Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 24 Ionawr 2013
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Nia Roberts - Ivor Novello
cytundeb - contract
yn benodol - precisely
yn addoli - to adore
hael - generous
oferedd - futility
gwallgof - madness
enllibio'r meirw - to slander the dead
hoyw - gay
braidd yn ddiniwed - rather naïve
yn anochel - inevitable
"...ychydig o hanes Ivor Novello, canwr, actor ac awdur sgriptiau oedd yn dod o Dde Cymru'n wreiddiol. Ddydd Mawrth roedd hi’n gant ac ugain o flynyddoedd ers geni Ivor ac mi gafodd Nia Roberts gwmni Frank Lincoln i sgwrsio am ei waith, ac am ei hanes personol diddorol iawn. Mae'r hanes hwnnw'n mynd â ni o Gaerdydd i Hollywood ac i'r Almaen, ac o Tarzan at Adolf Hitler. Dyma'r hanes i chi... "
Dan yr wyneb - cyffuriau
cyfreithloni cyffuriau meddal - to legalise soft drugs
yn gaeth i - addicted to
dioddef - to suffer
gradd - degree
agwedd - attitude
ymenydd - brain
gwarchod - to look after
sylweddoli - to realise
iselder - depression
cyfraith a meddygaeth - law and medicine
"Ia, 'Keep The Home Fires Burning' - addas iawn ar ôl yr holl eira 'ma gaethon ni yr wythnos diwetha ynde? . Mi fuodd Dylan Iorwerth ar Dan yr Wyneb yn trafod cyffuriau hefo Huw Harris sydd wedi bod yn gaeth i alcohol yn y gorffennol, ac sydd yn sylfaenydd ‘AGRO’ grwp sydd wedi helpu dros dau gant o bobl sydd â phroblemau cyffuriau yng Ngwynedd a Môn . Ond yn gynta cawn ni glywed gan Sandra. Mae ei brawd yn gaeth i gyffuriau, a dyma hi'n sôn am effaith hyn ar y teulu... "
Dafydd a Caryl - Tom Harries
cawod - shower
yn dynn - tight
llwyfan - stage
"Huw Harris yn fan'na yn siarad am y gwaith da mae AGRO yn ei wneud yng Ngogledd Cymru. Dan ni'n mynd i orffen yr wythnos yma efo dau actor sydd wedi llwyddo ym myd y ffilmiau. Mi ddaeth y ddau ohonyn nhw at Caryl a finnau i sgwrsio am eu gwaith. I ddechrau Tom Harris o Gaerdydd, actor ifanc sydd wedi actio efo Minnie Driver yn y ffilm “Hunky Dory” ac sydd ar hyn o bryd yn ffimio “Ironclad 2”. Sut lwyddodd o i gael rhannau mewn ffilmiau mor fawr ac yntau mor ifanc? "
Dydd Mawrth - Julian Lewis Jones
Yr Iorddonen - Jordan
clyweliad - audition
Dydd Gwener Groglith - Godd Friday
cyfarwyddwraig - director(female)
helfa - hunt
golygfa - scene
anialwch - desert
y tywyllwch - the dark
cyfrinachol -
"Tom Harries yn fan'na , dw i'n siwr y byddwn ni'n clywed llawer mwy amdano fo yn y dyfodol. Ddydd Mawrth yr actor o Benllech, Julian Lewis Jones oedd ein gwestai arbennig ni. Mae o wedi actio mewn ffilmiau fel 'Invictus' am Nelson Mandela, ond cyn bo hir byddwch yn ei weld mewn ffilm am ladd Osama Bin Laden o’r enw “Zero Dark Thirty”. Dyma i chi ran o'r sgwrs lle mae o'n sôn am sut gaeth o wybod ei fod wedi cael y rhan. "
Eleri Sion - Nest Jenkins - Canu'r delyn
arwr - hero
blynyddol - annual
gwahodd - to invite
canmol - to praise
diddanu - to entertain
telynores - harpist
"Pan ôn i'n hogyn 13 oed, fy arwr i oedd ac mi fyswn i wedi bod wrth fy modd yn ei g/chyfarfod. Wel, mi gafodd Nest Jenkins, hogan 13 oed o Aberaeron, gyfarfod â Tywysog Charles wythnos diwethaf pan wnaeth o ymweld â'r dref yn rhan o'i daith flynyddol o gwmpas Cymru. Cafodd Nest ei gwahodd i ganu'r delyn ar gyfer y dorf oedd wedi hel i weld y Tywysog ac mi gafodd ei chanmol am ei dawn. Dyma Nest ar raglen Eleri Siôn i ddweud mwy am yr hanes. "


Mae