Pigion i Ddysgwyr: 12 Rhagfyr 2012
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Dei Tomos - Syr Thomas Jones
addysg gyfun - comprehensive education
llawdriniaeth - surgery
diheintio - to sterilise
gwallgofddyn - madman
gwenwyn gwaed - blood poisoning
angeuol - fatal
urddo gan y brenin - honoured by the King
Ardalydd Món - Marquis of Anglesey
marchog - knight
difaru dim - regret nothing
"...ar Ynys Môn. Wyddoch chi mai Cyngor Sir Fôn oedd y cynta yn y Deyrnas Unedig i gynnig addysg gyfun i'r plant? Yn ôl ym mil naw pump tri oedd hynny, ond mi roedd rhai wedi gweithio cyn hynny i gael chwarae teg i'r plant. Un o'r rheini oedd Syr Thomas Jones, meddyg o Amlwch. Mae'r ysgol gyfun leol wedi ei henwi ar ei ôl. Ond nid am ei waith ym myd addysg yn unig mae pobol yn cofio amdano fo, fel y clywon ni gan Richard Williams ar raglen Dei Tomos ddydd Sul.... "
Iola Wyn - Diwrnod Comedi
y ddawn - the talent
adloniant pur - pure entertainment
addasu - to adapt
dial - to take revenge
digri - doniol
talcen caled(idiom) - a dificult challenge
yn ei anterth - in his heyday
mwy diweddar - more recent
ffraeth - witty
dyletswyddau - duties
"Fel rhan o ddiwrnod comedi Radio Cymru mi gafodd Hywel Gwynfryn sgwrs efo John Pierce Jones am rai o fawrion comedi Cymru. Yn y clip nesa, yn ogystal â chlywed John a Hywel yn sgwrsio, mi gewch chi glywed lleisiau Charles Williams, Gari Williams, a Stuart Jones fel Ifans y Tryc... "
C2 Huw Stephens - Dathlu
diffoddwyr tân - firefighter
gwleidyddiaeth - politics
diolch i'r drefn - thank goodness
gwlychu - to wet
curadur - curator
cyhoeddi - announce
weiran gaws - cheese wire(v.thin person)
lloeren - satellite
wedi canu arnoch chi - you've no chance
rhoi'r byd yn ei le - set the world to rights
Mwy o leisiau o'r gorffennol rwan, er ddim cweit i adeg pan oedd Charles Williams, Gary Williams ac Ifas y Tryc yn eu hanterth. Dan ni am fynd yn ôl ddeg mlynedd i raglen gynta erioed C2. Er mwyn dathlu'r digwyddiad mi wnaeth Huw Stephens chwarae rhannau o'r rhaglen honno nos Lun diwetha. Mae'n ddrwg gen i am hyn, ond fedrwch chi ddyfalu llais pwy ydy'r un cynta byddwch chi'n ei glywed?
Manylu - cerddoriaeth Cymraeg
breindal - royalty
dw i'n amau dim - I don't doubt
dyfodol y diwydiant - the future of the industry
fawr ddim - hardly any
enillion - earnings
tywynnu - shining
cyd-destun ehangach - wider context
cyngor - advice
cyfansoddi - compose
cenfigen - jealousy
"... deg mlynedd, mae o fel ddoe cofiwch. Ac ar wahan i fy llais i, mi glywoch chi leisiau Huw Stephens, Beks a'r Weiran Gaws ei hun -Stephen Edwards - yn fan'na. Mae C2 wrth gwrs wedi bod yn bwysig iawn i fandiau a cherddorion Cymraeg. Ond mae'n bosib na fyddwch yn clywed cymaint o ganeuon Cymraeg ar Radio Cymru yn y dyfodol. Mae hynny gan fod rhai artistiad yn anhapus iawn efo'r breindal sy'n cael ei dalu pan fydd eu caneuon yn cael eu chwarae ar y radio. Dydy'r sefyllfa ddim yn un syml ac ar Manylu ddydd Mercher mi glywon am ochr arall i'r geiniog gan Barry 'Archie' Jones, sydd wedi cyfansoddi sawl cân boblogaidd. Anna-Marie Robinson oedd yn cyflwyno'r eitem... "
Daf a Caryl - Cân y Babis
seren fach - little star
tre'r Cofis - Caernarfon
pwyso - to weigh
dylanwad - influence
ysgwn i - tybed
Gwlad y Medra - Ynys Môn (local name for)
crud - cradle
cawr - giant
llawn o hud - full of magic
yn glud - cosy
Dw i'n amau dim fod y canwr Gai Toms wedi cael ei effeithio gan y sefyllfa anodd yna efo PRS. Ond er hynny mi roedd o'n fodlon dod i stiwdio Radio Cymru yr wythnos diwetha i recordio cân babis mis Tachwedd. Felly dyna ni wedi dechrau'r podlediad yma efo 'mam' - Môn Mam Cymru ynde, ac yn addas iawn dan ni'n gorffen efo'r babis. Cân hyfryd iawn gan Gai Toms - mwynhewch...


Mae