, gan weld Gwlad Belg yn cyrraedd yr wyth olaf.
Ond yn fy marn i tydi Gwlad Belg ddim ymysg yr wyth gorau yn y byd.
Tîm sydd yn cynnwys nifer o chwaraewyr talentog, a galluog hwyrach, ond nid yn cyfuno mor dda â hynny fel tîm effeithiol.
Ar y llaw arall, mae Cymru, er nad yn cynnwys cymaint o chwaraewyr llawn mor ddawnus â’u gwrthwynebwyr (ar wahân i Aaron Ramsey a Gareth Bale) yn dangos gwell trefn, gwell ysbryd, awch a brwdfrydedd.
Credaf mai cryfder y tîm , yn ogystal â doniau anhygoel Bale a Ramsey, ydi'r ffaith eu bod yn ymateb yn dda i dactegau craff y tîm hyfforddi, ac yn barod i addasu'r chwarae fel y bo'r modd.
Hwyrach bod gwendidau yn parhau (pa dim o Gymru fu erioed heb ei wendidau ?) ond mae’r gallu heddiw ganddynt i gyd chwarae, a chael y gorau allan o’i gilydd, beth bynnag for sefyllfa (cae annerbyniol yn Andorra neu ddeg dyn yn erbyn Cyprus).
Llwyddiant felly i mi nos Sul, ac ymlaen am weddill yr ymdrech i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016. (gan obeithio na fydd pethau yn dibynnu ar gic o’r smotyn yn y gêm olaf !)
Come on Cymru!
