« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 17 Ionawr 2013

Categorïau:

PigionPigion|14:52, Dydd Iau, 17 Ionawr 2013

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Ifan Evans - nos Fawrth

cynllunwyr - designers

canolbwyntio - concentrating

mas - allan

anhygoel - incredible

cerddoriaeth - music

ffili - methu

am w'n i ( am wyddwn i) - I suppose

yn bennu - yn gorffen

o flaen llaw - before hand

unigryw - unique

"... hanes model o Gymru. Na, dw i ddim yn sôn yma am Miss Wales na neb felly ond am Dylan Garner o Dregaron. Fo oedd gwestai Ifan Evans nos Fawrth ac mae o'n llwyddianus iawn fel model. Mae o wedi gweithio efo rhai o gynllunwyr mwya'r byd ffasiwn, a'r wythnos yma mi fydd o'n gweithio mewn sioe ffasiwn arbennig iawn yn Llundain. Hon fydd y sioe cynta yn y ddinas sy'n canolbwyntio ar ffasiwn dynion yn unig. Ond sut dechreuodd y bachgen 'ma o Dregaron weithio fel model? Wel mae hi'n stori ddiddorol a dyma Dylan yn dweud yr hanes... "

Nia Roberts - Y Tube

tanddaearol - underground

diweddar - recent

gorsafoedd - stations

dadrithiad - dissillusionment

ar flaen y gad - leading the field

gwagio - to empty

llwyth o bobl - loads of people

canrif a hanner - a century and a half

cyfnod y rhyfel - the war period

gwarchod rhag - to protect from

"Wel dyna stori ynde? Dylan y plastrwr rwan yn fodel enwog. Colur ydy'r unig beth mae o'n blastro rwan debyg! Arhoswn ni yn Llundain ar gyfer y clip nesa. Stuart Cole fuodd yn siarad efo Nia Roberts dydd Llun am hanes trenau tanddaearol y ddinas - sef system y 'tube'. Dechreodd y trenau yma redeg gant a hanner o flynyddoedd yn ôl ond mae hanes mwy diweddar i'r mapiau o'r system sy'n dangos y gorsafoedd wedi eu cysylltu mewn llinellau syth. Mae o i'w weld yn fap digon syml yntydy? Ond ar un adeg roedd y math yma o fap yn torri tir newydd, fel yr esboniodd Stuart Cole... "

Straeon Bob Lliw - Maes G

dwyieithog - bilingual

hyder - confidence

yn frwdfrydig - enthusiastic

breuddwyd - dream











"Tasech chi'n dod ar y tren o Lundain i Gaergybi mi fasech chi'n sylwi ar stâd fawr o dai ar gyrion dinas Bangor. Maesgeirchen ydy enw'r stâd, neu Maes G os dach chi'n byw yn lleol. Mi gaethon ni flas ar fywyd y stâd hon ar Straeon Bob Lliw ddydd Llun. Yr actor Llion Williams, sy'n dod o Fangor yn wreiddiol, aeth â ni o gwmpas y stâd a chael sgwrs efo nifer o'r bobl sy'n byw yna. Yn y clip nesa mi gawn ni ei glywed yn siarad efo dwy fam ifanc, Siân a Bethan ac efo merch ifanc o'r stâd o'r enw Paige. "

Huw Stephens - Hywel Pitts

profiad gwych - brilliant experience

darlithoedd - lectures

ymarferol - practical

cerddor - musician

cyflog - wage

llifogydd - floods cynulleidfa - audience cyfaddef - to admit gwaelod - bottom dyledion - debts

"Paige yn fan'na'n breuddwydio am fod yn actores. Pob lwc iddi hi ynde, a chofiwch mai yma clywoch chi'r enw gynta. Bachgen ifanc o'r un rhan o Gymru ydy Hywel Pitts. Cerddor ydy o sydd wedi agor stiwdio recordio ei hun ar gyrion Bangor. Nos Lun diwetha roedd o'n gwneud sesiwn yn y stwidio efo Huw Stephens. Oedd, mi roedd yna gerddoriaeth ar Radio Cymru yr wythnos diwetha. Mi gawn ni glywed cân gan Hywel ar ddiwedd y clip ond yn gynta dyma ran o'i sgwrs efo Huw... "