« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr: 17 Hydref 2012

Categorïau:

PigionPigion|08:53, Dydd Mercher, 17 Hydref 2012

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Daf a Caryl - Ellis James

pluo iâr - to pluck a hen

y gyfres gyfredol - the current series

yn rhwyddach - haws

allweddi - keys

yn fyw ar y llwyfan - live on the stage

cystadleuwyr - competitors

ias i lawr y cefn - a shiver down the spine

pawb at y peth y bo - each to his own

yn hytrach na - rather than

newyddiaduriaeth - journalism

"...efo 'chydig o chwerthin. Y comedïwr Ellis James oedd un o'n gwestai ni ar raglen Daf a Caryl fore Mawrth. Mae gan Ellis raglen newydd ar BBC1 nos Fercher sef ‘The Talented Ellis James’. Ein cwestiwn ni iddo oedd ' Ydy sgwennu comedi yn andros o straen?' Mi aeth ei ateb â ni i Brighton ac i Orllewin Cymru, a rhywsut mi ddechreuon ni sgwrsio am bluo ieir ... "

Iola Wyn - Siocled

tyst(iolaeth) - evidence

pwysau gwaed - blood pressure

hwb - boost

cynnwys cnewyllyn - containing a basis

maeth - nutrients

toddi - to melt

llyfn - smooth

hynod gymleth - quite complicated

uwchben - above

achub - to rescue

"Ellis yn fan'na yn dwued ei fod o'n colli gorlllewin Cymru - felly mae'r clip nesa 'ma yn arbennig iddo fo. Dan ni am gael trip bach i Landeilo ac i siop siocled o bob man. Ar raglen Iola Wyn rwythnos diwetha mi aeth Terwyn Davies i'r siop i gael sgwrs am siocled efo Hazel Thomas sy'n arbenigo ar fwyd. Rwan ta dan ni'n clywed rhywbeth gwahanol am siocled bob wythnos bron, rhai yn dweud ei fod o'n dda i ni ac eraill yn dweud ei fod o'n ddrwg. Be ydy'r gwir Hazel? "

Nia Roberts - chwerthin

dagrau'n llifo - tears flowing

tristwch a llawenydd - sadness and happiness

dyfrio - watering

hewl (heol) - ffordd

amgylchiadau - circumstances

diogel - safe

ymchwil - research

cael eu cosi - being tickled

diwylliannau - cultures

"Wel dan ni cael digon o chwerthin ar y podlediad hyd yn hyn yndo? Dach chi wedi chwerthin nes eich bod chi'n crio erioed? Peth rhyfedd ydy hynny ynde? Ond mi glywon ni betha mwy rhyfedd fyth ar raglen Nia yr wythnos diwetha. Mi roedd hi'n cael sgwrs efo Dr Mair a Sioned Wiliam am chwerthin, ac am be sy’n (gw)neud i ni chwerthin. Mwya sydyn mi ddaeth chimpanzees a llygod mawr mewn i'r sgwrs... "

Dan yr wyneb - Cynan

arwisgiad - investiture

eilun - idol

tryloyw - transparent

argyhoeddiad - conviction

y frenhiniaeth - the monarchy

cenhedlaeth - generation

dylanwad - influence

cofiadur - recorder

gwrthwynebu - to oppose

dwyn anfri - to bring shame upon

"Felly dyna chi - tasai chi'n ffeindio llygoden fawr yn y ty - yn hytrach na ffonio'r Cyngor, triwch ddweud jôc wrthi, neu'n well byth ei chosi! Mae na rai pobol yn gweld Gorseddyr Eisteddfod Genedlaethol yn rhywbeth doniol yndoes? Wedi'r cwbl pa reswm sy na mewn dynion a merched call yn cerdded ar hyd faes yr Eisteddfod trwy fwd a glaw mewn gwisoedd sydd, wel yn od iawn a dweud y lleia. Pwy gaeth y synaid am y gwisgoedd ma sgwn i, a'r holl seremoniau yn y Steddfod fel dawns y flodau. Wel Albert Evans ydy enw'r gwr - neu Cynan i ddefnyddio ei enw barddol o. Fo oedd bos yr Orsedd am gyfnod yn y pumdegau a'r chwedegau, ac fel y clywon ni ar Dan y Wyneb doedd o ddim yn ffigwr poblogaidd efo pawb. "

Jonathon - Her yr Hanner Cant - Jonathon Davies

tîm ieuenctid - youth team

yn dost - yn sâl

hala amser - to spend time

llwyddiannus - successful

cymorth - help

"Dylan Iorwerth yn fan'na yn siarad efo Gerwyn Williams sydd yn bennaeth ar Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor - ac mae'r ddau ohonyn nhw yn aelodau o'r Orsedd fel mae'n digwydd. Sôn yn fan'na o hoffter Cynan o'r teulu brenhinol, ac maen na rai yng Nghymru sy'n sôn am chwaraewyr rygbi yn nhermau brenhinol yn does? Barry John y brenin, Gareth Edwards- tywysog Cymru ac yn y blaen. Pa deitl fasen ni'n ei roi i Jonathan Davies tybed? Mae Jonathan yn dathlu ei benblwydd yn hanner cant eleni, ac wrth gwrs mae o wedi ymddeol o'r gêm ers blynyddoedd. Mi glywon ni Jonathon ar y rhaglen 'Her yr Hanner Cant' am sut a lle dechreuodd popeth iddo fo - sef clwb rygbi Trimsaran... "

Sesiwn fach - Siân ac Angharad

gosod - to set

am gyfnod - for a period

nosweithiau - evenings

nefoedd ar y ddaear - heaven on earth

brwyn - reeds

cyfrin - secret

cerdd - poem

"...Os oeddech chi'n meddwl eich bod chi'n clywed Jonathon yn colli ei wynt yn fan'na, ddim ar Radio Cymru oedd y bai - mi roedd o'n seiclo yng Nghalifornia i godi arian i elusen ganser. Roedd o'n amlwg dan deimlad yn cofio am ei dad, yndoedd. Ar Sesiwn fach ddydd Sul mi glywon ni Sian James yn rhannu rhai o'i hatgofion melys hi am ffrind yr oedd hithau wedi ei cholli. Roedd Angharad Jones nid yn unig yn ffrind iddi hi ond yn sgwennu geiriau iddi hi eu gosod ar gân. Dyma Siân yn son am rai o'r adegau hapus gaeth hi efo Angharad... "