« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 25 Hydref 2012

Categorïau:

PigionPigion|09:46, Dydd Iau, 25 Hydref 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Nia Roberts - Huw Ynyr Evans

ysgoloriaeth - scholarship

unawd - solo

gwenu - smiling

gair o gyngor - a word of advice

anhygoel - incredible

braint - a privilege

cefndir - backgrund

ers yn ddim o beth - since I was little

dylanwadau pennaf - main influences

cerdd dant - traditional form of singing

"...gyda Nia Roberts yn siarad efo bachgen ifanc oedd newydd ennill pedair mil o bunnau. Na, nid ennill y loteri wnaeth Huw Ynyr Evans, ond ennill ysgoloriaeth Bryn Terfel. Fo gafodd ei ddewis ar ôl cymryd rhan mewn cyngerdd arbennig efo enillwyr eraill cystadlaethau unawd Eisteddfod yr Urdd Eryri. Mi roedd Mr Terfel ei hun yno i'w weld ac i roi ychydig o 'dips' iddo fo. Sut deimlad ydy bod yn enwog tybed? Dyna lle dechreuodd ei sgwrs efo Nia.. "

Dyddiadurion - arddangosfa

arddangosfa - exhibition

dyddiaduron - diaries

cofnodi - to record

gwirfoddoli - to volunteer

perthnasol - relevant

sbio - edrych

trefniadau priodas - wedding arrangements

gwahoddiadau - invitations

llawysgrifen - handwriting

ymwybodol - aware

"Llongyfarchiadau mawr i Huw Ynyr Evans ynde? Rwan ta, dach chi'n cadw dydddiadur? Sut 'sach chi'n teimlo tasai pawb yn cael ei weld o? Neu falle mai'r cwestiwn diddorol ydy, pa mor onest fasech chi mewn sefyllfa o'r fath? Mi gafodd Rachel Garsaid sgwrs ddydd Sul efo nifer o bobl sydd yn cadw dyddiaduron am flwyddyn ac wedyn yn eu dangos nhw mewn arddangosfa gyhoeddus. Dyma hi'n siarad efo Nia, Mari a Fflur.... "

Dei Tomos - Senghenydd

trychineb pwll glo - coal mine tragedy

bywydau - lives

tîm achub - rescue team

stori genedlaethol - national story

crafu ar y wyneb - scratch the surface

mam-gu - nain

tywys - to guide

y taniad - the explosion

ôl-nodyn - post-script

llinellau moel (idiom) - stark lines

"…llawysgrifen fasai'r broblem leia i lawer o bobl tasai eu dyddiaduron nhw'n cael eu gweld gan bawb, dw i'n siwr! Mae dyddiaduron yn medru bod yn gofnod da o hanes - cyfle i roi darlun personol am ryw ddigwyddiad neu'i gilydd. Mae Myrddin ap Dafydd wedi ysgrifennu llyfr i gofio am y ddamwain ofnadwy ddigwyddodd yn Senghenydd naw deg naw o flynyddoedd yn ôl. Bu farw pedwar cant pedwar deg o bobl yn y ddamwain. Ond doedd gan Myrddin ddim dyddiadur i roi darlun personol o'r drychineb - dim ond cerdyn post... "

Fflamau - Drama newydd

lladd - to kill

yn gorff - corpse

cadair olwyn - wheel chair

atgoffa - to remind

achosi trafferth - to cause problems

mor falch - so glad chithau - you also casau - to hate gwallgo - insane diniwed - innocent

Trychineb bersonol oedd testun drama newydd glywyd ar Radio Cymru ddydd Sul. 'Fflamau' oedd enw'r ddrama dditectif gafodd ei hysgrifennu gan John Ogwen. Y plot ydy bod Gwenno wedi marw, a dyw ei phartner hi, Tom, ddim yn deallt pam na sut. Dyma i chi flas o'r ddrama gyda Tom, sy'n cael ei chwarae gan Emlyn Gomer, yn siarad efo Meri, mam Gwenno, sy'n cael ei chwarae gan Betsan Llwyd.

Sesiwn Fach - Burum

alawon gwerin - folk tunes bodoli - to exist gwledd o gerddoriaeth - a feast of music perthnasol - relevant emynydd - hymnist anogaeth - encouragement darlithydd - lecturer cyfuniad unigryw - an unique combination tanddaearol - underground y byrfyfyrio - the improvisation

"Roedd ail ran y ddrama'n cael ei darlledu nos Sul a nos Fawrth diwetha. Os oeddech chi'n licio'r blas bach yna, pam na wnewch chi wrando eto ar y ddrama drwy fynd i wefan Radio Cymru ar https://www.bbc.co.uk/radiocymru/ Dau frawd oedd yn cadw cwmni i Idris Morris Jones ar Sesiwn Fach ddydd Sul diwetha. Mae Tomos Williams a’i frawd mawr Daniel yn rhan o fand gwerin a jazz o'r enw Burum. Pam canu gwerin a jazz efo'i gilydd? Dyna un o'r cwestiynau ofynnodd Idris i'r brodyr. "

Iola Wyn - Mari Gwilym

silff ben tân - mantlepiece

draenog - hedgehog

addurn - ornament

cynhenid - indiginous

hy(f) - bold

dadl - argument

cerflun pren - wooden statue prin dach chi'n gweld… - rarely do you see… cannwyll - candle crochenwaith Cymreig - Welsh pottery

"Idris Morris Jones yn holi dau frawd yn fan'na a chwarae teg iddo fo, doedd o ddim yn rhy fusneslyd nagoedd? Ddim fel Iola Wyn, sydd wrth ei bodd yn amlwg yn gofyn i bobl be sy ganddyn nhw ar eu silff ben tân. Dydd Iau diwetha tro Mari Gwilym oedd hi i gael ei holi. Cwestiwn cynta Iola iddi hi oedd ‘Oes gyda chi rhyw anifeiliaid ar y silff ben tan?’ Ddim rhai byw gobeithio... "