Mae’n benwythnos Cwpan Cymru JD eto gyda gemau diddorol ar hyd a lled y wlad.
Bydd dwy gêm yn cael eu cynnal rhwng timau o Uwch gynghrair JD Cymru sef y Seintiau Newydd ac Aberystwyth - gem a fydd o bosibl yn gweld y Seintiau yn camu ‘mlaen i rownd yr wyth olaf, tra fydd Pen y Bont yn wynebu Coleg Met Caerdydd - y Coleg i ennill efallai?
Fodd bynnag, fy newis i o’r gemau ydi honno yn Abertawe ble fydd tîm y Brifysgol sydd ar frig Cynghrair De Cymru yn chwilio am fuddugoliaeth dros Brestatyn, sydd eu hunain yn gosod safon uchel ar frig Gynghrair Gogledd Cymru.
Ail agos i fod yn gêm y rownd yw honno yn Rhydaman rhwng y tîm lleol a Chaernarfon. Nid gem hawdd yw hon i'r Cofis sydd wedi disgyn am rediad siomedig ers y Nadolig, a chyda Rhydaman yn chwalu Caerfyrddin o bedair gôl i ddim yn y drydedd rownd, fe allaf weld buddugoliaeth arall iddynt dros dîm o Uwch Gynghrair Cymru.
Gyda Choleg Met Caerdydd eisoes wedi dangos yr hyn sy’n bosibl i dîm o brifysgol ei gyflawni o fewn cyfundrefn bresennol pêl droed Cymru, mae myfyrwyr Abertawe yn barod i wneud eu marc hefyd, a hwyrach wedi dysgu oddi ar ddatblygiad y Met.
Ond, Cwpan Cymru sydd yn galw brynhawn Sadwrn gyda lle yn yr wyth olaf yn galw’r enillwyr.
Gweddill gemau’r bedwaredd rownd – gyda fy mhroffwydoliaeth, ydi:-
Derwyddon Cefn v Pontardawe - y Derwyddon i ennillCei Connah v Lido Afan – Cei Connah i gamu ymlaenY Drenewydd v y Rhyl – buddugoliaeth i’r DrenewyddY Fflint v Bae Colwyn – y Fflint i’r wyth olaf
Mwynhewch y gemau a “Gwyliwch y goliau”, chwedl Dylan Jones !
