« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion i Ddysgwyr: 20 Rhagfyr 2012

PigionPigion|16:11, Dydd Iau, 20 Rhagfyr 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Nia - Ffrindiau

cerddoriaeth - music

beirniaid - adjudicators

yn gweddu i'w gilydd - suiting each other

asio - to blend

gwobrau lu - prizes galore

yr orchwyl - the task

sgrechfeydd - screams

gwendidau - weaknesses

deuawdau - duets

gosod - to set

… efo ffrindiau, sef thema rhaglen Nia ddydd Mercher. Mi gafodd Nia sgwrs efo dau ffrind agos iawn Elfed Morgan Morris a Catrin Roberts. Mae'r ddau wedi bod yn canu efo'i gilydd ers blynyddoedd ac wedi cystadadlu mewn sawl eisteddfod. Er eu bod nhw'n ffrindiau da, doedd pethau ddim wastad yn mynd yn iawn pan oedden nhw gyda'i gilydd, fel gawn ni glywed...

Ifan Evans - Jade Jones

beirniaid - judges

llongyfarchiadau - congratulations

ar fy mhwys i - by my side

pa mor falch? - how pleased?

twlu - taflu / to throw

y fenyw ola - the last woman

yn syth bin - stright away

dadl - debate

Y Gamp Lawn - The Grand Slam

haeddianol - deserving

"Dyna be ydy ffrind da ynde - rhywun sy'n fodlon prynu pyjamas i chi. Roedd yna berfformwyr gwahanol iawn wedi dod at ei gilydd yng Nghaerdydd yr wythnos diwetha. Roedd hi'n noson Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, ac eleni roedd yna ddipyn o ddewis gan fod cymaint o Gymry wedi ennill medalau yn y gemau Olympaidd. Jade Jones o'r Fflint enillodd y wobr ac mi gaeth Ifan Evans dipyn o sgŵp ar ei raglen nos Lun wrth i Bethan Clement gael sgwrs fach efo Jade yn syth ar ôl y seremoni. Gaeth hi air hefyd gyda Non Evans, un o'r beirniaid... beirniaid"

Straeon Bob Lliw - Mali

cuddio - to hide

coron - crown

penderfynnu - to decide

gwallt golau - fair hair

deuthai - dwed wrtha i

am wn i - I suppose

yn gwta - short

...a llongyfarchiadau mawr i Jade Jones ynde? Dan ni rwan yn mynd i glywed gan bersonoliaeth arall - Mali, sy'n wyth oed ac sy'n dioddef o Alopecia. Erbyn iddi fod yn chwech oed roedd Mali wedi colli ei gwallt i gyd. Aeth Sian Parri Huws i gael sgwrs efo hi a'i mam ar gyfer Straeon Bob Lliw ddydd Llun diwetha. Yn y clip cawn glywed Mali a'i mam yn sôn am y tro cyntaf cafodd hi wig.

Sgersli Bilif - Billy the Seal

rhwydi - nets

caniatâd - permission

dianc - to escape

llifogydd - floods

Rhyfed Byd Cyntaf - First World war

caledi - hardship

tocio ar - to ration

Amguedda Genedlaethol - National Museum

sgerbwd - skeleton

cynnal yr atgof - to keep the memory alive

"… a dyna chi wedi dysgu rhywbeth am Jessie J yn ogystal a chael clywed Mali'n siarad yn frwd iawn am ei steil gwallt! Dw i'n siwr basai Mali wedi bod wrth ei bodd efo'r eitem nesa 'ma. Hanes morlo o'r enw 'Billy the Seal' sy yma. Falle eich bod chi wedi clywed chydig o'r hanes yng nghân yr Hennessys i'r morlo enwog. Daw'r clip o gyfres newydd o'r enw Sgersli Bilif lle bydd Aled Sam yn cyflwyno straeon diddorol a doniol o ardaloedd gwahanol ar draws Cymru. Dyma Aled yn siarad am Billy efo Magi Roberts... "

Daf a Caryl - Alex Vlahos

chwedl - myth

arwr - hero

bodoli - to exist

y cant - per cent

gelyn - enemy

yn gyfrifol am farwolaeth - responsible for the death

cyfres - series

pennod - episode

anferthol - huge

"Mae'n anodd gwybod faint o hanes Billy sy'n wir a faint ohono sy'n chwedl. Dw i ddim yn siwr am y rhan honno o gân yr Hennessys sy'n sôn am Billy'n yfed peint o 'dark' chwaith! Mi wnaethon ni sôn dipyn am chwedlau ar raglen Daf a Caryl ddydd Llun. Roedd yr actor Alex Vlahos wedi dod at y ddau ohonon ni fore Llun. Mae o'n dod o Lantrisant yn wreiddiol, ond mae'n enwog am actio yn Casualty, The Indian doctor, Pen Talar a Phobol y Cwm! Yn ddiweddar fodd bynnag ei ran yn y gyfres Merlin sydd wedi dod a llawer o sylw iddo fo. Ydy ei gymeriad yn y gyfres yn ddyn da ta'n ddyn drwg? Dyna lle ddechreuodd y sgwrs... "

Iola Wyn - mins peis

rysáit - recipe

llaeth - llefrith

trwch - thickness

dwfn - deep

llenwad - filling

cymysgiad - mixture

aeddfedu - to ripen/mature

rhwyg - tear

tymheredd - temperature

Mae mins peis Wini James yn chwedlonol hefyd, a dyma hi'n rhannu ei rysáit efo Iola Wyn. Ewch i nôl rhywbeth i sgwennu efo rwan os dach chi eisiau i bawb ganmol eich mins peis y Dolig ma....