« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Dartiau a Steddfod Ffermwyr Ifanc

Categorïau:

Ifan EvansIfan Evans|17:58, Dydd Mawrth, 23 Tachwedd 2010

Dyma fi yn sgwennu fy mlog cynta ar wefan c2. Dwi wrthi'n paratoi ar gyfer fy rhaglen heno sydd arno am 10 o'r gloch, a dwi di cal wthnos brysur iawn rhwng bob dim ers fy rhaglen ddwetha.

Fues i'n chware darts nos Fercher gyda thîm y dafarn lleol, ond dwi fawr o chwaraewr darts - a gweud y gwir, dwi heb ennil un gem mewn 6 wthno, "trebles for show, doubles for dough" fel ma 'rhen cyn chwaraewr dartiau Bobby George yn gweud. Ac ar nos wener fues i'n chware pool, a dwi lot gwell yn bwrw pel gyda darn o bren nag ydw i yn taflu darten.

Hefyd mi o'dd fy annwyl Bont FC (Pontrhydfendigaid) yn chware clwb pel droed Tregaron dydd sadwrn (derby lleol) ond yn anffodus o ni methu chware achos mi o ni yn y Neuadd Fawr yn Aberystwyth yn cyflwyno o Eisteddfod Y Ffermwyr Ifanc i S4C - pam fod bob dim wastad arno ar yr un dyddiad gwedwch!

Ta beth, mi odd hi'n noson wych ac yn gyfle i'r genedl weld y wledd o dalent sydd i gal yng nghefn gwlad. Fy hoff berfformiad heb os oedd Sam Jones o glwb ffermwyr ifanc Tregaron yn gwneud ei adroddiad digri, mi odd e werth I weld - hilariws!

Ond nol at y rhaglen heno, cofiwch wrando am 10. Fy ngwestai arbennig yw Courtenay Hamilton (Miss Cymru) ac yn anffodus mae hi yn Llundain, felly ga'i ddim y cyfle i'w llongyfarch yn bersonol ar ei theitl - ha! Hefyd mi fydd Owain Llyr yma gyda golwg 'chydig yn wahanol ar chwaraeon y penwythnos, wastad yn bleser cal i gwmni. Felly cofiwch diwnio fewn, a chysylltu am unrhyw reswm am 10 o'r gloch.

Ta ta, tan toc.