Llongyfarchiadau i Ysgol Brynrefail!
Ie, llongyfarchiadau gwresog i Ysgol Brynrefail!
Mi oedd hi'n frwydr agos rhwng Ysgol Brynrefail ac Ysgol Tryfan yn rownd derfynol Cwis Pop C2 heno ar Dodd Com.
Ond y criw o Lanrug aeth a hi a hynny o 1 pwynt yn unig!
Mi oedd Glyn a Magi yn gytun mai dyma'r cwis agosa a gorau iddynt fod yn rhan ohoni erioed.
I ail-fyw'r cyffro - a coeliwch chi fi mae'n werth gwneud - ewch i dudalen Dodd Com ar wefan C2.
Mi fydd yr hwyl i gyd yn cael ei ailddarlledu am hanner nos ar FM ac wrth gwrs ar gael i chi ar yr iplayer am y 7 diwrnod nesa!
Hefyd ar Dodd Com heno cadarnhaodd Paul Thomas o Gwibdaith Hen Fran y newydd trist ei fod o a Rob Buckley yn gadael y band.
Ond, y newyddion da ydi y bydd 'Y Fran' yn dal i 'wibio' gyda aelodau newydd sbon!
Hwyl
Criw C2 x

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.