BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 18 Tachwedd 2010

Fiji yn parhau yn gysgod dros Gymru - McBryde

Mae'r golled annisgwyl yn erbyn Fiji yng Nghwpan y Byd 2007 yn parhau yn gysgod dros chwaraewyr Cymru, yn ôl hyfforddwr y blaenwyr Robin McBryde.

Y siom yn amlwg ar ôl i Gymru golli i Fiji yn 2007

Roedd McBryde yn rhan o dîm hyfforddi Gareth Jenkins wrth i gais hwyr Graham Dewes sicrhau buddugoliaeth o 38-34 i Fiji yn Nantes, ac yn rhwystro Cymru rhag cyrraedd rownd yr wyth olaf yn y broses.

Collodd Jenkins ei swydd yn sgil y canlyniad yna, ac wrth i'r ddau dîm baratoi i gwrdd am y tro cyntaf ers hynny nos Wener, dywed McBryde bod y gêm yn dal i frifo.

"Mae o dal yn gysgod dros y chwaraewyr oedd wedi cymryd rhan yn y gêm yna, does 'na ddim amheuaeth," meddai McBryde.

"Mae hynny [y canlyniad] wedi cael ei drafod ar ddechrau'r wythnos, ond mae pethau'n gallu newid yn gyflym iawn yn rygbi.

"'Da ni wedi canolbwyntio mwy ar eu gêm nhw'r wythnos diwethaf yn erbyn Ffrainc yng nghanol y gwynt a'r glaw, a hefyd mynd yn nol i'r haf pan oedden nhw'n chwarae gyda'i gilydd.

"'Da ni wedi canolbwyntio ar y gemau yna ond mae'r ddraenen o golli yn erbyn Fiji yng Nghwpan y Byd dal yna hefyd."

Colli 34-12 wnaeth Fiji yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn, ac mae'r hyfforddwr Sam Domoni wedi gwneud wyth newid ar gyfer y gêm yng Nghaerdydd.

Bydd chwe aelod o'r garfan a gurodd Cymru tair blynedd yn ôl - gan gynnwys y prop Dewes, sydd ar y fainc - yn bresennol yn Stadiwm y Mileniwm.

Mi fyddai hynny'n wyth oni bai bod Seru Rabeni a Wame Lewaravu wedi cael eu rhwystro rhag gadael Ffrainc oherwydd problemau gyda'i fisas.


Cymru: Lee Byrne; George North, James Hook, Andrew Bishop, Aled Brew; Dan Biggar, Richie Rees; Paul James, Huw Bennett, Adam Jones, Ian Gough, Deiniol Jones, Ryan Jones (capten), Dan Lydiate, Jonathan Thomas
Eilyddion: Richard Hibbard, John Yapp, Bradley Davies, Toby Faletau, Mike Phillips, Stephen Jones, Tom Shanklin.

Fiji: J Matavesi; M Tagicakibau, A Vulivuli, G Lovobalavu, V Goneva; S Bai, N
Kenatale; C Ma'afu, V Veikoso, D Manu (capten), I Rawaqa, J Qovu, S Saukawa, M
Ravulo, S Koyamaibole.
Eilyddion: T Talemaitoga, G Dewes, S Kalou, A Qera, S Taka, R Ratu, T
Rawaqa.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy