Tair wythnos o'r daith wedi dod i ben!
Ma nhw'n dweud bod amser yn hedfan pan ych chi'n cael amser da - ac ma'r tair wythnos dwetha yn brawf o hynny.
Nethon ni ddechre ar "home turf" - ysgolion y de gafodd y pleser o gwmni Taith C2 Bandit yr wythnos gynta. Ysgol Rhydywaun yn sefyll mas i fi gan mai dyma f'ardal. Roedd y disgyblion mor frwdfrydig a hoffus. Roeddwn ni wrth fy modd yn eu cwmni - nath y profiad fynd â fi nol i fy nyddiau ysgol i yn Rhydfelen... dyddie gore'ch bywyd and all that...
Nes i a Glyn deithio lan i'r gogledd ar gyfer ail a thrydedd wythnos y daith. Gethon ni groeso arbennig ym mhob un ysgol a licen ni ddiolch yn fawr i'r staff a'r disgyblion am neud i ni deimlo mor gartrefol yn eu hysgolion. Un peth bach - dyma Glyn yn dweud wrthai fod rhai o ddisgyblion y gogs ddim yn deall fy acen! Ddim yn deall fy valleys twang?? Pwy sa'n meddwl? Ond ware teg nath Glyn job dda iawn yn cyfieithu ar y pryd i fi mewn mwy nag un ysgol.
Ma cael y fraint o wylio Y Rei - band y daith yn perfformio bob pnawn wedi bod yn anygoel. Ma'r tri aelod, Aron, Rich ac Alex yn gerddorion ac yn berfformwyr arbennig iawn. Ma nhw'n mynd i fod yn ANFERTH! Bandiau eraill y daith fel Amlder, Creision Hud ac yr anhygoel Frizzbee yn profi bo' gymaint o dalent cerddorol yng Nghymru ar hyn o bryd.
Wythnos arall i fynd ac fe fydd Taith C2 Bandit 2007 wedi dod i ben - ond dwi ddim yn meddwl fod hi'n rhy gynnar i ddweud, mai dyma'r daith ore' erioed! Taith C2 Bandit 2008? Co ni off de!

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.