Lisa Gwilym yn edrych yn ol ar yr wythnos
Haia! Ar ddiwedd wythnos arall, dyma i chi ambell uchafbwynt:
- EP Jen Jeniro, "Swimming Limbs", wedi ein cyrraedd o'r diwedd, ac mae'n wych. Band arbennig arall yn nhraddodiad cerddorol Dyffryn Conwy.
- Chwarae traciau oddi ar EP newydd Trwbador, "Sun in the Winter"", hyfryd o swynol ac arbrofol. Pob lwc i Owain ac Angharad efo taith y Selar (ac i Creision Hud a Sensegur wrth gwrs), a gwellhad buan i Angharad efo'i llygad.
- Griff Lynch wedi fy nghyffroi efo'r newyddion bod yr Ods 'di bod mewn stiwdio recordio am ryw ddeg diwrnod - dwi methu aros i glywed pa swn sy'n dod nesa ganddyn nhw.
- Wedi cael rhagflas o EP newydd Masters in France, "Inhale", sydd allan mis Medi. Y trac "Control" yn swnio'n arbennig o dda, ac mae modd lawrlwytho am ddim o soundcloud y band.
- Poket Trez, triawd newydd o'r gorllewin sy'n rhyddhau cynnyrch ar label MC Mabon, a dwi'n edrych 'mlaen gymaint i gyfarfod a chlywed mwy gan Coco, Dr Feelgood a Lenki!
- Newyddion da am y label newydd "Recordiau Lliwgar", sy'n rhyddhau albym o'r enw "Y Record Goch" fydd yn cynnwys traciau gan Cowbois Rhos Botwnnog, Sensegur a Dau Cefn.
- Dyfyniad yr wythnos gan Geraint Pickard o Clinigol (ein cwmni nos Fercher yn dewis "caneuon i") - "cruises are for the newly wed or the nearly dead"! Tydi Geraint ddim yn hoffi hedfan, felly mwynha dy foradith Ger, a brysia efo'r ail albym "Disgopolis".
- Ac i gloi, mawr ddiolch i bawb am gysylltu heno efo caneuon llawn "wmff" ar gyfer nos Wener, wedi mwynhau lot!
Mwynhewch y penwythnos! Dwi'n mynd i osod pabell yn y lolfa o flaen y bocs a gwylio Glastonbury, gen i gymaint o atgofion spesial o fod yne llynedd yn yr heulwen braf!
Welai chi eto am 8 nos Lun! Lis xx

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.