C'mon Midffild a'r Dyn Nath Ddwyn y Dolig
Newyddion da i ffans C'mon Midffild - bydd S4C yn dangos rhaglen arbennig yn dathlu goreuon y gyfres eiconig, wedi eu dewis gan y gwylwyr.
Mae'r sianel am i'r gwylwyr helpu i ddewis eu hoff benodau, golygfeydd, cymeriadau, a hyd yn oed linellau enwog o'r gyfres gomedi.
Gallwch enwebu eich ffefrynnau drwy lenwi ffurflen ar-lein ar www.s4c.co.uk/cmonmidffild, neu drwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141 (6c y funud o linell BT).
Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig
Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o bobl wedi bod yn ysu i S4C ail-ddarlledu'r ffilm 'Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig' - ffilm gafodd ei dangos yn wreiddiol nol yn 1985, ac sy'n dathlu ei phenblwydd yn 25 oed eleni.
Bydd y ffilm, sydd yn dilyn antur dwy ferch wrth iddyn nhw geisio achub y Nadolig o grafangau'r gelyn Mordicai, yn cael ei darlledu ar S4C ar ddiwrnod Nadolig. Gyda chast gwych sydd yn cynnwys Emyr Wyn, Llio Millward, Meic Povey a Delyth Morgan - dwi'n un sydd yn sicr yn edrych ymlaen i weld y ffilm unwaith eto.

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.