Hiwmor Harlech
Ysgol Ardudwy, Harlech, oedd lleoliad taith C2 Bandit heddiw, a mi gawsom ni ddiwrnod gret arall! Mae'r ysgol yn dechre'n gynnar am 08.15, felly roedd rhaid codi am chwech bore 'ma i gyrraedd yr ysgol mewn pryd! Dwi'm yn cofio'r tro d'wetha i mi neud hynny, ond chware teg, gafon ni sawl paned o goffi gan yr ysgol, a chacennau neis i gadw ni fynd drwy'r bore, felly diolch yn fawr am rheini!
Ond ie, bore 'ma, o'dd Magi a Glyn yn cynnal gweithdy radio efo tua 30 o ddisgyblion blwyddyn 10 ac 11. Job fi bore 'ma oedd arsylwi achos o ni erioed 'di bod mewn gweithdy o'r fath o'r blaen. Nath y ddau esbonio be oedd C2, pwy sy'n cyflwyno a phryd, esbonio manylion technegol, a rhoi cyngor ar sut mae mynd ati i greu rhaglenni da ayyb. Ar ol rhannu'r disgyblion i dri grwp, roedd rhaid penderfynnu pwy oedd y cyflwynwyr, cynhyrchwyr, a'r technegwyr, a roedd gweddill y grwp yn cael smalio bod mewn band enwog! Pawb wedyn i fynd ati i greu rhaglen, ac erbyn diwedd y sesiwn, mi gafon ni dair rhaglen gret gan y tri grwp. Lot o hiwmor yn Harlech!
Cinio ysgol, a wedyn sioe yn y pnawn! Y Rei a Frizbee oedd wrthi eto heddiw, a fel ddoe, pawb yn mwynhau'r gerddoriaeth! Lot o swn a sgrechian! Er gwybodaeth, mae Alex Moller, drymiwr arbennig y Rei, yn gyn-ddisgybl Ysgol Ardudwy.
'Mlaen a ni i Bwllheli, a dwi'm angen codi tan tua saith bore fory... Hwyl! x

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.