Dathliadau Nadolig wedi dechrau!
Hydref 24, 2007 a ma fy nathliadau nadolig i wedi dechrau yn swyddogol am leni.
Hwre! Fi'n caru Nadolig!
Fi'n gwbod falle bo rhai ohonoch chi yn meddwl fod Hydref yn rhy gynnar (Daf Du - fi'n siarad da ti!) ond dyw e ddim...
Dyma'r rhesymau fy mod yn dechre fy mharatoadau Nadolig nawr:
* Daeth Emma adre gyda catalog Nadolig Boots a Marks'n'Spencers
* Fi di gweld oleia 3 hysbyseb ar y teledu gyda Sion Corn ynddyn nhw
* Nath 2 o ddisgyblion Ysgol Tryfan, Bangor ofyn i fi chware Sion Corn gan Gola Ola ar fy rhaglen
* Nes i weld dynion y cyngor yn rhoi goleuadau dolig Caerdydd lan
* Fi di gweld Robin Goch
A wedyn y geiriosen ar y gacen - neu falle y celyn ar y log-nadolig oedd gweld y tŷ hwn yn Grangetown….

Ie - roedden nhw wedi addurno'i ty a rhoi eu coeden dolig lan yn barod! Parch!
Ac os nad yw hynny'n ddigon - edrychwch be weles i yn cael eu gwerthu mewn siop fara yng Nghaerdydd!

Felly - gyfeillion - ymunwch â fi yn y dathlu! Mae'n amser dathlu'r dolig! Os ych chi'n gweld unrhyw arwyddion Nadolig o gwmpas eich tref/bentref/ysgol/coleg anfonwch y llun aton ni a newn ni roi nhw lan ar y safle!
Anfonwch lun yn syth o'ch ffôn i 07786 20 10 30, neu ebostiwch c2@bbc.co.uk
Nadolig Llawen i chi gyd!

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.