Y Bandana

Y Bandana

'Caneuon sy'n llawer rhy gafaelgar i gael eu hanwybyddu -band rydych chi'n ei adnabod yn syth.' (SMR o'r MMP)

Sefydlwyd y band Indie-Roc ifanc yn haf 2007 gan Tomos a Sion Owens. Yna ymunodd Gwilym Rhys, (er ei fod prin yn gallu chwarae gitar ar y pryd), ond wedi ychydig o ymarfer, mentrodd y band a chymryd rhan ym Mrwydyr y Bandiau yn Galeri Gaernarfon a dod yn ail. Roedd hyn yn ddigon o sbardun i'r band barhau ac ymunodd Robin Jones fel drymiwr.

Aeth y band ymlaen i ennill ail ym Mrwydr y Bandiau Maes B 2008 ac yna ennill Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn yr un flwyddyn. Wedi hyn, aeth Y Bandana o nerth i nerth gan chwarae 40 gig yn 2009 a mwy yn 2010.

Yn 2011 rhyddhaodd y band yr albwm, Y Bandana ar label Copa gan ennill clod am yr alawon gafaelgar a phopaidd. Gwnaeth Cân y Tân yn arbennig daro deuddeg a chipio gwobr y Gân Orau am 2011 yng Ngwobrau Y Selar.

Gyda thinc storïol 'Belle and Sebastian' ac asbri'r 'Arctic Monkeys', mae yna synnwyr digrifwch amlwg yn eu caneuon yn arbennig Clywch Clywch Buwch,Anturiaethau Sali Mali a Siwgr Candi Mel.

Ymhlith dylanwadau cerddorol Y Bandana mae yna ystod eang o artistiaid sy'n cynnwys Led Zeppelin, Queen, Jimi Hendrix Experience ac eraill. Yn wir, mae'n braf gwrando ar gerddoriaeth llawn egni sy ddim yn ddiflas a sy ddim yn cymryd ei hun yn rhy ddifrifol. Hir Oes i Y Bandana!

Sesiynau

Y Bandana

Y Bandana

05 Rhagfyr 2011

Sesiwn gan Y Bandana yn arbennig ar gyfer sioe C2 Huw Stephens

Caneuon Nadolig Sesiwn C2

Caneuon Nadoligaidd â recordiwyd yn arbennig i C2.

Y Bandana

1 Medi 2009

Sesiwn newydd gan Y Bandana

Adolygiadau

Y Bandana - Dal Dy Drwyn

Y Bandana - Dal Dy Drwyn

02 Awst 2010

Beth yw barn yr adolygwyr am sengl Y Bandana - Dal Dy Drwyn?

Eraill


[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

BBC Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.