Archifau Hydref 2012

Rhaglen Geraint Lloyd - heno am ddeg....

Categorïau:

Criw Geraint LloydCriw Geraint Lloyd|18:17, Dydd Mercher, 31 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Heno am ddeg fe fydd Geraint yn cael sgwrs hefo Aled Rees - un o feirniaid Fferm Ffactor ar S4C, ac yn trafod ysbrydion hefo Elaine Rowlands, ac fe fydd Gareth Ffowc Roberts nôl yn y stiwdio hefo pôs mathemategol.

Rhaglen Geraint Lloyd - heno am ddeg .......

Categorïau:

Criw Geraint LloydCriw Geraint Lloyd|15:22, Dydd Mawrth, 30 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Rhaglen Geraint Lloyd - heno am ddeg - sgwrs hefo Carol Gerecke - un o ffrindiau'r rhaglen, a sgwrs hefo Fflur Rowlands - aelod o Cywair - i weld pa mor dda mae hi'n adnabod y côr!

Rhaglen Geraint Lloyd - heno am ddeg.....

Categorïau:

Criw Geraint LloydCriw Geraint Lloyd|10:53, Dydd Llun, 29 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Ar y rhaglen heno gawn ni weld be ydy hanes yr het! Mae'n debyg ei bod wedi cyrraedd Mynydd Cerrig erbyn hyn. Fe fydd Geraint yn sgwrsio hefyd hefo Aled Eynon - oedd yn rhedeg Marathon Eryri dros y penwythnos.

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 25 Hydref 2012

Categorïau:

PigionPigion|09:46, Dydd Iau, 25 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Darllen gweddill y cofnod

Rhaglen Geraint Lloyd - heno am ddeg....

Categorïau:

Criw Geraint LloydCriw Geraint Lloyd|11:49, Dydd Mercher, 24 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Heno am ddeg fe fydd Geraint Lloyd yn cael cwmni Gareth Ffowc Roberts - fydd yn gosod pôs mathemategol i ni, a gawn ni weld pwy ydy'r diweddaraf i adael y gyfres Fferm Ffactor ar S4C. A tybed sut aeth pethau yn noson Llofrudd Llantrisant?

Rhaglen Geraint Lloyd - heno am ddeg......

Categorïau:

Criw Geraint LloydCriw Geraint Lloyd|12:08, Dydd Mawrth, 23 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Ar y rhaglen - heno am ddeg - fe fydd Geraint Lloyd yn sgwrsio heo un o ffrindiau'r rhaglen - sef Dilwyn Morgan, ac fe fydd ganddo bôs arall hefyd .... un symlach na neithiwr gobeithio!

Hanes yr het heno...!

Categorïau:

Criw Geraint LloydCriw Geraint Lloyd|10:40, Dydd Llun, 22 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Heno am ddeg - ar Raglen Geraint Lloyd - fe fydd Geraint yn sgwrsio hefo perchennog diweddaraf yr het - sef Rhian Bevan Jones o Betws, ger Rhydaman, ac fe fydd Kevin Davies yn son am ddigwyddiad arbennig nos Fercher yma - Llofrudd Llantrisant.

Daf a Caryl Yn Dringo Pum Copa Cymru i Blant Mewn Angen Y BBC

Categorïau:

NewyddionNewyddion|13:51, Dydd Gwener, 19 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Bydd cyflwynwyr rhaglen foreol BBC Radio Cymru, Dafydd Du a Caryl Parry Jones, yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod o ddydd Llun, Hydref 29 - ddydd Gwener, Tachwedd 2 gan godi arian i Plant Mewn Angen yr un pryd.

Dafydd a Caryl

Caffi Theatr Brycheiniog, Tipple and Tiffin fydd y lleoliad cyntaf, cyn cychwyn dringo copa uchaf de Cymru, Pen y fan ar brynhawn ddydd Llun, Hydref 29. Ar brynhawn ddydd Mawrth, Hydref 30, yr ail fynydd i’w goncro fydd mynydd Carningli yn Sir Benfro. Bydd Daf a Caryl yn darlledu’n fyw o gaffi Beca, Efailwen y bore hwnnw.

Hoe i’r traed mewn bws mini i’r criw wedyn wrth iddyn nhw deithio i’r gogledd ar gyfer darlledu o gaffi TH Roberts, Dolgellau fore Mercher, Tachwedd 1. Yn y prynhawn, Cadair Idris uwch y dre fydd yr her nesaf, sy’n 893 metr.

Copa mynydd Moel Famau yng nghyffiniau Sir Ddinbych a Sir y Fflint fydd cyrchfan dydd Iau, Tachwedd 2 a’r her galetaf fydd ola’, wrth iddyn nhw ddarlledu o Y Pantri, Llanberis cyn dringo i fynydd uchaf Cymru, Yr Wyddfa.

Mae Daf yn hen law ar ddringo mynyddoedd Cymru, ond gyda chymaint o gerdded mewn cyn lleied o amser, mae gan y tîm her fawr o’u blaenau.

“Gofynnodd Daf be nawn ni fel her a chyniges i neud rhywbeth ‘dan ni ddim yn ei wneud fel arfer ar y rhaglen hon....symud! A symud rydan ni am ei wneud - symud llawer mwy nag arfer,” meddai Caryl.

“Mae’r tîm i gyd - Daf, finne, Derfel a Sian (Miss Cynhyrchydd) - yn edrych mlaen yn ofnadwy at y dringo, y chwysu, y chwerthin, y crio, y plastars a’r bath poeth ar ddiwedd pob dydd. Ac wrth gwrs, casglu cymaint o bres ag sy’n bosibl ar gyfer Plant Mewn Angen.”

Bydd gwesteion boreol adnabyddus yn y caffi ar bob rhaglen - ac efallai y gwelwn ni ambell un ohonyn nhw yn gwirfoddoli i ymuno yn her y diwrnod. Bydd y dringwyr dewr yn ymuno â rhaglen Nia o 2.30pm bob prynhawn i adrodd ar y diweddaraf o’r llethrau a’r bwriad yw gofyn i wrandawyr adre’ gefogi ymgyrch Plant Mewn Angen eleni drwy decstio ar y diwrnod i noddi’r dringwyr.

Bydd yr arian a godir ar gyfer Plant Mewn Angen y BBC yn mynd i gefnogi rhai o blant a phobl ifanc mwyaf anghenus y DU.

Tudalen Noddi Dafydd a Caryl

Rhaglen Geraint Lloyd - heno am ddeg .....

Categorïau:

Criw Geraint LloydCriw Geraint Lloyd|18:30, Dydd Mercher, 17 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Fe fydd Gareth Ffowc Roberts yn gosod pôs mathemategol, a gawn ni sgwrs hefo'r person nesaf i adael y gyfres Fferm Ffactor ar S4C. 

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 17 Hydref 2012

Categorïau:

PigionPigion|08:53, Dydd Mercher, 17 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Darllen gweddill y cofnod

Podlediadau BBC Radio Cymru

Categorïau:

NewyddionNewyddion|14:15, Dydd Mawrth, 16 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Mae Radio Cymru nawr yn cynnig dewis ehangach o bodlediadau - sef ffordd o danysgrifio i raglenni arbennig ar y we.

Yn ychwanegol at bodlediadau Ar y Marc, O'r Bae, Uchafbwyntiau Wythnos C2 a Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr, mae Beti a'i Phobol, Bwrw Golwg, Dewi Llwyd ar Fore Sul ac Uchafbwyntiau Rhaglen Nia Roberts nawr yn cael eu cynnig fel rhan o’r arlwy i’w lawrlwytho gan BBC Radio Cymru.

Podlediadau Radio Cymru

Gallwch eu lawr lwytho i'ch cyfrifiadur neu chwaraeydd MP3 am ddim o wefan podlediadau y BBC a siopau megis iTunes, a gwrando arnyn nhw bryd bynnag sy'n gyfleus.

Podlediad Beti a'i Phobol: Beti George sydd yn holi rhai o bobl fwyaf diddorol Cymru.

Bwrw Golwg: John Roberts sydd yn trin a thrafod materion crefyddol yr wythnos.

Uchafbwyntiau rhaglen Dewi Llwyd bob bore Sul, yn mynd drwy'r papurau, yn sgwrsio gyda'i westeion arbennig ac yn chwarae amrywiaeth o gerddoriaeth.

Uchafbwyntiau rhaglen Nia Roberts gyda straeon hwn a'r llall a rhoi'r byd yn ei le.

Ar y Marc sydd yn trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw Ar y Marc.

Uchafbwyntiau Wythnos Criw C2 gyda chaneuon o sesiynau newydd, newyddion cerddorol, adolygiadau a mwy!

Podlediad Gwleidyddiaeth O'r Bae. Arweiniad hanfodol i'r wythnos wleidyddol sydd i ddod, gyda Vaughan Roderick.

Pigion: Highlights for Welsh Learners. Podlediad ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr uwch.

Ewch i wefan Podlediadau BBC Radio Cymru

Rhaglen Geraint Lloyd - heno am NAW!

Categorïau:

Criw Geraint LloydCriw Geraint Lloyd|11:44, Dydd Mawrth, 16 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Mae rhaglen heno yn dechrau am naw o'r gloch! Fe fydd Glesni Haf - y milfeddyg yn mynd i'r stiwdio am sgwrs hefo Geraint, ac fe gaiff o sgwrs hefyd hefo Arwel Lloyd o Gôr Meibion Trelawnyd ar ol ymarfer y côr, ac Andrew Rowlands o Gaerdydd - sydd yn gweithio'n hwyr heno.

Criw Geraint LloydCriw Geraint Lloyd|10:40, Dydd Llun, 15 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Ar y rhaglen - heno am ddeg, fe fydd Geraint Lloyd yn cael sgwrs hefo perchennog diweddaraf yr het - sef Brendan Griffiths o Langyndeyrn. Mi gawn ni wybod sut hwyl gafodd Sioned Terry wrth iddi redeg hanner marathon Caerdydd ddoe, ac mi gawn ni glywed ambell i eitem o'r Eisteddfod Ddwl yn Felinfach nos Wener diwethaf.

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 10 Hydref 2012

Categorïau:

PigionPigion|13:49, Dydd Mercher, 10 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Darllen gweddill y cofnod

Rhaglen Geraint Lloyd heno....

Categorïau:

Criw Geraint LloydCriw Geraint Lloyd|10:10, Dydd Mercher, 10 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Heno am ddeg - fe fydd Gareth Ffowc Roberts yn dod i'r stiwdio i osod pôs mathemategol, ac fe gawn ni'r diweddaraf o'r gyfres Fferm Ffactor. Ac ar ol unarddeg fe fydd Geraint yn sgwrsio hefo'r gyrrwr rali Elfyn Evans - ar ol iddo ennill yr WRC Academy yn Ffrainc nos Sadwrn.

Rhaglen Geraint Lloyd heno....

Categorïau:

Criw Geraint LloydCriw Geraint Lloyd|14:53, Dydd Mawrth, 9 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Ar y rhaglen heno am ddeg - fe fydd Geraint yn cael sgwrs hefo Beryl Vaughan, ac yn trafod yr Eisteddfod Ddwl yn Felinfach nos Wener yma hefo Dylan Lewis. A diolch i John Jones am awgrymu pôs i Geraint - ar gyfer rhaglen heno.

Noson yr het heno, ac ychydig o 'boxercise'!

Categorïau:

Criw Geraint LloydCriw Geraint Lloyd|10:33, Dydd Llun, 8 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Heno ar raglen Geraint Lloyd - gawn ni wybod pwy ydy perchennog newydd yr het, a Trygar Davies fydd yn sgwrsio hefo Geraint ar ol bod mewn dosbarth 'boxercise' yn Llangernyw.

Dewi Llwyd yn holi Guto Bebb

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|18:11, Dydd Sul, 7 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Cyn dathlu ei benblwydd yr wythnos hon Aelod Seneddol Aberconwy Guto Bebb oedd gwestai arbennig Dewi heddiw. Yn ogystal â thrafod gwleidyddiaeth cawn glywed am ei hoffter o gerddoriaeth a pheldroed!

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Gareth Glyn yn rhoi'r gorau i'r Post Prynhawn wedi 34 o flynyddoedd

Categorïau:

NewyddionNewyddion|17:13, Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Mae llais cyfarwydd newyddion prynhawn BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i gyflwyno’r rhaglen. Ac yntau wedi bod yn cyflwyno’r Post Prynhawn ers 34 o flynyddoedd bydd Gareth Glyn yn gadael ym mis Ionawr.

Gareth Glyn

Gareth Glyn

Yn ogystal â bod yn adnabyddus fel cyflwynydd y Post Prynhawn, gyda’i gyflwyno chwim a’i gwestiynu clir, mae hefyd wrth gwrs yn un o gyfansoddwyr mwya’ blaenllaw’r wlad. Bydd nawr yn canolbwyntio ar ei waith fel cyfansoddwr ac i osod cerddoriaeth.

“Fy ngobaith i yn y blynyddoedd nesa’ ydi cyfansoddi opera Gymraeg,” meddai Gareth Glyn, oedd yn gyfrifol am drefnu’r darn Nimrod gan Elgar a berfformiwyd yn seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yn Llundain yn gynharach yn y flwyddyn. Ond bydd cyfle i’w glywed eto ar donfeddi’r orsaf.

“Mi fydda i yn cyflwyno rhaglen tra-gwahanol i’r Post Prynhawn ar Radio Cymru rhwng Ebrill a Mehefin, sef rhaglen fore Sul ar gerddoriaeth glasurol – fy newis fy hun o gerddoriaeth. Mae Post Prynhawn ei hun wedi newid ers i mi ddechrau yn 1978 – yr adeg honno teipiaduron oedd yn y swyddfa, a nid rhai trydan chwaith. Erbyn hyn mae popeth yn llythrennol ar flaenau’ch bysedd.

“Rydw i wedi gweithio hefo pobol dda dros y blynyddoedd, ac mae yna lawer o bobol wedi mynd a dod yn rhan o’r tîm. Mae wedi bod yn gyfnod hapus iawn yn fy ngyrfa.”

Meddai Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg:

‘Mae cyfraniad Gareth Glyn yn un aruthrol a phwysig i ddarlledu a newyddiaduraeth Gymraeg – mae cyflwyno rhaglen ddyddiol fel Post Prynhawn yn heriol a llwyddodd i wneud hynny gyda phroffesiynoldeb llwyr am gynifer o flynyddoedd. Mae Gareth wedi bod yn rhan annatod o fywydau gwrandawyr Radio Cymru ers i’r orsaf ddechrau ac rydym yn diolch iddo am ei ymroddiad i’r rhaglen ac i’r orsaf ac yn dymuno’n dda iddo yn y dyfodol. Rydw i hefyd yn falch iawn y byddwn yn dal i glywed llais Gareth Glyn ar yr orsaf yn y dyfodol.”

Bydd cyhoeddiad am gyflwynydd newydd y rhaglen yn cael ei wneud yn fuan.

Rhaglen Geraint Lloyd heno...

Categorïau:

Criw Geraint LloydCriw Geraint Lloyd|11:45, Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Heno mi fyddwn ni yn trafod 'Fferm Ffactor', ac yn cael sgwrs hefo un o ffrindiau'r rhaglen - Joy Cornock. Fe fydd Meirion James yn son am benwythnos canu gwlad yn Llanrhystud, ac fe fydd gan Geraint bôs neu gwestiwn i chi!

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 02 Hydref 2012

Categorïau:

PigionPigion|12:09, Dydd Mawrth, 2 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Darllen gweddill y cofnod

Rhaglen newydd Geraint Lloyd - heno am 10

Categorïau:

Criw Geraint LloydCriw Geraint Lloyd|11:56, Dydd Llun, 1 Hydref 2012

Sylwadau (0)

Rhaglen Geraint Lloyd heno am 10 - dwy awr o gerddoriaeth a Geraint yn gosod yr het gowboi ar ben rhywun yn rhywle, ac mi fydd ganddo bôs hefyd!

Ac mae 'na groeso i chi gysylltu hefo Geraint a'r criw rhwng deg a hanner nos.