« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion i ddysgwyr: 27 Tachwedd 2012

Categorïau:

PigionPigion|14:21, Dydd Mawrth, 27 Tachwedd 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dan yr Wyneb - John Hefin

cyfarwyddwr - director

dychymyg - imagination

dyfyniad byr - short quotation

mentro - to risk

uchelgeisiol - ambitious

byrfyfyrio - improvisation

maddeuant - forgiveness

ffydd - faith

ysbrydoli - to inspire

dramodydd - dramatist

"… a ninnau ynghanol gêmau rygbi rhyngwladol yr hydref, efo'r dyn oedd yn gyfrifol am y ffilm rygbi Gymreig mwya enwog. Sôn ydw i am y cyfarwyddwr John Hefin a fu farw yr wythnos diwetha. Ar wahân i'r ffilm honno, Grand Slam, fo hefyd oedd yn gyfrifol am rai o'r rhaglenni gorau gaeth eu gwneud yng Nghymru, gan gynnwys Pobol y Cwm yn Gymraeg a 'The life and Times of David Lloyd George' yn Saesneg. Mi fuodd Dylan Iorwerth yn siarad am John Hefin efo dau oedd yn ei nabod yn dda iawn, ei ffrind David Meredith a'r actores Sharon Morgan. "

Cofio Gary - Gary Speed

hel atgofion - to reminisce

cyflwynydd - presenter

yn ddiweddarach - later

arwyr - heroes

carfan - squad

dylanwad a chyfraniad - influence and contribution

rhwyd - net

heb ei ail - peerless

dim gronyn - not a shred

atgoffa - to remind

"…John Hefin colled fawr i Gymru, ac wrth gwrs i'w deulu a'i ffrindiau. Flwyddyn yn ôl bu farw un arall o enwogion Cymru, Gary Speed, oedd ar y pryd yn reolwr ar dîm pêldroed Cymru. Roedd ei farwolath yn ddipyn o sioc i ddilynwyr y gêm yng Nghymru a thu hwnt, ac roedd hi'n sioc enfawr i'r rhai oedd yn ei nabod yn dda. Ar raglen arbennig i gofio am Gary Speed ddydd Iau diwetha clywon ni nifer o'u ffrindiau yn hel atgofion amdano. Dyma'r cyflwynydd Iwan Roberts ac wedyn John Hardy, John Hartson, Malcolm Allen, Osian Roberts, Bryn Law ac Ian Gwyn Hughes yn Cofio Gary... "

Nia Roberts - Trydar

trydar - twitter/to tweet

darganfod y llwyfan - to find the platform

cyfyngiadau - limitations

her ychwanegol - additional challenge

ymennydd - brain

mwya cofiadwy - most memorable

arbrofi - to experiment

taflu goleuni - to throw a light

gweinidog - minister

melltith - a curse

"Gary Speed oedd y gorau, sbo. Roedd honna'n gynghanedd, o fath! Glywoch chi'r g r s b yn cael eu hail-adrodd? Iawn, doedd hi ddim yn gynhanedd da iawn, ond wedyn tydw i ddim yn fardd fel Llion Jones, nagdw? Mae Llion yn trydar mewn cynghanedd ers tair blynedd rwan ac mae o wedi ysgrifennu llyfr yn cynnwys rhai o'i linellau gorau. Ddydd llun diwetha mi gaeth o sgwrs efo Nia Roberts ac mi glywon ni pam y dechreuodd o drydar yn y lle cynta. "

Huw Stephens - Meic Haines

diwylliant - culture

llenyddiaeth - literature

sefyllfa wleidyddol - political situation

gaeth ei ddymchwel - who was overthrown

ffoaduriaid - refugees

ymgyrchoedd - campaigns

gormes - oppresion

y bobl frodorol - the indiginous people

torcalonnus - heartbreaking

dagrau - tears

"...a rwan Meic ar y meic - na dw i ddim yn trio cynganeddu eto - ond Meic Haines oedd yn slot 'Ar y meic' yn rhaglen Huw Stephens ddydd Llun. Buodd Meic yn byw yng Nghiwba am chwe blynedd. Aeth o yno i weithio a mynd a'i deulu bach efo fo. Erbyn hyn mae Meic yn ôl yng Nghymru ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg. Ond pam wnaeth o benderfynu mynd i Giwba yn y lle cynta? "