Archifau Rhagfyr 2012

Cerddoriaeth 2013

Lisa GwilymLisa Gwilym|11:59, Dydd Llun, 31 Rhagfyr 2012

Sylwadau (1)

Helo a blwyddyn newydd dda!

Dwi’n edrych ‘mlaen at flwyddyn arall o gyflwyno cerddoriaeth newydd o bob math ar C2. Ond ar ddechre 2013, mae’r sefyllfa rhwng y BBC ac EOS am olygu newidiadau i’r rhaglen. Ar hyn o bryd, fydd C2 ddim ond ymlaen am awr bob nos, a fydda i ddim yn gallu chware popeth fyddwn i’n ei wneud fel arfer.

Yn amlwg, mi ydw i a gweddill y criw yn gobeithio y bydd ne gytundeb teg yn dod yn fuan, ac y cawn ni barhau i roi llwyfan i’r holl gerddorion talentog ‘da ni’n mwynhau cyd-weithio hefo nhw. Yn y cyfamser, mi ydw i a’r criw am wneud yr hyn y gallwn ni i sicrhau fod y gynulleidfa’n cael gwasanaeth mor gyflawn ac y gallwn ni, a bod yr artistiaid sydd wrthi’n cyfansoddi, recordio a rhyddhau ar hyn o bryd yn cael cymaint o sylw ac sy’n bosib o dan yr amgylchiadau, a’r cyfyngiadau.

Felly, mi fydda i’n blogio yn ystod y cyfnod, yn dod a newyddion o’r sîn, ac yn rhannu lincs i wefannau cerddorion, deunydd newydd, gigs ayyb. Yn y blog nesa, dwi’n gobeithio son rhywfaint am albym Siddi, ac EP Sensegur.

Dwi nol ar C2 nos fercher am 7. Blwyddyn newydd dda!

Lis

x

Pigion i Ddysgwyr: 20 Rhagfyr 2012

PigionPigion|16:11, Dydd Iau, 20 Rhagfyr 2012

Sylwadau (0)

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Darllen gweddill y cofnod

Dewi Llwyd yn holi Jon Gower

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|12:40, Dydd Sul, 16 Rhagfyr 2012

Sylwadau (0)

Yr awdur a'r perfformiwr Jon Gower oedd gwestai penblwydd Dewi ar ei raglen 16.12.12. Enillydd gwobr Llyfr y flwyddyn eleni. Yn ogystal a son am ei ddoniau ysgrifennu mae'n trafod dawnsio, cael ei fabwysiadu a'i ymweliadau cyson a'r Unol Daleithiau.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Pigion i Ddysgwyr: 12 Rhagfyr 2012

Categorïau:

PigionPigion|10:37, Dydd Mercher, 12 Rhagfyr 2012

Sylwadau (0)

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Darllen gweddill y cofnod

Pigion i Ddysgwyr: 7 Rhagfyr 2012

Categorïau:

PigionPigion|13:40, Dydd Gwener, 7 Rhagfyr 2012

Sylwadau (0)

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Darllen gweddill y cofnod