Gwyl Taro'r Doc
Heno ar y rhaglen, mi fydda' ni'n cael hanes Gwyl Taro'r Doc gan Gruff Jones. Yn ogystal a chreu cerddoriaeth dan yr enw Crash.Disco! mae Gruff yn ddrymwir o fri (wedi pasio gradd 8!!!!) felly fe ddylai hynny fod yn hynod ddifyr. Mae Gruff hefyd am ddod a remix Crash.Disco! o Y Gwir gan Kronwall hefo fo i'w chwara'.
Mi fydd 'na fwy o ganeuon newydd gan Sibrydion a Huw Haul hefyd, felly welai chi am 8pm
Lis a'r criw
x
ON mi 'dwi hefyd yn gofyn i chi ddisgrifio eich wythnos mewn dim mwy na 3 gair!! Gyrrwch neges!

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.