« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 09 Ionawr 2013

Categorïau:

PigionPigion|14:54, Dydd Mercher, 9 Ionawr 2013

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Stiwdio - Phill Harries

bellach - by now

yn dueddol i fod - tends to be

rhywioldeb - sexuality

yn fwrn - a burden

yn llethol - onerous

celwydd - a lie

menywod - merched

yn berthnasol - relevant

adloniant - entertainment

gyrfa - career

"...drwy ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi. Gobeithio eich bod chi wedi cael gwyliau da a bod Sion Corn wedi bod yn garedig efo chi! Mae hi'n dymor y pantomeim wrth gwrs ac mae sawl sioe ar daith drwy Gymru ar hyn o bryd. Fasai Panto ddim yn banto heb y 'dame' na fasai? Yn Stiwdio yr wythnos diwetha mi glywon ni gan yr actor Phill Harries sydd wedi bod yn 'dame' llawer iawn o weithiau. Ydy hynny unrhywbeth i'w wneud efo gweld ei dad mewn ffrog am y tro cyntaf? Gwrandwch ar hyn os dach chi eisiau'r ateb... "

Dan a Caryl - Nadolig gwahanol iawn

goleudy - lighthouse

moethus - luxurious

anturus - adventurous

llys-dad - stepfather

pwysau - pressure

trefnus - organised

gorfodi - to force

o ddifri - seriously

ymddwyn - to behave

cyfrinach - secret

"Rhyfedd de - bod yn 'dame' yn rhedeg yn y teulu...Sut 'Ddolig gaethoch chi ta? Un traddodiadol teuluol, adre o flaen y goeden yn agor yr anrhegion? Wel, mi gafodd mam yr actores Eiry Thomas syniad am Nadolig ychydig yn wahanol. Eiry, sydd wedi actio yn Teulu, Pen Talar, Stella ac Eastenders oedd un o westeion Caryl a Dan yr wythnos diwetha. Yn y clip cawn glywed am ei Nadolig tra gwahanol mewn goleudy! "

Blas - Jams

rysait - recipe

toddi - to melt

eirin - plums

eirin gwlanog - peaches

beirniadu - to adjudicate

caead - lid

cymysgedd - mixture

arbrofi - to experiment

Sir Gaerhirfyn - Lancashire

yn twchu - to thicken

"Daniel Glyn oedd yn cadw cwmni i Caryl Parry Jones yn fan'na ac yn cadw fy sedd i yn gynnes! Fel y clywon ni yn y clip mae Eiry Thomas yn un o'r rheini sydd yn cymryd rhan yn 'Pryd o Ser’ efo Dudley Newbery. Mae'r rhaglen i'w gweld ar S4C bob nos Fercher, sydd yn dod a ni'n daclus iawn at y clip nesa, sy'n dod o'r rhaglen fwyd 'Blas'. Aeth Ffion Dafis i gael sgwrs efo brenhines y jams a chutneys o’r Bala – Wendy Brynllech. Mae Wendy'n frenhines mewn mwy nag un ffordd hefyd - mae hi'n dod o Preston yn wreiddiol ond fel cewch chi glywed rwan - mae hi'n rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn... "

Gwerth fy myd - Jon Gower

yn feichiog - pregnant

gwerthoedd moesol - moral values

mabwysiadu - to adopt

agweddau - elements

llymder - austerity

trais - rape

amheuhaeth - suspicion

syfrdan - thunder struck

nodweddiadol - typical

cyfoeth deallusol - intellectual richness

"Does na ddim pwynt meddwl am ddeiet blwyddyn newydd ar ôl gwrando ar hwnna nagoes? Ia dyma'r adeg o'r flwyddyn lle mae llawer ohonon ni'n penderfynu newid ein ffordd ni o fyw, ac ella ail edrych ar be sy'n bwysig i ni ac ar ein gwerthoedd ni. Ar ddyddiau Gwener ar Radio Cymru mi gewch chi glywed Huw Jones yn siarad efo nifer o bobl enwog ac yn eu holi nhw am eu gwerthoedd, a sut mae rheini wedi effeithio ar eu bywydau. Y nofelydd Jon Gower oedd un o’r gwestai ddydd Gwener ac yn y clip yma mae o’n sôn am ei hanes cynnar, a sut mae'r digwyddiadau hynny wedi effeithio arno fo. "

Geraint Lloyd - Yr Het

dathlu - to celebrate

difyr - diddorol

o ddigon - by far

trwsio - to repair

safle we - website

gweithgareddau - activities

ymuno - to join

cyfle - opportunity

hala - anfon

"Jon Gower yn fan'na yn son am werthoedd ei rieni, oedd yn amlwg wedi chwarae rhan bwysig iawn yn ei fywyd. Dan ni am gael clip hollol wahanol i orffen heddiw 'ma - hanes het Geraint Lloyd. Os dach chi'n cofio mae het Geraint yn teithio o gwmpas y wlad, yn cael ei phasio o un person i'r llall, a Geraint yn cael sgwrs efo pwy bynnag sy'n gofalu am yr het. Llinos Roberts, Cefn Meiriadog oedd y person lwcus yr wythnos diwetha - buodd yr het efo hi am wythnos ac mi aeth hi â hi i briodas hyd yn oed! "