Caneuon newydd plis!
Helo bawb
Wel, 'da ni bron a dod i ddiwedd fy ail wythnos 'nol ar C2 (ma' 'na gêm rygbi nos fory felly fydda' i ddim yma!) a dwi di joio'n arw hyd yn hyn.
Un peth dwi 'di bod yn hynod falch ohono ydy ein bod ni wedi llwyddo i chwara' lot fawr o gerddoriaeth newydd wych yn y rhaglenni cynta'. Mae album newydd The Gentle Good yn gasgliad hynod o brydferth a chyfoethog; CD Cowbois Rhos Botwnnog yn ffefryn yn syth - cymysgedd o ganeuon torcalonus a chanu gwlad hwyliog; braf gweld EP arbennig o dda gan fand hollol newydd Sensegur; ac mae Mr Huw yn ol hefo geiria gwych a chaneuon bachog hefo'r album Gogleddwyr Budr.
OND, nid da lle gellir gwell, a 'da ni wastad yn chwilio am ganeuon newydd sbon i'w chwara'. Felly, os yda' chi'n aelod o fand, neu'n nabod rhywun sy' mewn band, neu hyd yn oed just wedi gweld band newydd yn fyw, gadewch i mi wybod.
Cysylltwch hefo fi ar ebost ac mi wna i drefnu i gael mp3, neu gyrrwch CDs at:
Lisa Gwilym
C2
Bryn Meirion
Bangor
Gwynedd
LL57 2BY
Neu i ddanfon cynnyrch at gyflwynwyr C2 yng Nghaerdydd (Magi Dodd ar Dodd com, Huw Stephens, Ifan Evans, Daniel Glyn, a Huw Evans) gyrrwch nhw i:
C2,
BBC Radio Cymru,
Y Ganolfan Ddarlledu,
LLandaf,
Caerdydd,
CF5 2YQ
Neu gallwch eu e-bostio at: c2@bbc.co.uk
Plis pasiwch y neges ymlaen!
Lisa
x

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.