« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ysgol Glan y Môr

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|16:22, Dydd Mercher, 10 Hydref 2007

Diwrnod hyfryd o Hydref, a'r haul yn tywynu'n braf ar Ysgol Glan y Môr Pwllheli! Job fi bore 'ma oedd cynnal gweithdy radio efo Glyn Wise! Gafon ni lot o hwyl, a tri rhaglen radio gret erbyn diwedd y sesiwn. Os da chi'sio gw'bod mwy am yr hyn da ni'n ei wneud mewn gweithdy o'r fath, darllenwch blog ddoe. Ond ie, cymeriadau eto heddiw, dychymyg da, a lot ohonynt yn licio canu! Deuawd pop perffaith - "Sam ac Amanda o Big Brother 8" efo'u fersiwn Gymraeg o "Barbie Girl" gan Aqua! Gafon ni fersiyne eitha unigryw o "Pishyn" a "Mi welai jac y do..." hefyd! Heb anghofio, y "John ac Alun" ifanc, sef Sion a Gruffudd, o'dd yn hilariws efo'u hiwmor naturiol. Do, nes i chwerthin lot efo Glyn a criw Glan y Mor!

Mae'r daith yn Ysgol Dyffryn Nantlle 'fory, a dwi'n ail ymuno efo'r criw yn Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch bore dydd Mawrth. Sy'n golygu bod fi'n rhydd am y dyddie nesa 'ma i ganolbwyntio ar fy rhaglen newydd ar C2, a dwi'n rili edrych mlaen, achos nos fory, mae gen i sesiwn acwstic ola erioed Kentucky AFC a cwpwl o ganeuon newydd gan Radio Luxembourg! Gwych! Felly welai chi am ddeg nos fory - hwyl! x

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:41 ar 11 Hydref 2007, Gareth o'r Treffynnon ysgrifennodd:

    Heia Lis,

    Balch i clwyed am yr daith ar yr blog newydd hwn. Dwi'n hoffi yr gwefan newydd, heffyd.

    Pwb lwc mawr iawn hefo rhaglen 10:00pm cyntaf.

    Ta ta am yr tro Lis xxxxx