Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Tachwedd 18, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Beti a'i Phobol - Bywyd yn Awstralia

bywyd - life

gweddol fach - fairly small

pwysau - pressure

rhyddid - freedom

eisoes - already

yn gynhesach - warmer

deugain gradd - forty degrees

traddodiadol - traditional

fedra i ddim dychmygu - I can't imagine

morgrug - ants

...Beti George yn sgwrsio efo Eurwen Taylor sydd yn dod o Griccieth yn wreiddiol ond sy'n byw yn Awstralia ers tri deg saith o flynyddoedd. Cwestiwn Beti i Eurwen oedd pam bod byw yn Awstralia yn well na byw yng Nghymru. Wrth ateb, mae Eurwen yn disgrifio sut mae hi'n treulio dydd Nadolig yn Awstralia. Gwrandewch ar hwn a phenderfynwch be fasai orau gennych chi - Dolig Awstralia ta Dolig Cymru?

Post Cyntaf - Ail-gylchu

ail-gylchu - recycling

ysbwriel cyffredin - general rubbish

casglu - collecting

amrywiaeth - variety

gwastraff gardd - garden refuse

dosbarthu - to distribute

llygaid barcud - a keen eye

cipolwg - a glance

cosb - penalty

cadw golwg ar - keeping an eye on

Wel, be dach chi'n feddwl? Cinio Dolig yn eich gwisg nofio, ta swatio o flaen y tân yng Nghymru fach? Eurwen Taylor yn fan'na yn swnio'n reit hapus yn mwynhau tywydd poeth dros Wyl y Nadolig. Rhai o'r bobl brysura dros yr Wyl ydy'r rheini sy'n casglu'r biniau ail-gylchu a'r sbwriel cyffredin hefyd wrth gwrs. Dydd Iau mi gafodd Ben Price sgwrs ar ran Post Cyntaf efo Martin Huws o Gyngor Sir Ddinbych am arferion ailgylchu pobol yr ardal...

Rhaglen Dylan Jones - Tai Kwan Do ac Eisteddfodau

pencampwriaeth Prydeinig - British Championship

medal aur - Gold medal

ymladd - fighting

yn beryg(lus) - dangerous

ymarfer - training

mynd amdani - going for it

cystadlaethau - competitons

unawd - solo

cael llwyfan - through to the main stage

adrodd - reciting

...a Ben Price oedd yn fan'na yn sgwrsio efo Martin Huws am ailgylchu. Sgwrs wahanol iawn gafodd Dylan Jones ddydd llun efo Gwenan Hopkins o Gaerdydd. Yn ystod y tri munud nesa yma dach chi'n mynd i glywed Dylan a Gwenan yn sôn am ddau beth fasech chi byth yn eu cysylltu efo'i gilydd - Tai Kwan Do a chanu mewn Eisteddfodau. Dyma nhw yn esbonio'r cysylltiad...

Dod At Ein Coed - Mynwent naturiol Boduan

Mynwent Tragwyddol Boduan - Boduan Eternal Sanctuary

claddu - to bury

dail - leaves

mab newydd anedig - newlyborn son

rhywsut neu'i gilydd - somehow or other

tawel a heddychlon - quiet and peaceful

profiad rhyfeddol - an amazing experience

yma ac acw - here and there

creu - to create

arferol - usual

Tybed ai Gwenan ydy'r Pencampwr Prydeinig Tai Kwan Do cyntaf i gystadlu ar ganu ac adrodd yn yr Eisteddfod? Siwr o fod ynde? Eitem tra wahanol i orffen y podlediad hwn. Ar y rhaglen DOD AT EIN COED ddydd Sul mi aeth LLion Willliams draw i Fynwent Tragwyddol Boduan efo Llinos Haf Huws. Mae'r fynwent hon yn lle arbennig iawn. Coedwig sydd yno lle mae pobl ac anifeiliad yn medru cael eu claddu mewn safle cwbl naturiol. Mae babi bach Llinos wedi ei gladdu yn y fynwent ac mi ofynnodd Llion iddi pam dewis y lle yma i gladdu ei mab?

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Gem Gwlad Belg v Cymru

Nesaf

Trydydd Rownd Cwpan Cymru