« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion i Ddysgwyr: 7 Rhagfyr 2012

Categorïau:

PigionPigion|13:40, Dydd Gwener, 7 Rhagfyr 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Nia - Y Ffair aeaf

y byd amaeth - the agricultural world

brat - ffedog

yn gyfrifol am - responsible for

cynnyrch - produce

gweithgareddau - activities

ansawdd - quality

awgrym neu ddau - a suggestion or two

llygad barcud (idiom) - a keen eye

yn wyneb cyfarwydd - a familiar face

dagrau - tears

"...wel lle arall ond yn Y Ffair Aeaf ynde, ar ar ôl y tywydd ofnadwy 'na gaethon ni'r wythnos diwetha. Y Ffair yma ydy un o brif ddigwyddiadau'r byd amaeth yng Nghymru. Mae'n cael ei chynnal yn yr un lle a'r Sioe Frenhinol fawr - y Royal Welsh - yn Llanelwedd ym Mhowys. Aeth Hywel Gwynfryn yno ar ran rhaglen Nia Roberts ddydd Llun ac mi gwrddodd o â Dudley, y cogydd enwog, a John Davies. Mi roedd y ddau ar eu ffordd i roi gwybod i Dorothy Williams o Lambed ei bod hi wedi ennill y wobr am stondin orau'r Ffair. Aeth Hywel efo nhw i roi syrpreis i Dorothy... "

Dei Tomos - Anti kitty ac Anti Llinos

heddychwraig - a female pacifist

yn diffael - without fail

deallus a diwylliedig - intellegent and cultured

llethr y mynydd - the mountainside

y trugareddau i gyd - all the nick-nacks

palu celwyddau - telling all kinds of lies

y llofft - ystafell wely

cymeryd ata i - took to me

cyfnod hudolus - magical period

elfen o ddyletswydd - an element of duty

"Rhag ofn i chi feddwl bod llais Nia Roberts wedi newid, Lisa Gwilym oedd yn y stiwdio yn cadw sedd Nia'n gynnes tra bod hi i ffwrdd. Yndoedd stondin Dorothy yn swnio'n dda dudwch? Taith hir o Lanelwedd i'r Felinheli rwan i gael clywed am antis, neu modrybedd, Tudur Owen a Mari Emlyn. Wel dwi'n siwr bod gynnon ni gyd hoff anti, neu fodryb yn rhywle, yndoes? Mae Gwasg Gomer wedi cyhoeddi llyfr o'r enw 'Modryb' lle mae chwech o bobl yn cofio hanesion eu hoff fodrybedd. Mi ddaeth dau o'r awduron, Tudur Owen a Mari Emlyn, i gael sgwrs efo Dei Tomos ddydd Sul, Tudur i sôn am ei Anti Kitty a Mari i siarad am ddwy chwaer ei thaid sef Anti Mary a Anti Llinos. "

Nia - Gareth Oliver

cysylltiad - contact

canlyniad - result

addo - to promise

dod o hyd i - to find

dibynnu ar - to depend upon

gwybodaeth - information

rhywun diarth (dieithr) - a stranger

poblogaidd - popular



"Mari Emlyn yn fan'na yn sôn am gadw cysylltiad efo'i hen fodryb, ac ar raglen Nia mi glywon ni Gareth Oliver o Dregarth yn trio ail-gysylltu â hen ffrind efo help Radio Cymru. Chwilio am nyrs o'r enw Wendy Williams oedd Gareth, a bron yn syth ar ôl i Nia ofyn i'r gwrandawyr am help mi roedd yna ganlyniad, neu ganlyniadau, fel y cawn ni glywed... "

Daf a Caryl - Carwyn Jones

Prif Weinidog - First Minister

ffaelu gweld - methu gweld

whare - chwarae

llanast llwyr - total devastion

llifogydd - floods

nant - brook

cymunedau - communities

rhybuddio gan amgylcheddwyr - warned by environmentalists

mor glou - mor sydyn

amddiffyn - defence

"Wel dyna be ydy byd bach ynde, ac mae'n dangos be sy'n bosib efo Radio Cymry yntydy? Unrhyw broblem, ffoniwch Nia. Neu'n well byth ffoniwch rhaglen Daf a Caryl achos mi roedd gynnon ni'r dyn i ateb eich holl broblemau chi ar ein rhaglen ni ddydd Iau. Oedd, mi roedd Prif Weinidog Cymru - Carwyn Jones ei hun - wedi galw mewn i'n gweld. Ac mi gaethon ni sgwrs efo Carwyn am bob mathau o bethau o rygbi i'r problemau fuodd yn y gogledd yn dilyn y tywydd ofnadwy gaethon ni'r wythnos diwetha. Dyma i chi flas ar y sgwrs.... "

Yn y Ryc - Dwaine Peel

pwll glo - coal mine

hunangofiant - autobiography

dyfarnwr - referee

atgofion melys - fond memories

rhegi a cherdded bant - to swear and walk away

maeddu - to beat (in a match)

anafiadau - injuries

cael coten - to be beaten heavily

uchelgais - ambition

llwyddiant - success

"Carwyn Jones yn fan'na yn sôn am sut oedd o'n delio efo problemau fel y llifogydd, a'r ddamwain ofnadwy fuodd ym mhwll glo y Gleision y llynedd. Ia, tydy hi ddim yn swydd sydd yn 'perks' i gyd. Mae yna un 'perk' arbennig mae o'n ei gael hefyd yndoes, sef mynd i'r gemau rygbi rhyngwladol. Ac mi roedd o yn y gêm ddydd Sadwrn diwetha pan gollodd Cymru yn erbyn Awstralia. Tybed fydd 'na le i'r mewnwr Dwaine Peel yn nhîm Cymru yn y dyfodol? Fo oedd yn arfer gwisgo'r crys rhif naw dros y Sgarlets a thros Gymru, ond mae o'n chwarae yn Lloegr i dîm Sale ar hyn o bryd. Buodd o'n lansio ei hunangofiant yr wythnos diwetha, ac yna i siarad efo fo am ei lyfr ac am y gêm fawr ddydd Sadwrn oedd y dyfarnwr Nigel Owens a Gareth Rhys Owen. "

Daf a Caryl - Ryland Teifi

rhagweld - cerddor

cerddor - offeryn

offeryn - poblogaidd

poblogaidd - popular

"A phwy oedd yn iawn am ganlyniad y gêm? Wel dw i'n siwr fasai neb wedi rhagweld drama'r eiliadau ola. Bechod ynde? Mae gen i gân i chi rwan i orffen y podlediad yma. Na, ddim Waltzing Matilda ydy hi, peidiwch â phoeni. Na, mae gen i rhywbeth llawer gwell - cân gan Ryland Teifi. Mae Ryland yn enwog fel actor ond mae o hefyd yn gerddor arbennig iawn ac yn medru canu sawl offeryn. Ddaeth o i gael sgwrs efo Caryl a finnau ddydd Mawrth ac mi gaethon glywed Ryland yn canu un o'i ganeuon mwya poblogaidd 'Stori Ni'. Mwynhewch y gân... "