« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Gruff Rhys - albwm newydd a'i ffilm Separado!

Categorïau:

Robin Owain JonesRobin Owain Jones|17:37, Dydd Iau, 18 Tachwedd 2010

Ar raglen Dodd com ar www.bbc.co.uk neithiwr fe soniodd Gruff am albym unigol newydd Gruff Rhys, a'r daith a ffilm newydd sydd ganddo hefyd.

Bydd yr albym Hotel Shampoo yn cael ei ryddhau ar Chwefror 14eg, 2011 ar label OVNI (TURNSTILE) ar ffurf, feinyl, CD ac yn ddigidol. Bydd yr albym yn cynnwys 14 o draciau newydd:

Shark Ridden Waters

Honey All Over

Sensations In The Dark

Vitamin K

Take a Sentence

Conservation Conversation

Sophie Softly

Christopher Columbus

Space Dust #2

At The Heart Of Love

Patters Of Power

If We Were Words (We Would Rhyme)

Rubble Rubble

Gallwch wylio fideo sydd yn cyd-fynd a thrac cyntaf yr albym, Shark Ridden Waters, ar wefan Gruff Rhys - www.gruffrhys.com.

Mae Gruff newydd ddychwelyd o Wyl Ffilm Rhyngwladol Copenhagen lle bu'n dangos ei ffilm SEPARADO! Gallwch weld Separado yn y canolfannau yma:

Tachwedd 19, 20 a 21 - Hen Neuadd y Farchnad, Amwythig

Rhagfyr 2 - Caffi'r Chwarel, Machynlleth