Parc y Ddraig - canolfan datblygu newydd
Daeth y copi diweddaraf o'r 'Llais' sef cylchgrawn Cymdeithas Beldroed Cymru heibio'r wythnos diwethaf. Cylchgrawn diddorol sydd yn sicrhau ein bod yn gyfarwydd â'r datblygiadau diweddaraf o fewn y Gymdeithas.
Da ydi dysgu fod canolfan datblygu newydd, Parc y Ddraig, ar fin cael ei hagor yng Nghasnewydd ym mis Mai. 'Da fyd im' yw dyfod Mai', efallai wir - yn sicr ym myd datblygu a gwella adnoddau peldroed mae hyn newyddion da iawn!
Caiff ei ddisgrifio yn 'Y Llais' fel canolfan Genedlaethol newydd a chyffrous, lle bydd chwaraewyr a hyfforddwyr talentog yn cael eu hysbrydoli i helpu Cymru lwyddo ar y llwyfan rhyngwladol. Yma hefyd fydd y pencadlys ar gyfer Ymddiriedolaeth Beldroed Cymru.
Nid llwyddiant dros nos fodd bynnag sydd i'w ddisgwyl, ond gyda'r adnoddau ar gael, ar gyfer pob tîm cenedlaethol o fewn Cymru, yn gallu elwa ar y cae glaswellt artiffisial, ystafelloedd triniaethau, pyllau plymio a nifer o ystafelloedd cyfarfod. Mae'r gymdeithas eisoes wedi cyhoeddi eu gweledigaeth ar gyfer gwelliant, a dyma un o'r mannau mwyaf amlwg tuag at wireddu' weledigaeth honno.
Prif nod y ganolfan fydd gwella safonau peldroed ar bob lefel yng Nghymru, a bydd hefyd yn gallu cynnal amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi gan gynnwys cyrsiau trwyddedu UEFA, a fydd yn hybu safonau hyfforddi ymhellach.
Rhaid nodi yma fod safon y cyrsiau yma, sydd yn cael eu cynnal o dan arweiniad Cyfarwyddwr Technegol y Gymdeithas, Osian Roberts, eisoes wedi gwneud eu marc a thynnu sylw ar hyd a lled y byd peldroed, ymhell o Gymru. Dywedodd Osian yn ' Y Llais', y bydd Parc y Ddraig yn gartref o ansawdd lle gelir cynnal rhaglen addysgu i hyfforddwyr a datblygu chwaraewyr. Cred fod y cyfleusterau o'r fath yn holl bwysig er mwyn cynnal yr hyfforddiant a'r gwaith technegol sydd eu hangen er mwyn cyflawni nod y Gymdeithas yn y pendraw, sef cynhyrchu gwell chwaraewyr a hyfforddwyr ar gyfer y dyfodol".
Tipyn o ddatblygiad ers y dyddiau pan oeddwn yn gweithio fel hyfforddwr rhanbarthol rhan amser i'r Gymdeithas rhai blynyddoedd yn ôl a hynny, yr adeg honno yn cael ei hystyried fel tipyn o ddatblygiad arloesol ynddi ei hun.
Ond gwaith un dyn oedd hwnnw, heb fawr o adnoddau gan ddibynnu ar awch ac ymroddiad. Erbyn heddiw mae'r datblygiadau wedi dod yn llawer mwy proffesiynol, wedi esblygu yn gyfoes, ac, a dweud y gwir, yn gwneud i mi deimlo yn eiddigeddus fel na fyddwn yn cael ail fyw'r profiad o fod yn rheolwr ifanc unwaith eto, ac elwa ar y cyfleusterau a'r cyfleoedd sydd ar gael i bob hyfforddwr a chwaraewr heddiw.
Pob dymuniad da i Osian, yr Ymddiriedolaeth a'r Gymdeithas ar eu menter ddiweddaraf i ymrwymo'u hunain tuag at wella safonau peldroed ar hyd a lled y wlad.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 