Archifau Mehefin 2011

Gwyl Taro'r Doc

Lisa GwilymLisa Gwilym|15:38, Dydd Iau, 30 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Heno ar y rhaglen, mi fydda' ni'n cael hanes Gwyl Taro'r Doc gan Gruff Jones. Yn ogystal a chreu cerddoriaeth dan yr enw Crash.Disco! mae Gruff yn ddrymwir o fri (wedi pasio gradd 8!!!!) felly fe ddylai hynny fod yn hynod ddifyr. Mae Gruff hefyd am ddod a remix Crash.Disco! o Y Gwir gan Kronwall hefo fo i'w chwara'.

Mi fydd 'na fwy o ganeuon newydd gan Sibrydion a Huw Haul hefyd, felly welai chi am 8pm

Lis a'r criw

x

ON mi 'dwi hefyd yn gofyn i chi ddisgrifio eich wythnos mewn dim mwy na 3 gair!! Gyrrwch neges!

Lisa heno - 29/07

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|17:05, Dydd Mercher, 29 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Gobeithio fod pawb yn mwynhau'r haul!

Ma' 'na lot o gerddoriaeth hafaidd ar y rhaglen heno, gan gynnwys can newydd sbon gan Wibidi - band newydd Cian, Daf Ieuan a Guto o'r Super Furries. Hefyd, mi fydd yna ddwy gan arall newydd sbon gan y Sibrydion.

Mi fydd Rhydian o'r Creision Hud yma am 8pm yn dewis Caneuon I... ac ar ol 9pm, Iwan Standley fydd yn dod a newyddion y sin.

Welai chi am 8pm gobeithio

Lis a'r criw

x

Nos Fawrth ydi noson cwis!

Categorïau:

Criw C2Criw C2|13:01, Dydd Mawrth, 28 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Rhaglen Lisa Gwilym - Criw Gwyl y Felin a Chriw Gwyl Bro Dinefwr fydd yn cymryd rhan yn y cwis heno.

Bydd cyfle i chi glywed mwy o ganeuon newydd gan y Sibrydion hefyd - oddi ar eu albym newydd 'Uwchben y Drefn'.

Albym newydd Sibrydion

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|10:04, Dydd Llun, 27 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Cyffro mawr yn y swyddfa bore 'ma - 'da ni wedi derbyn copi o albym newydd y Sibrydion "Uwchben Y Drefn". Fe wnawn ni drio rhoi mwy o fanylion ar y blog yn fuan, ond am rwan, 'da ni gyd am fynd yn ol i wrando a dewis caneuon at heno.

Felly cofiwch - caneuon newydd Sibrydion heno gen i am 8pm!!!

Lisa Gwilym yn edrych yn ol ar yr wythnos

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|21:36, Dydd Gwener, 24 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Haia! Ar ddiwedd wythnos arall, dyma i chi ambell uchafbwynt:

- EP Jen Jeniro, "Swimming Limbs", wedi ein cyrraedd o'r diwedd, ac mae'n wych. Band arbennig arall yn nhraddodiad cerddorol Dyffryn Conwy.

- Chwarae traciau oddi ar EP newydd Trwbador, "Sun in the Winter"", hyfryd o swynol ac arbrofol. Pob lwc i Owain ac Angharad efo taith y Selar (ac i Creision Hud a Sensegur wrth gwrs), a gwellhad buan i Angharad efo'i llygad.

- Griff Lynch wedi fy nghyffroi efo'r newyddion bod yr Ods 'di bod mewn stiwdio recordio am ryw ddeg diwrnod - dwi methu aros i glywed pa swn sy'n dod nesa ganddyn nhw.

- Wedi cael rhagflas o EP newydd Masters in France, "Inhale", sydd allan mis Medi. Y trac "Control" yn swnio'n arbennig o dda, ac mae modd lawrlwytho am ddim o soundcloud y band.

- Poket Trez, triawd newydd o'r gorllewin sy'n rhyddhau cynnyrch ar label MC Mabon, a dwi'n edrych 'mlaen gymaint i gyfarfod a chlywed mwy gan Coco, Dr Feelgood a Lenki!

- Newyddion da am y label newydd "Recordiau Lliwgar", sy'n rhyddhau albym o'r enw "Y Record Goch" fydd yn cynnwys traciau gan Cowbois Rhos Botwnnog, Sensegur a Dau Cefn.

- Dyfyniad yr wythnos gan Geraint Pickard o Clinigol (ein cwmni nos Fercher yn dewis "caneuon i") - "cruises are for the newly wed or the nearly dead"! Tydi Geraint ddim yn hoffi hedfan, felly mwynha dy foradith Ger, a brysia efo'r ail albym "Disgopolis".

- Ac i gloi, mawr ddiolch i bawb am gysylltu heno efo caneuon llawn "wmff" ar gyfer nos Wener, wedi mwynhau lot!

Mwynhewch y penwythnos! Dwi'n mynd i osod pabell yn y lolfa o flaen y bocs a gwylio Glastonbury, gen i gymaint o atgofion spesial o fod yne llynedd yn yr heulwen braf!

Welai chi eto am 8 nos Lun! Lis xx

Caneuon "wmff"

Categorïau:

Criw C2Criw C2|11:15, Dydd Gwener, 24 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Bore da bobol

Ar Twitter a Facebook C2 bore 'ma, 'da ni wedi bod yn holi am ganeuon hefo "wmff" hy caneuon hapus, hwyliog, i ddawnsio a chanu iddyn nhw ar nos Wener. Diolch i bawb am yr awgrymiada'. Dyma restr chwara' ANHYGOEL heno Lisa Gwilym 8pm - 10pm

1 Mr Huw - Petha Bach

2 Mr Huw - Ar Dan

2 SFA - Focus Pocus

3 Foster The People - Pumped Up Kicks

4 Derwyddon Dr Gonzo - Chaviach

5 Masters In France - Yn Y Nos

6 Polarsets - Sunshine Eyes

7 Lladron - Cymeryd Gwyliau

8 Frizbee - Heyla

9 CRB - Os Ti'n Dod Nol

10 Swnami - Mwrdwr Ar Y Manon

11 Beastie Boys - Intergalactic

12 Y Cyrff - Trwy'r Cymylau

13 Cate Le Bon a Plant Duw - Byw Ar Gwmwl

9pm

1 Franz Ferdinand - This Fire

2 Clustiau Cwn - Byw Ar Y Radio

3 Jen Jeniro - Mafall

4 Bon Iver - Album

5 Hanner Pei - Parti

6 Sibrydion - 9 Bywyd

7 Jonsi - Boy Lilikoi

8 Al Lewis - Pryfed Yn Dy Ben

9 Y Rei - rebal Heb Achos

10 Violas - Coeden Deulu

11 The Thrills - Don't Steal Our Sun

12 Edward H Dafis - Rosi

Lisa Gwilym 23/06/11

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|19:53, Dydd Iau, 23 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Helo bobol

Pa ddanteithion cerddorol sy' gen i heno? Wel, tracie newydd gan Masters In France, Trwbador a Poket Trez; albym yr wythnos ydy albym newydd Bon iver; ac fe gawn ni olwg ar Goeden Deuluol Gerddorol Cylchgrawn Y Selar.

Hefyd ynde, mi fydd y Cadwyn Coleg yn cyrraedd Prifysgol Caerdydd, ac mi fydd Catrin Mara yma hefo Clwyddau Catrin

Welai chi mewn ryw 10 munud ar bbc.co.uk/c2

Lis

x

Atgofion am Glastonbury??!

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|11:39, Dydd Mercher, 22 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Heno 'da ni'n chwilio am eich atgofion chi yn Glastonbury - da neu ddrwg!

Hefyd heno - Geraint o Clinigol yn dewis Caneuon i.... a Bethan Lloyd yn trafod Newyddion y Sin.

Dilynwch ni ar Twitter a Facebook

Newyddion Y Bandana

Categorïau:

Criw C2Criw C2|11:54, Dydd Gwener, 17 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Mae Y Bandana yn mynd i fod yn brysur iawn o hyn tan Eisteddfod Wrecsam.

Bydd y band yn perfformio mewn nifer o wyliau yn ystod Mehefin a Gorffennaf gan gynnwys Gŵyl Cefni, Gŵyl Tân Tanat, Taran Tudweiliog, Y Sesiwn Fawr, Gŵyl y Gwachel, a Gŵyl y Ffin.

Mae'r band hefyd wedi trefnu taith o amgylch Cymru ac yn gobeithio cael amser dros yr haf i recordio caneuon newydd.

  • 15 Gorffennaf - Sesiwn Fawr Dolgellau
  • 16 Gorffennaf - Gŵyl y Gwachel, Pontardawe
  • 17 Gorffennaf - 10 Feet Tall, Caerdydd
  • 20 Gorffennaf - Clwb y Bont, Pontypridd
  • 21 Gorffennaf - Tafarn Y Ship, Llangrannog
  • 22 Gorffennaf - Tafarn Y Fic, Llithfaen
  • 23 Gorffennaf - Gŵyl y Ffin

Rap-ioci...

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|17:52, Dydd Iau, 16 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Meddwl fod fersiwn Rapsgaliwn o Hei Mr Urdd yn bling-tastig?

Gwrandewch ar Dodd Com heno pan fydd Ysgol Glan-y-Môr, Pwllheli ac Ysgol Maes-yr-Yrfa, Cefneithin yn gneud fersiynau mwy unigryw fyth o'r gân yn y Cwis Pop heno.... bbc.co.uk/c2 yn fyw am 7

The Deadly Saith: Gwyliwch y Gofod

Categorïau:

Criw C2Criw C2|09:40, Dydd Iau, 16 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Band Gwyliwch y Gofod yr wythnos yma ar Dodd com yw The Deadly Saith.

Band newydd arbennig o gyffrous o ardal Caerfyrddin. 7 aelod yn cyfansoddi a recordio caneuon sydd yn gymysgedd o ska, roc, seicadelia, cerddoriaeth y byd, drwm a bas... Wedi cael adolygiadau gwych am eu perfformiadau byw eisioes, mae nhw'n fand sydd werth cadw llygaid arnyn nhw.

Mi fydda nw'n gigio dros y misoedd nesaf yn ogystal a recordio rhagor o ganeuon, felly cadwch eich llygaid a'ch clustiau ar agor!

Cyflwynydd newydd...

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|18:01, Dydd Mercher, 15 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

ar Dodd Com heno! Sarah Louise Jones o flwyddyn 12 Ysgol Cymer Rhondda fydd mewn da Magi heno bbc.co.uk/c2 yn fyw am 7! Cym hona!

Newyddion VVolves

Categorïau:

Criw C2Criw C2|09:34, Dydd Llun, 13 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

Yn dilyn EP cyntaf VVOLVES yn mis Chwefror, mae'r band wedi rhyddhau dau sengl newydd i'w lawrlwytho am ddim.

Mae'r traciau 'People' a 'Strange Blood' ar gael rwan o wefan bandcamp y band neu o wefan soundcolud peski.

Cerddoriaeth Newydd....

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|15:14, Dydd Mawrth, 7 Mehefin 2011

Sylwadau (0)

... gan fandiau newydd. Heno ar Dodd com cyfle i glywed caneuon gan y bandiau nath gystadlu yng Nghystadleuaeth Roc a Phop yr Urdd gan gynnwys Y Gwirfoddolwyr, Fast Fuse, Bromas a Nebiwla. Dodd Com heno am 7 - bbc.co.uk/c2